Opportunities & Events

Age Cymru: Agor drysau, bywydau cysylltiedig

Summary:

Mae'n bleser gennym gyhoeddi fod Age Cymru’n lansio ymgyrch genedlaethol newydd – Agor drysau, bywydau cysylltiedig – i helpu i ail-lunio'r sgwrs gyhoeddus am gartrefi gofal yng Nghymru.

Content:

Beth yw’r ymgyrch?

Nod ‘Agor drysau, bywydau cysylltiedig’ yw:

  • Gwella dealltwriaeth o ba mor werthfawr yw’r berthynas rhwng cartrefi gofal a’r gymuned. 
  • Herio hen stereoteipiau am heneiddio a gofal preswyl
  • Galluogi cartrefi gofal i ymgysylltu'n hyderus â chymunedau a phartneriaid lleol

Helpwch i newid y sgwrs

Trwy helpu pobl hŷn a theuluoedd i ddod o hyd i wybodaeth, rydyn ni’n helpu i newid y sgwrs am gartrefi gofal.  Mae cartrefi gofal yn medru bod yn llefydd sy’n darparu cysylltiad, cymuned, a dewis.


Gadewch i ni helpu pobl i wneud dewisiadau cadarnhaol a chreu cymunedau mewn cartrefi gofal lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu gwerthfawrogi a'u cysylltu.


Sut gallwch chi gymryd rhan:

Gwefan: agecymru.wales/opendoors  

E-bost: carehomes@agecymru.org.uk

Ffôn: 029 2043 1555

Search