Opportunities & Events

Adrodd Straeon Digidol ar gyfer Iechyd

Location: Amgueddfa'r Glannau, Abertawe | Start Date: 17-19 Mehefin 2021

Summary:

Rydyn ni’n chwilio am hyd at 30 o bobl - sef ymarferwyr a meddylwyr - i ymuno â ni am ddeuddydd o sgwrsio yn Abertawe ym mis Mehefin 2021.

Content:

Bydd pawb sy'n dod i'r digwyddiad yn gwneud cyflwyniad a bydd y sesiynau'n cael eu ffilmio i greu digwyddiad ar-lein ar gyfer cymuned ehangach yn yr Hydref. Nod Gwella gwasanaeth iechyd y DU ymhellach drwy ddatblygu straeon digidol Amcanion Dod ag ymarferwyr allweddol at ei gilydd Cyflwyno sesiynau sy'n ysgogi dealltwriaeth newydd a ffyrdd newydd o feddwl Darparu amser ar gyfer sgyrsiau ar y llwyfan ac oddi arni Creu adnoddau ffilm i barhau i ddatblygu'r gymuned o ymarferwyr ar-lein yn dilyn y digwyddiad Cynnwys llunwyr polisi, cyllidwyr a dylanwadwyr yn y sgwrs Hoffech chi fod yn un o'r 30 o bobl yn y digwyddiad? Ydych chi'n glinigwr sydd wedi newid ei arferion o ganlyniad i stori ddigidol, neu’n glaf sydd wedi adrodd stori, neu’n storïwr digidol sy'n gweithio ym maes iechyd, neu’n rhywun sy'n comisiynu straeon digidol yn y gwasanaeth iechyd neu’n feddyliwr sydd â syniadau a safbwyntiau i'w rhannu? A oes gennych chi rywbeth i'w ddweud am foeseg, am ffurfiau naratif, am estheteg, am sut mae straeon wedi arwain at welliannau o ran ansawdd, am yr effaith emosiynol ar yr adroddwr, neu am yr anawsterau, neu a ydych chi’n datblygu neu'n gwerthuso'r arfer mewn ffyrdd newydd? Mae gennym ni ddiddordeb mewn hwyluso sgyrsiau am bob agwedd ar yr arfer o adrodd straeon digidol, sef arfer sy'n datblygu ar draws y GIG yn y DU. Beth sy'n gweithio a beth nad yw’n gweithio.... Os oes gennych chi bwnc sy'n ymwneud ag adrodd straeon digidol ym maes iechyd a hoffech ei gyflwyno, naill ai ar ffurf ysgogiad, perfformiad neu sgwrs â rhywun arall ar y llwyfan, yna lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gyflwyno sydd ar gael ar www.artsinhealth.wales/gathering2021 Dyddiad cau: 22 Chwefror 2021 Edrychwn ni ymlaen at glywed gennych chi, Prue, Emily a Lesley

Search