WAHWN News
Maniffesto Celfyddydau, Iechyd a Llesiant

Mae’r celfyddydau’n rym pwerus ar gyfer llesiant unigol a chymdeithasol, meithrin gwydnwch, cyswllt cymdeithasol a gwell iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol. Ceir corff sylweddol a chynyddol o dystiolaeth sy’n dangos gwerth economaidd a chymdeithasol buddsoddiadau hirdymor yn y celfyddydau i gefnogi iechyd meddyliol a chorfforol. Yn ogystal, mae tystiolaeth yn dangos bod cynyddu cyswllt â’r celfyddydau’n gallu helpu i liniaru effeithiau negyddol byw mewn ardaloedd llai cefnog.
Mae’r celfyddydau a diwylliant wedi’u gwreiddio drwy bolisïau, fframweithiau a strategaethau allweddol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant a’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ysgogwr allweddol yng Nghymru i annog cyrff cyhoeddus i wreiddio celfyddydau a diwylliant yn eu nodau llesiant.
Wrth i Gymru agosáu at etholiadau’r Senedd yn 2026, rydym ni’n annog yr holl bleidiau gwleidyddol i ymrwymo i weithredu beiddgar a thrawsnewidiol i wreiddio’r celfyddydau yn y systemau iechyd a gofal cymdeithasol.
Rydym yn galw am y pum ymrwymiad allweddol canlynol i sicrhau bod y celfyddydau a diwylliant yn chwarae rhan ganolog wrth ffurfio Cymru fwy iach a mwy egnïol:
1. Penodi Ysgrifennydd Cabinet dros y Celfyddydau a Diwylliant
Fel yr argymhellwyd gan Gomisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, rhaid i Gymru ddyrchafu’r celfyddydau a diwylliant o fewn y llywodraeth drwy benodi Ysgrifennydd Cabinet penodol i hyrwyddo’r sector a sicrhau y caiff ei integreiddio mewn polisïau cenedlaethol.
2. Comisiynu Adolygiad Iechyd Creadigol
Bydd adolygiad cynhwysfawr o fentrau iechyd creadigol yn asesu eu heffaith, nodi arferion gorau ac yn llywio penderfyniadau polisi yn y dyfodol. Bydd yn adeiladu carfan gref o hyrwyddwyr ac eiriolwyr iechyd creadigol ar draws yr holl gyrff cyhoeddus. Bydd yr adolygiad yn sicrhau y caiff ymyriadau’n seiliedig ar y celfyddydau eu hysgogi gan dystiolaeth a’u hintegreiddio’n effeithiol mewn strategaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gyfrannu at atal, adfer a lleihau anghydraddoldebau mewn deilliannau iechyd.
3. Buddsoddi mewn Cynllun Cenedlaethol o Atgyfeirio at y Celfyddydau
Bydd cynllun cenedlaethol o atgyfeirio at y celfyddydau yn galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i atgyfeirio cleifion at ymyriadau celfyddydol yn seiliedig ar dystiolaeth, gan gefnogi iechyd meddwl, cynhwysiant cymdeithasol a llesiant cyffredinol fel yr amlygwyd yn y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol. Bydd y fenter yn adeiladu ar fodelau llwyddiannus presennol (e.e. y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff) ac yn sicrhau mynediad teg ledled Cymru.
4. Buddsoddi mewn Rhaglen Datblygu’r Gweithlu i Weithwyr Proffesiynol Ledled Sector y Celfyddydau ac Iechyd
Bydd y rhaglen yn meithrin gallu yn sector y celfyddydau ac iechyd, gyda hyfforddiant, datblygu proffesiynol a llwybrau gyrfa cynaliadwy i ymarferwyr sy’n gweithio ar y croestoriad rhwng y celfyddydau ac iechyd, ac yn galluogi Cymru i ymateb yn effeithiol i’r galw cynyddol am ddulliau ataliol creadigol i fynd i’r afael ag iechyd meddyliol a chorfforol.
5. Diogelu’r celfyddydau a’u helpu i ddatgloi eu potensial llawn i drawsnewid bywydau, atal salwch a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb
Yn unol ag uchelgais Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol rhaid diogelu’r celfyddydau a diwylliant a dylid cydnabod yn ffurfiol eu rôl mewn gofal iechyd ataliol, cefnogi iechyd meddwl, lleihau ynysu cymdeithasol a hyrwyddo iechyd a llesiant cyffredinol. Bydd buddsoddi mewn strategaethau ataliol yn seiliedig ar y celfyddydau’n lleihau costau gofal iechyd tymor hir ac yn gwella ansawdd bywyd ledled Cymru, yn enwedig i’r rheini sy’n profi anghydraddoldebau iechyd.
Nid moethusrwydd yw’r celfyddydau — maent yn anghenraid er mwyn sicrhau Cymru fwy iach, fwy cysylltiedig. Rydym yn annog yr holl bleidiau gwleidyddol i ymrwymo i’r camau gweithredu hyn a sicrhau bod y celfyddydau a diwylliant yn cael eu hintegreiddio’n llawn mewn strategaethau iechyd a llesiant.
Gyda’n gilydd, gallwn greu Cymru lle mae creadigrwydd yn ffynnu, iechyd yn gwella a chymunedau’n llwyddo