WAHWN News
Ymateb i Ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 - Craffu Ôl-Ddeddfwriaethol

Rydyn ni’n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y craffu ôl-ddeddfwriaethol hwn ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Fel sector cenedlaethol sy’n cefnogi’r celfyddydau iechyd a llesiant yng Nghymru, rydyn ni’n dadlau'n gryf dros rôl hollbwysig y celfyddydau wrth gefnogi iechyd a llesiant unigolion a chymunedau. Mae’r Ddeddf wedi darparu fframwaith arloesol i ymgorffori datblygiad cynaliadwy traws-sector, cydlyniant cymdeithasol a llesiant diwylliannol i bolisi cyhoeddus.
Rydyn ni wedi croesawu’r 50 argymhelliad a gyhoeddwyd yn y Ddeddf, sydd bellach yn 10 oed, yn enwedig eu galwad am Fil Diwylliant, a’r pwyslais ar atal fel egwyddor allweddol, gan annog cyrff cyhoeddus i gymryd camau rhagweithiol i wella llesiant yn hytrach nag ymateb i broblemau ar ôl iddynt godi. Yng nghyd-destun y celfyddydau ac iechyd, mae'r dull hwn wedi'i gydnabod fel adnodd gwerthfawr ar gyfer hyrwyddo llesiant meddyliol a chorfforol tra’n lleihau'r pwysau ar wasanaethau gofal iechyd.
Mae'r pwyntiau allweddol sy'n ymwneud â'r celfyddydau, iechyd ac atal o dan y Ddeddf yn cynnwys:
• Presgripsiynu Cymdeithasol: Mae’r Ddeddf yn cefnogi mentrau sy’n integreiddio’r celfyddydau i ofal iechyd, fel presgripsiynu cymdeithasol, lle caiff unigolion eu hatgyfeirio i weithgareddau creadigol i wella iechyd meddwl a llesiant cymdeithasol.
• Iechyd a Llesiant Meddyliol: Mae ymyriadau sy'n seiliedig ar y celfyddydau wedi cael eu hamlygu fel rhai effeithiol wrth fynd i'r afael â heriau iechyd meddwl, gan gynnwys dementia a chlefyd Parkinson, drwy feithrin cysylltiadau cymdeithasol a gwydnwch emosiynol.
• Ymwneud â’r gymuned: Mae’r Ddeddf yn annog cyrff cyhoeddus i gydweithio â sefydliadau celfyddydol i greu rhaglenni hygyrch, cynhwysol sy’n cefnogi llesiant ac yn osgoi ynysigrwydd cymdeithasol.
• Cynaliadwyedd Hirdymor: Drwy ymgorffori’r celfyddydau i strategaethau iechyd, nod y Ddeddf yw creu dulliau cynaliadwy, ataliol sy'n lleihau dibyniaeth ar ymyriadau meddygol ac yn gwella ansawdd bywyd yn gyffredinol.
Rôl y Celfyddydau wrth Hyrwyddo Llesiant
Mae ymrwymiad y Ddeddf i lesiant diwylliannol yn cyd-fynd ag amcanion y sector celfyddydau ac iechyd. Dros y degawd diwethaf, rydyn ni wedi gweld effeithiau trawsnewidiol drwy ymgysylltiad creadigol mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys:
• Rhaglenni Celf ar Bresgripsiwn – Mentrau fel Rhaglen Darganfod Presgripsiynu Creadigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prosiect HARBWR Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a’r Rhaglen Lles gyda WNO sy’n dangos effeithiolrwydd creadigrwydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
• Cymorth Iechyd Meddwl a Salwch Cronig – Mae tystiolaeth wrth ymyriadau sy'n seiliedig ar y celfyddydau yng Nghymru yn dangos gwelliannau iechyd meddwl, ymgysylltiad cymdeithasol, a rheoli cyflyrau cronig.
• Llesiant Cymunedol a Chynhwysiant Cymdeithasol – Mae gweithgareddau celfyddydol wedi chwarae rôl sylweddol wrth feithrin gwydnwch, grymuso ac adeiladu cymunedau, gan gyd-fynd â Dull Iechyd Ataliol y Ddeddf, ac argymhellion.
• Y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth – Sbardun Allweddol yng Nghymru
Un llwyddiant arbennig o arwyddocaol wrth hyrwyddo’r broses o integreiddio’r celfyddydau ac iechyd yng Nghymru oedd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru. Mae’r bartneriaeth hon wedi:
• Cryfhau’r cydweithio rhwng sectorau’r celfyddydau, gofal cymdeithasol, iechyd a’r trydydd sector.
• Cyfeiriad strategol gwell, gan sicrhau bod y celfyddydau’n cyfrannu’n ystyrlon at ganlyniadau iechyd y cyhoedd.
• Cefnogi ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan atgyfnerthu effeithiau positif ymgysylltu â'r celfyddydau ar iechyd a llesiant.
• Hybu gweithio cydweithredol a phartneriaethau rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Conffederasiwn GIG Cymru, WAHWN, pob un o’r 7 bwrdd iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre.
• Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru drwy lywio ymyriadau creadigol sy'n seiliedig ar y celfyddydau a natur i gefnogi unigolion i wella eu llesiant meddyliol drwy'r amgylchedd naturiol a'r celfyddydau.
Cyfleoedd i Gryfhau’r Ddeddf
Er bod y Ddeddf wedi darparu sylfaen gref, byddai datblygu polisïau a buddsoddiadau pellach yn gwella ei heffaith. Mae'r argymhellion allweddol yn cynnwys:
• Cydnabod ymyriadau celfyddydau ac iechyd yn ffurfiol fel elfennau craidd gofal iechyd ataliol.
• Integreiddio’r celfyddydau’n well o fewn presgripsiynu cymdeithasol ar draws byrddau iechyd.
• Cyllid ac adnoddau wedi'u targedu i ehangu mentrau sy’n bodoli’n barod ac ymgorffori dulliau sy'n seiliedig ar y celfyddydau mewn polisïau gofal iechyd a dulliau ataliol.
• Mecanweithiau adrodd cliriach i sicrhau manteision cymdeithasol ac economaidd rhaglenni celfyddydau ac iechyd a all effeithio ar newid polisi.
• Mae gennym bryderon hefyd ynglŷn â sut mae’r Ddeddf yn cael ei gorfodi. Mae mynediad at ddiwylliant a’r celfyddydau yn loteri cod post o hyd, ac nid pob corff cyhoeddus sy’n cyflawni eu nodau ar Ddiwylliant a’r Iaith Gymraeg. Fel y dywedodd un gweithiwr proffesiynol o'r Bwrdd Iechyd am y celfyddydau ac iechyd a’r cydweithio o dan y Ddeddf “dywedwch wrthym am wneud, a byddwn ni’n ei wneud”.
Casgliadau
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi gosod Cymru fel arweinydd rhyngwladol o ran datblygu cynaliadwy a llesiant diwylliannol.
Rydyn ni’n annog yn gryf cymorth polisi, buddsoddiad, a chydweithio strategol parhaus i sicrhau bod y celfyddydau ac iechyd yn parhau’n greiddiol i weledigaeth Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru yn brawf o’r hyn sy’n bosib pan fydd y celfyddydau, iechyd a pholisi yn cydweithio. Edrychwn ymlaen at gryfhau’r agwedd ryngddisgyblaethol hon ymhellach, gan sicrhau bod creadigrwydd yn parhau i gyfoethogi bywydau pobl ar draws Cymru.
Angela Rogers
Prif Swyddog Gweithredol, WAHWN