WAHWN News
Cynhadledd celfyddydau ac iechyd genedlaethol Cymru – Gwehyddu – nôl am ddeuddydd yn y gogledd
Mae Weave | Gwehyddu, cynhadledd celfyddydau ac iechyd genedlaethol Cymru, yn dychwelyd i Ogledd Cymru ym mis Medi am raglen ddeuddydd estynedig o siaradwyr gwadd, trafodaethau panel a gweithdai.
Yn dilyn llwyddiant y gynhadledd wreiddiol, digwyddiad undydd a gynhaliwyd yng Nghasnewydd yn 2023, bydd Weave | Gwehyddu 2025 yn cael ei chynnal ar 8-9 Medi ym Mhrifysgol Wrecsam.
Bwriad y gynhadledd, sy’n cael ei threfnu gan Rwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru, mewn partneriaeth â Phrifysgol Wrecsam a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yw dod â dros 150 o ymarferwyr creadigol, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, a gwneuthurwyr polisi, o bob rhan o’r wlad at ei gilydd i ddathlu rhaglenni celfyddydau ac iechyd yng Nghymru a mynd i'r afael â'r angen am ddull ataliol hirdymor o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a phwysau ar wasanaethau.
Mae Cymru yn parhau i arwain y ffordd o ran rhoi’r celfyddydau wrth wraidd iechyd a llesiant, wedi’i ysgogi gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru.
Bydd Gwehyddu | Weave 2025 yn cynnwys prif anerchiad gan Sarah Murphy AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, yn ogystal â chyfweliadau gan arweinwyr o broffil uchel o fewn y sector fel Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a Syr Michael Marmot, Athro Epidemioleg yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Yn ogystal, bydd trafodaethau panel a sesiynau grŵp yn ymdrin â phynciau sy'n amrywio o ddulliau creadigol i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc, a gwaith y celfyddydau gyda dementia i’r defnydd o fyd natur yn y celfyddydau, iechyd a llesiant, ymchwil ac arloesi sy'n gysylltiedig â'r sector, a llesiant staff ac ymarferwyr creadigol.
Caiff y gynhadledd eleni ei chyllido gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’i noddi gan raglen Hapus Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda buddsoddiad cynllun CultureStep Celfyddydau a Busnes Cymru.
Mae tocynnau ar werth nawr. Mae llefydd yn brin, felly fe'ch cynghorir i archebu'n gynnar.
Dyfyniadau:
• Emily van de Venter, Cynghorydd Iechyd y Cyhoedd (Llesiant Meddyliol) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn falch iawn o gael noddi cynhadledd Gwehyddu eleni, gan ddathlu a datblygu gweithgarwch celfyddydol ac iechyd yng Nghymru. Mae yna gyfoeth o dystiolaeth sy'n cefnogi buddion creadigrwydd ar ein hiechyd a'n llesiant, boed yn ymgysylltu â'n creadigrwydd ein hunain neu'n mwynhau creadigrwydd pobl eraill; i’r graddau bod y celfyddydau a chreadigrwydd yn un o'r ffyrdd o wella llesiant sy’n cael ei hyrwyddo drwy ein rhaglen Hapus.”
• Dyfed Edwards, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Fel Bwrdd Iechyd Gogledd Cymru, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn bartner yn Rhaglen Meithrin Gallu Celfyddydau ac Iechyd Cyngor Celfyddydau Cymru, partneriaeth celfyddydau ac iechyd arloesol, sy'n cynnwys y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, sydd bellach yn wyth oed, rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru, i dyfu ac i wreiddio’r celfyddydau a chreadigrwydd o fewn ein hysbytai a’n cymunedau. Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru ar gyfer yr ail gynhadledd Gwehyddu, sy'n gyfle gwych i'r gymuned celfyddydau ac iechyd ddod at ei gilydd i weld, i glywed, i ddysgu ac i rannu amrywiaeth o brosiectau sy’n digwydd ar draws y wlad, a pharhau i lywio cyfeiriad y sector ar gyfer y dyfodol.”
• Liz Clarke, Rheolwr Rhaglenni ar gyfer y Celfyddydau, Iechyd a Llesiant yng Nghyngor Celfyddydau Cymru: Mae Weave | Gwehyddu yn fwy na chynhadledd— dyma lle mae edafedd amrywiol o arbenigedd yn cydblethu. Fel y dangosodd y digwyddiad gwreiddiol yn 2023, mae'n ddigwyddiad hollbwysig lle mae ymarferwyr, artistiaid, gwneuthurwyr polisi, a gweithwyr iechyd proffesiynol yn dod at ei gilydd i blethu’r hyn a ddysgwyd, gan gryfhau tapestri bywiog y celfyddydau mewn iechyd ar draws Cymru. Gyda galw cynyddol am wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru, rhaid i ni barhau i greu mentrau ataliol i wead ein cymunedau, gan greu patrymau gwydn sy’n cefnogi llesiant. Weave | Gwehyddu yw’r lle mae cysylltiadau’n cael eu creu, heriau yn cael eu datod, a lle gallwn, gyda’n gilydd, gynllunio atebion sy’n creu Cymru gryfach ac iachach.”
• Angela Rogers, Cyfarwyddwr Gweithredol Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru (WAHWN): “Rydyn ni’n dyst i gyfnod ysbrydoledig o dwf yn y sector celfyddydau ac iechyd yma yng Nghymru, wedi’i ysgogi gan gorff cynyddol o ymchwil a phrofiadau bywyd sy’n dangos yn glir yr effaith ddofn y gall creadigrwydd ei chael ar ein hiechyd a’n llesiant. Mae’n fraint cael trefnu’r cyfle hwn yng Ngogledd Cymru – gofod prin i artistiaid, staff iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal ag ymchwilwyr a gwneuthurwyr polisi, ddod at ei gilydd i rannu’r hyn a ddysgwyd, i ddathlu cynnydd, i drafod atebion i heriau cyfredol ac i barhau i wthio’r gwaith hollbwysig hwn yn ei flaen.”
Nodiadau i olygyddion:
Ynglŷn â Weave | Gwehyddu
• Cynhelir Gwehyddu ar 8-9 Medi ym Mhrifysgol Wrecsam.
• Tocynnau yn £25 y dydd ac ar gael i’w prynu fan hyn. Mae llefydd yn brin, felly fe'ch cynghorir i archebu'n gynnar.
• Bydd rhaglen lawn y gynhadledd ar gael i’w rhannu erbyn dechrau’r haf.
• Cynhaliwyd y gynhadledd Gwehyddu wreiddiol ym mis Hydref 2023 yng Nghasnewydd. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth fan hyn.