WAHWN News

Arddangosfa newydd Oriel Ysbyty Gwynedd yn arddangos celf staff y GIG

Lluniau: Gwaith celf staff yn cael ei arddangos yn Oriel Ysbyty Gwynedd

O 6 Mawrth 2025, wrth i chi fynd i brif fynedfa Ysbyty Gwynedd, byddwch yn gallu gweld cyfres o weithiau celf ar y waliau ac yn y cypyrddau gwydr, sydd i gyd wedi'u creu gan staff y GIG ar gyfer arddangosfa newydd sy'n dathlu gwerth y celfyddydau a chreadigrwydd.

Ers 2011, mae Celfyddydau Cymunedol Gwynedd, mewn cydweithrediad â Ffynnon Greadigol (Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC), wedi darparu llwyfan i artistiaid lleol a grwpiau cymunedol arddangos eu gwaith yng nghyntedd Ysbyty Gwynedd gyda chyfres o arddangosfeydd treigl yn cael eu mwynhau gan ymwelwyr, cleifion a staff. Yn y cyntaf o'i math ar gyfer Oriel Ysbyty Gwynedd, mae'r arddangosfa hynod arbennig hon o waith celf yn dathlu creadigrwydd anhygoel staff y GIG trwy amrywiaeth o ffurfiau celf gan gynnwys ffotograffiaeth, paentio, celfyddydau digidol, pensiliau, pasteli, cerfio a chlai.

Mae pob gwaith celf yn unigryw ac maent yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau gydag ysbrydoliaeth yn dod o fyd natur, anifeiliaid, tirweddau, siâp, lliw, yn ogystal â'n cymunedau a'n diwylliant. Mae'r gwaith celf yn cael ei wneud gan staff o ystod o dimau a gwasanaethau, gan gynnwys: Ystum a Symudedd, Wroleg, Arlwyo, Pediatreg, Porthorion, Iechyd y Cyhoedd, Niwroffisioleg, Cofnodion Iechyd, a Gofal i'r Henoed ac mae'n cynnwys staff o ystod o alwedigaethau sydd i gyd yn rhan o dîm BIPBC sy'n darparu gofal iechyd i'n cleifion a'n cymunedau yng Ngogledd Cymru.

Mae tystiolaeth gynyddol o fuddion y celfyddydau ar gyfer ein hiechyd a'n lles. Gall cymryd rhan mewn gwneud celf gynnig gweithgaredd llawen ac ystyrlon, yn ogystal â chyfle i ymlacio, ac i ddysgu a datblygu sgiliau newydd. Dros amser, gall hyn fod o fudd i'n hwyliau, ein hyder, yn ogystal â darparu cyfleoedd i gysylltu ag eraill sy'n rhannu ein diddordebau. Gall gwaith celf ac arddangosfeydd mewn ysbytai hefyd wella amgylcheddau ein hysbytai gan eu gwneud yn fannau mwy croesawgar i gleifion ac ymwelwyr.

Bydd y gwaith celf yn cael ei arddangos rhwng mis Mawrth a mis Mai 2025 a gellir dod o hyd iddo wrth Brif Fynedfa Ysbyty Gwynedd. Os hoffech brynu unrhyw un o'r gweithiau celf neu os hoffech roi adborth am yr arddangosfa, cysylltwch â corrinazarach@gwynedd.llyw.cymru Rhannwch eich lluniau o'r arddangosfa gan ddefnyddio'r hashnod #CelfBIPBC

Search