WAHWN News
Ein Cynnig Cymraeg
Ein gwaith gyda Chomisiynydd y Gymraeg
Mae ein Cynnig Cymraeg yn dangos ein hymrwymiad i’r Gymraeg.
Rydyn ni wrth ein bodd i gyhoeddi ein bod wedi derbyn cydnabyddiaeth 'Cynnig Cymraeg' swyddogol gan Gomisiynydd y Gymraeg. Rydyn ni’n sefydliad bach ac mae hon yn daith rydyn ni’n falch i fod arni. Mae llawer o waith i’w wneud ond mae’n wych gallu ffurfioli’r ymrwymiad hwn i weithio’n ddwyieithog fel sefydliad Cymreig balch.
"Dros y misoedd diwethaf mae Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru wedi bod yn gweithio gyda ni yn nhîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg. Maent wedi llwyddo i lunio cynllun datblygu cryf, a gosod targedau pendant er mwyn cynnal a chynyddu eu gwasanaethau Cymraeg dros y blynyddoedd nesaf. O ganlyniad i hyn, maent wedi derbyn cydnabyddiaeth swyddogol y Comisiynydd, ac felly wedi derbyn y Cynnig Cymraeg. Llongyfarchiadau mawr!" -- Guto Jones, Swyddog Tîm Hybu.
Pam mae WAHWN wedi ymrwymo i’r iaith Gymraeg?
Mae Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru yn falch o fod yn sefydliad cenedlaethol Cymreig sy’n gweithio gyda sefydliadau celfyddydol, ymarferwyr creadigol, partneriaid iechyd a thrydydd sector ledled y wlad. Mae gennym uchelgais o wreiddio’r Gymraeg yn ein sefydliad, o ystyried ein gweledigaeth i alluogi’r celfyddydau a chreadigrwydd i drawsnewid iechyd, lles a gwytnwch unigolion, cymunedau a gofal iechyd ledled y wlad. Rydym yn ceisio bod yn esiampl o arfer gorau o ran defnyddio’r Gymraeg, gan ddatblygu ei defnydd yn unol â nodau 2050 Llywodraeth Cymru.
Rydym wedi ymrwymo i adolygu ein heffeithiolrwydd o ran y Gymraeg yn rheolaidd yn erbyn ein polisi a chreu cynlluniau gweithredu blynyddol. Rydym yn cydnabod fod gan ein partneriaid iechyd rwymedigaethau o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac ymrwymiad i ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn – gan gynnwys iaith y ddarpariaeth. Mae ein rôl arwain yn rhoi cyfle i ni raeadru arfer gorau ar draws ein haelodaeth. Rydym yn canolbwyntio ar symud y tu hwnt i’r ‘hyn y dylem ei wneud’ tuag at ‘yr hyn y gallwn ei wneud’, gan ddarparu ysbrydoliaeth i arwain y sector.
Ein Cynnig Cymraeg
- Bydd unrhyw ohebiaeth Cymraeg yn derbyn ymateb yn Gymraeg
- Mae ein gwefan ar gael yn ddwyieithog
- Mae ein negeseuon cyfryngau cymdeithasol yn gwbl ddwyieithog
- Mae ein proses archebu tocynnau yn ddwyieithog
- Mae ein cyhoeddiadau yn gwbl ddwyieithog
Gallwch ddod o hyd i'n cynllun datblygu iaith Gymraeg llawn yma.