WAHWN News

Rheolwr Rhaglen WAHWN wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau ‘Practising Well’

Wrth i’r rhaglen llesiant artistiaid, Sut Mae’n Mynd? dynnu at ei therfyn, rydyn wrth ein bodd fod Tracy Breathnach, Rheolwr y Rhaglen, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau ‘Practising Well’ y Gynghrair Diwylliant Iechyd a Llesiant.

Mae’r Wobr yn canolbwyntio ar ymarfer sy’n arwain y ffordd drwy hyrwyddo ac ymwreiddio gofal i ymarferwyr wrth gomisiynu, cynllunio a rheoli prosiectau.

Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni ar-lein ar 23 Ebrill. Pob lwc Tracy, byddwn ni’n gobeithio’r gore!

Search