WAHWN News
Ymunwch â ni am 2025
Yn Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru (WAHWN), ein cenhadaeth yw tyfu ein cymuned fywiog o wneuthurwyr newid. Os nad ydych chi’n aelod yn barod, rydyn ni’n awyddus i chi ymuno â ni cyn diwedd y flwyddyn. Ni yw’r corff sector cenedlaethol ar gyfer y celfyddydau, iechyd a llesiant yng Nghymru, ac rydyn ni’n cyflwyno rhaglen lawn o eiriolaeth, rhwydweithio a chyfleoedd hyfforddi drwy gydol y flwyddyn yn ogystal â rhaglenni arloesol sy’n dylanwadu ar newid yn y sector â’r nod o sicrhau gwell tegwch a fydd o fudd i bobl, cymunedau ac ymarferwyr.
Fel aelod, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:
- Cysylltu a chydweithio. Byddwch yn rhan o rwydwaith sy’n pontio sectorau’r celfyddydau ac iechyd yng Nghymru.
- Arddangos eich gwaith. Cewch rannu eich proffil, blogiau ac adnoddau gyda gweithwyr proffesiynol o’r un anian.
- Defnyddio a chyfrannu gwybodaeth. Byddwch yn gallu manteisio ar fanc gwybodaeth cynyddol ac ychwanegu eich arbenigedd a’ch adnoddau chi.
- Hysbysebu cyfleoedd. Gallwch gyrraedd cynulleidfa angerddol ar gyfer eich digwyddiadau, rolau neu brosiectau.
A’r peth gorau? Cewch ymuno â ni yn rhad ac am ddim.
Mae cofrestru’n gyflym ac yn rhwydd. Ac o fewn munud neu ddau byddwch yn rhan o gymuned gefnogol sy’n ysgogi gwir newid yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein niferoedd ar gynnydd, gyda 955 o aelodau ar hyn o bryd. Allech chi ein helpu i gyrraedd carreg filltir anhygoel cyn diwedd y flwyddyn – 1,000 o aelodau? Mae pob aelod newydd yn cryfhau’r rhwydwaith a’n pŵer cyfunol. Lleisiau, cyfraniadau ac arbenigedd yr aelodau yw’r hyn sy’n parhau i sicrhau mai WAHWN yw’r rhwydwaith a ddewisir ar gyfer y celfyddydau, iechyd a llesiant yng Nghymru. Felly os nad ydych chi’n aelod yn barod ymunwch nawr – gadewch i ni ddechrau 2025 gyda’n gilydd.