WAHWN News
MIND's 'Big Mental Health Report' 2024 provides trusted information about wellbeing in Wales and England
The current mental health crisis is one that cuts across all areas of life – from housing, to benefits, employment and more. This report paints a picture of worsening mental health across England and Wales and services struggling to keep up with demand.
The data and insights in the report give people a clear view on what’s happening now so that collectively, we know where we need to focus our efforts. It will help us end the mental health crisis and make sure no mind is left behind.
'Living with a mental health problem often cuts across multiple areas of somebody’s life – from healthcare and education, to benefits and employment, relationships and identity. It’s not just the NHS that protects and supports us – the causes and protective factors for our mental health lie all around us, in the communities we live in and the lives we lead. We’re clear that things must change, but crucially, can change. But to address the mental health crisis, we need to really understand it first. That means having a clear, consistent source of information that lays out what’s happening and where improvements are needed.
The Big Mental Health Report is designed to do just that.' Dr Sarah Hughes, MIND CEO
-
Mae’r argyfwng iechyd meddwl presennol yn un sy’n torri ar draws holl feysydd bywyd – o dai, i fudd-daliadau, cyflogaeth a mwy. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi darlun o iechyd meddwl sy'n gwaethygu ar draws Cymru a Lloegr a gwasanaethau sy'n ei chael yn anodd ymdopi â'r galw.
Mae’r data a’r profiadau yn yr adroddiad roi darlun clir i bobl o’r hyn sy’n digwydd nawr fel ein bod, gyda’n gilydd, yn gwybod ble mae angen i ni ganolbwyntio ein hymdrechion. Bydd yn ein helpu i ddod â'r argyfwng iechyd meddwl i ben ac i wneud yn siŵr ein bod yn meddwl am bob meddwl.
'Gall byw gyda phroblem iechyd meddwl yn aml dorri ar draws sawl maes ym mywyd rhywun – o ofal iechyd ac addysg, i fudd-daliadau a chyflogaeth, perthnasoedd a hunaniaeth. Nid y GIG yn unig sy’n ein hamddiffyn a’n cefnogi ni – mae achosion a ffactorau amddiffynnol ar gyfer ein hiechyd meddwl o’n hamgylch ym mhob man, yn y cymunedau rydyn ni’n byw a'r bywydau rydyn ni’n eu harwain. Rydyn ni’n glir bod yn rhaid i bethau newid, ond yn hollbwysig, y gallant newid. Ond i fynd i’r afael â’r argyfwng iechyd meddwl, mae angen i ni ei ddeall yn gyntaf. Mae hynny’n golygu cael ffynhonnell glir a chyson o wybodaeth sy’n amlinellu’r hyn sy’n digwydd a lle mae angen gwelliannau.
Mae’r Adroddiad Iechyd Meddwl Mawr wedi’i gynllunio i wneud yn union hynny.' Dr Sarah Hughes, MIND CEO