WAHWN News

Mae 'Camu i Mewn' yn penodi 4 mentai ar gyfer rhaglen beilot

Mae WAHWN wedi penodi pedwar mentai i'w raglen hyfforddi a mentora beilot, 'Camu i Mewn'. Daw Radha, Georgia, Pete a Lyndsey o gefndiroedd artistig amrywiol, gyda phrofiadau byw nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol ar hyn o bryd yn y sector celfyddydau ac iechyd sy’n tyfu.

Mae WAHWN wedi penodi pedwar mentai i'w raglen hyfforddi a mentora beilot, 'Camu i Mewn'.

Mae George, Lyndsey, Pete a Radha, a ddewiswyd i ymuno â’r cynllun peilot cyntaf o’i fath ar gyfer De a Gorllewin Cymru yn dilyn proses ddethol gystadleuol, yn dod o gefndiroedd artistig amrywiol gyda phrofiadau byw nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol ar hyn o bryd yn y sector celfyddydau ac iechyd yng Nghymru sy'n tyfu.

Cynlluniwyd Camu i Mewn gan WAHWN, mewn ymgynghoriad â’r sector, mewn ymateb i ddiffyg amrywiaeth yng ngweithlu creadigol y celfyddydau ac iechyd.  Ei nod yw helpu i feithrin y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad sydd eu hangen i gyflawni prosiectau mewn lleoliadau celfyddydau ac iechyd, trwy hyfforddiant, cysgodi prosiect byw, mentora a chymorth gan gymheiriaid. 

Dywedodd Tom Bevan, rheolwr rhaglen Camu i Mewn: “Rydym yn llawn cyffro ein bod wedi penodi pedwar mentai mor wych ar gyfer y rhaglen beilot Camu i Mewn. Mae WAHWN a’n partneriaid yn y rhaglen – Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, PeopleSpeakUp, a Datblygu Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili - eisiau gweld mwy o hwyluswyr yn cyflawni prosiectau mewn lleoliadau gofal iechyd sy’n rhannu profiad byw pobl o gymunedau lleiafrifedig.

“Ein gobaith yw y bydd Camu i Mewn yn rhan bwysig o daith y celfyddydau ac iechyd yr ydym arni yng Nghymru. Gan ei bod yn rhaglen beilot, rydym yn llawn cyffro i ddysgu gan y menteion a’n sefydliadau partner ac i ddeall sut y gallai’r prosiect hwn dyfu a newid yn y dyfodol.”

Bydd pob un o'r pedwar mentai yn cymryd rhan mewn wythnos o hyfforddiant dwys yng Nghaerdydd. Byddant hefyd yn cysgodi ymarferydd, tîm neu sefydliad celfyddydau ac iechyd profiadol ar brosiect byw mewn lleoliad iechyd neu gymunedol am 10 diwrnod ac yn derbyn bwrsariaeth, mentora a goruchwyliaeth, gan weithio'n agos gydag un o'r pedwar partner Camu i Mewn.

 

Cwrdd â'r Menteion

Georgia Paterson

Cantores/cyfansoddwraig a hwylusydd cerddoriaeth gymunedol o Dde Cymru yw Georgia Paterson. Yn berfformiwr profiadol, mae’n chwarae gigs unigol yn rheolaidd gyda’i gitâr acwstig yn lleol, yn ogystal ag mewn amrywiol wyliau a dathliadau Balchder ledled y DU. Yn y gymuned, mae hi'n gweithio mewn amrywiaeth o gyd-destunau o gartrefi gofal i ysgolion, ac mae hefyd yn cynnal digwyddiadau a  gweithdai cyfansoddi caneuon. Mae ei chaneuon gwreiddiol, y mae rhai ohonynt wedi’u cynnwys ar restrau chwarae BBC Radio Wales, yn rhan allweddol o’i hymarfer – gan ddod â cherddoriaeth newydd i’r rhai na fyddent fel arall yn gallu ei chyrchu. Mae Georgia yn angerddol am rannu grym cadarnhaol cerddoriaeth ar ôl gweld yr effaith anhygoel y gall ei chael ar lesiant pobl mewn lleoliadau gofal iechyd ac mae'n awyddus i ehangu ei gwaith yn y maes hwn. Bydd yn gweithio gyda WAHWN a Datblygu Celfyddydau Caerffili i ddatblygu ei sgiliau a’i gwybodaeth yn y sector celfyddydau ac iechyd.

 

Lyndsey Fouracre Reynolds

Mae Lyndsey yn hwylusydd creadigol, yn hyfforddwr hyder ac yn addysgwr LHDTQ+ o Dde Cymru.

Mae hi’n ymarferydd celfyddydau profiadol gyda BA mewn theatr gymunedol o Ysgol Actio East 15 ac MA mewn ieitheg gymhwysol o Brifysgol Portsmouth. Mae gan Lyndsey gyfoeth o brofiad yn gweithio ym meysydd ymgysylltu cymunedol, y celfyddydau ac addysg, gan weithio ar amrywiaeth o brosiectau creadigol gyda phobl ifanc mewn amrywiol leoliadau cymunedol. Mae’r lleoliadau hyn yn cynnwys gwasanaethau ieuenctid, carchardai, unedau cyfeirio disgyblion, cyfleusterau iechyd meddwl a lleoliadau preswyl i bobl ifanc.

Ymarferydd drama a theatr yw Lyndsey yn bennaf, gan ddefnyddio gemau a gweithgareddau drama i greu man diogel i bobl archwilio, creu a rhannu straeon. Mae hi hefyd yn cyflawni amrywiaeth o weithdai ychwanegol, gan gynnwys celfyddydau gweledol, crefftau, barddoniaeth, ysgrifennu creadigol a symud. Wedi'u cysylltu drwy theatr ac adrodd straeon, mae’r ffurfiau celfyddydol hyn i gyd yn rhan o’r un pecyn cymorth – gan alluogi pobl i archwilio a mynegi eu hunain.

Yn ddiweddar, mae Lyndsey wedi cwblhau cwrs hyfforddi gyda Coaching Masters ac mae’n gweithio fel hyfforddwr hyder yn cyflawni gweithdai llesiant a meddylfryd i bobl ifanc ac oedolion. Mae Lyndsey yn awyddus i ddatblygu ei gwybodaeth a’i phrofiad mewn lleoliadau iechyd a llesiant yng Nghymru ac i ddefnyddio ei set sgiliau creadigol i gefnogi prosiectau celfyddydau ac iechyd. Bydd yn gweithio gyda WAHWN a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gyfer Camu i Mewn.

 

Pete Mosey

Awdur o Lanelli yw Peter Wyn Mosey. Mae’n ysgrifennu straeon byrion, sgriptiau a barddoniaeth ac mae’n frwd dros gelf, cerddoriaeth, ffilm a pherfformio.

Graddiodd Peter gyda BA (Anrh) mewn drama y theatr a’r cyfryngau ym Mhrifysgol Morgannwg ac yn ddiweddarach dychwelodd i gwblhau MA mewn sgriptio. Mae wedi ysgrifennu, cynhyrchu a pherfformio comedi yng Ngŵyl Buxton a Gŵyl Ymylol Caeredin.

Mae ymgysylltu’n greadigol wedi helpu Peter i reoli ei heriau iechyd meddwl ei hun, ac mae hyn yn ei ysbrydoli i annog eraill i fynegi eu hunain yn greadigol a thrwy gydweithio i wella eu llesiant.

Trwy’r prosiect hwn gyda WAHWN, mae’n awyddus i ddatblygu ei sgiliau fel hwylusydd tra’n gweithio gyda People Speak Up, sefydliad y bu’n ymwneud ag ef fel cyfranogwr a gwirfoddolwr.

 

Radha Patel

Storïwr yw Radha y mae ei gwaith yn croestorri gwladychiaeth, natur, crefydd, defodau, iaith, llên gwerin a dyfodol damcaniaethol. Mae ysgrifennu wrth wraidd ei hymarfer, felly mae unrhyw waith y mae’n ei wneud bob amser yn cynnwys testun ochr yn ochr ag elfen ffisegol neu ddiriaethol y gall pobl ryngweithio â hi, megis cerfluniau, printiau, darluniau, sain, gosodweithiau, ffilm ac iaith ddyfeisiedig o’r enw Etsolstera.

Mae ei hymarfer yn archwilio llên gwerin mewn hanes ac mae'n defnyddio adrodd straeon i adeiladu ffyrdd newydd o’n hailgysylltu â’n hynafiaid dynol ac anddynol, a’r hud bregus sy’n cael ei golli trwy wladychu. Mae Radha yn gweithio gyda llên gwerin hŷn a phresennol o Gymru ac India ac yn creu llên gwerin newydd am ddefodau, gwrthrychau hudol, tiroedd dychmygol a phlanedau newydd.

Mae ymarfer artistig Radha yn cyd-fynd â saith mlynedd o brofiad yn gweithio ar draws prosiectau sy’n dod â’r celfyddydau, ymgysylltu â’r gymuned a datblygu cynulleidfa ynghyd. Mae hi'n angerddol am brosiectau sy'n gweithio'n gynaliadwy ac sy'n gynhyrchiol ar gyfer y cymunedau y maent yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Search