WAHWN News
WAHWN's Response to the Draft Mental Health Strategy | Ymateb WAHWN i’r Strategaeth Iechyd Meddwl Ddrafft
Dear colleagues,
As you may be aware from previous newsletters, or from attending the Network Meeting in April, Welsh Government are currently inviting responses to the 10-Year Draft Mental Health Strategy.
Under the guidance of Emily van de Venter, Lead Consultant for Mental Health at Public Health Wales, we explored the main areas of the strategy where we thought we could have impact as an Arts and Health sector.
We are sharing our response to the strategy with you here for your reference, but also in the hope that you might consider responding from your own organisations and roles, to ensure the arts are given their due acknowledgement in the final strategy.
We know the great impact the arts have in prevention, early intervention and in recovery, as well as playing a crucial role in maintaining good mental health in the first place.
Thank you to those members who contributed to the last Network Meeting – we have integrated your responses into our final document.
If you would like to respond to the strategy you can find more information here.
Best wishes,
Team WAHWN
-
Annwyl gydweithwyr,
Fel y gwyddoch efallai o gylchlythyrau blaenorol, neu o ddod i’r Cyfarfod Rhwydwaith ym mis Ebrill, mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn gwahodd ymatebion i’r Strategaeth Iechyd Meddwl Ddeng Mlynedd Ddrafft.
Dan arweiniad Emily van de Venter, Ymgynghorydd Arweiniol dros Iechyd Meddwl yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, buom yn edrych ar brif feysydd y strategaeth lle’r oedden ni’n credu y gallen ni gael effaith fel sector Celfyddydau ac Iechyd.
Rydyn ni’n rhannu ein ymateb i’r strategaeth gyda chi yma er gwybodaeth, ond hefyd yn y gobaith y byddwch yn ystyried ymateb o’ch sefydliadau a’ch rolau eich hun, i sicrhau bod y celfyddydau’n derbyn cydnabyddiaeth ddyledus yn y strategaeth derfynol.
Fe wyddom yr effaith fawr mae’r celfyddydau’n ei gael wrth atal, cyflawni ymyrraeth gynnar ac wrth ymadfer, yn ogystal â chwarae rôl hanfodol yn cynnal iechyd meddwl da yn y lle cyntaf.
Diolch i’r aelodau hynny a gyfrannodd yn y Cyfarfod Rhwydwaith diwethaf – rydyn ni wedi cynnwys eich ymatebion yn y ddogfen derfynol.
Os hoffech ymateb i’r strategaeth, mae rhagor o wybodaeth i’w chael yma.
Cofion gorau,
Tim WAHWN