WAHWN News

Digwyddiadau Profiad Bywyd Iechyd Meddwl AaGIC

Gweler isod wybodaeth am ein digwyddiadau Profiad Bywyd Iechyd Meddwl AaGIC sy’n cael eu cynnal ledled Cymru ar gyfer pobl sydd â phrofiad bywyd o heriau iechyd meddwl a/neu sy’n gweithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl, gofalwyr di-dâl a sefydliadau trydydd sector.

Rhannwch yn eang os gwelwch yn dda:

COFRESTRU YMA 


                

Bydd y digwyddiadau hyn yn codi ymwybyddiaeth o gamau gweithredu Profiad Bywyd (cam gweithredu 18 a 19 o gynllun gweithlu iechyd meddwl strategol AaGIC ) trwy weithgareddau ymgysylltu lleol i gefnogi Cymorth Cymheiriaid, y Coleg Adfer a chydgynhyrchu. Byddwn yn darparu diweddariadau o adnoddau, sesiynau 'Sut i' a chymorth i baratoi timau ar gyfer rhoi'r camau gweithredu ar waith.

Bydd y digwyddiadau hefyd yn darparu gofod i rwydweithio, cyd-fyfyrio ar flaenoriaethau a chyd-gynllunio ymagweddau mewn gwasanaethau, yn ogystal â darparu llwyfan i hyrwyddo adnoddau a chymunedau newydd a hwylusir ac a ddatblygir gan raglen profiad bywyd iechyd meddwl AaGIC.

Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni ac rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un a fyddai â diddordeb mewn hwyluso sgwrs / gweithdy am brofiad bywyd o fewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Dyddiadau ar gyfer eich dyddiadur:

Dydd Mawrth 4 Mehefin 10am - 3pm - Gwesty Mercure, Casnewydd

Dydd Mawrth 11 Mehefin 10am - 3pm - Prifysgol Bangor

Dydd Mawrth 18 Mehefin 10am - 3pm - Park Plaza, Caerdydd

Dydd Mawrth 25 Mehefin 10am - 3pm - Canolfan Fusnes Orbit, Merthyr Tudful

Dydd Mawrth 2 Gorffennaf 10am - 3pm - Mansion House, Llansteffan

Dydd Mawrth 9 Gorffennaf 10am - 3pm - Neuadd Llangoed, Aberhonddu

Dydd Mawrth 16 Gorffennaf 10am - 3pm - Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe

 

COFRESTRWCH YMA 

Search