WAHWN News
Geirfa newydd â’r nod o symleiddio iaith rhagnodi cymdeithasol
Mae rhestr newydd o dermau a ddefnyddir mewn rhagnodi cymdeithasol wedi’i datblygu gan Brifysgol De Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i helpu i egluro a safoni’r iaith a ddefnyddir gan weithwyr proffesiynol.
Mae’r rhestr termau, a gaiff ei defnyddio ochr yn ochr â’r fframwaith cenedlaethol ar gyfer rhagnodi cymdeithasol, yn adnodd i ymarferwyr, comisiynwyr, a’r rheini y mae eu rolau proffesiynol yn golygu eu bod yn ymwneud â rhagnodi cymdeithasol. Ei nod yw lleihau’r dryswch a all gael ei achosi wrth i weithwyr proffesiynol ddefnyddio termau niferus i ddisgrifio’r un pethau penodol.
Mae’r rhestr hylaw yn cynnwys animeiddio, mapiau meddwl rhyngweithiol a swyddogaeth ddwyieithog i’w gwneud mor hygyrch a defnyddiol â phosibl.
Rhagor o wybodaeth yma.
Darllenwch y rhestr termau yma.