WAHWN News

Cyllid newydd i gefnogi celfyddydau a phobl greadigol Powys

Mae rhaglen nawdd grant i gael ei chreu i gefnogi'r diwydiannau celfyddydol a chreadigol ym Mhowys ar ôl i'r cyngor sir sicrhau £675,000 oddi wrth y Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG).

Mae Gwasanaeth Celfyddydau Cyngor Sir Powys wedi llwyddo i sicrhau'r nawdd sydd â'r nod o gefnogi sefydliadau celfyddydol a diwylliannol ledled y sir â rhaglen wedi ei hanelu at drawsnewid a chydnerthedd.

Rhagwelir y bydd y rhaglen grant yn annog partneriaeth a gweithio ar y cyd rhwng sefydliadau celfyddydol. Caiff arian ei ddyfarnu am amrywiaeth o weithgareddau fel adolygu busnes a datblygu modelau gweithredu.

Dyfarnwyd £221,750 pellach i'r gwasanaeth hefyd oddi wrth y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar ddiwedd 2023, a gaiff ei ddefnyddio i gefnogi tîm prosiect i weithio â sefydliadau celfyddydol a diwydiannol ledled y sir. Y nod fydd defnyddio gwefan StoriPowys.org.uk i ddarparu platfform cydweithredol i ddiwydiannau creadigol Powys, i hyrwyddo gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol ledled y sir, ynghyd â chyfleoedd i weithwyr ar eu liwt eu hunain hysbysebu eu sgiliau a'u hargaeledd.

Am wybodaeth bellach am y ddau brosiect cysylltwch â'r Rheolwyr Prosiect, Emily Bartlett neu Alice Briggs yn arts@powys.gov.uk/ celf@ powys.gov.uk 

Search