WAHWN News

Wales’ artists, health professionals and leaders gather for inaugural arts and mental health conference

Wales’ artists, health and social care professionals and senior mental health leaders gathered in Newport yesterday for the country’s first arts and mental health conference.

Weave, or Gwehyddu was organised by Wales Arts Health and Wellbeing Network in partnership with Aneurin Bevan Health Board to build on Wales’ pioneering arts and health partnerships, progress and successes in recent years.

It took place at Newport’s Lysaght Institute and saw artists, health and social care practitioners, and join some of Wales’ most senior health leaders for a packed one-day programme dedicated to exploring the positive impact the arts can and are having on mental health and wellbeing in Wales.

Opening the event, Lynne Neagle MS, Wales’ Deputy Minister for Mental Health and Wellbeing, said: “There is strong evidence showing the impact the arts can have on our mental health and wellbeing. Creativity and the arts play a powerful and enriching part of people’s lives and have an important role to play in promoting wellbeing.

“Good mental wellbeing is as critical as good physical health and wellbeing and person-to-person interaction, engagement in our communities and a sense of value, purpose and meaning need to be seen as equally important as healthy eating and physical exercise.

“There is an abundance of innovation and transformation across Wales and the Weave conference is a clear indicator of the quality and creativity being brought to this important work.”

Panel discussions featuring Wales’ arts, health and mental health experts and practitioners called for a creative approach to tackle mental health inequalities, considered how to better look after the mental wellbeing of the health and creative workforce and discussed the ways the arts are and can be better embedded into regional and local partnerships. Side events and workshops highlighted learnings from a range of projects across Wales, including those supporting survivors of sexual violence, veterans and people affected by substance misuse.

There was also a special pre-recorded interview with BBC Strictly Come Dancing Star Amy Dowden. The Welsh dancer, who is currently undergoing treatment for breast cancer and has spoken openly about her experiences with Crohn’s disease, shared the physical and mental benefits her love of dancing has provided during some of her lowest moments.

Angela Rogers, WAHWN director, said: “The feedback on Weave, our first arts and mental health conference, from our members, funders, policy makers and politicians has been incredible. The Wellbeing of Future Generations Act has been a key driver steering genuine partnership working across the arts and health sector in Wales, enabling incredible innovation and creative approaches to tackle mental health challenges and address health inequalities. I am proud and excited to be part of this growing movement."

Weave’s main panel events will be available to watch back on the WAHWN website soon.

The conference was held in partnership with Aneurin Bevan University Health Board and was funded by the Arts Council of Wales and the Baring Foundation.

 

CYMRAEG

Artistiaid, gweithwyr proffesiynol ac arweinwyr iechyd o Gymru’n ymgasglu ar gyfer cynhadledd gyntaf y celfyddydau ac iechyd meddwl

Ymgasglodd artistiaid, gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac uwch arweinwyr iechyd meddwl yng Nghasnewydd ddoe ar gyfer cynhadledd celfyddydau ac iechyd meddwl gyntaf y wlad.

Trefnwyd Gwehyddu gan Rwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cymru mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i adeiladu ar bartneriaethau celfyddydau ac iechyd arloesol, cynnydd a llwyddiannau Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.

Fe’i cynhaliwyd yn Sefydliad Lysaght Casnewydd, gydag artistiaid ac ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn ymuno â rhai o uwch arweinwyr iechyd Cymru ar gyfer diwrnod llawn o drafod ac ystyried yr effaith gadarnhaol y gall, ac y mae, y celfyddydau yn ei chael ar iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru.

Wrth agor y digwyddiad, dywedodd Dirprwy Weinidog Cymru dros Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle AS: “Ceir tystiolaeth gref sy’n dangos yr effaith y gall y celfyddydau ei gael ar iechyd meddwl a llesiant. Mae creadigrwydd a’r celfyddydau’n chwarae rhan bwerus ym mywydau pobl ac yn eu cyfoethogi, ac mae ganddynt rôl bwysig i’w chwarae yn hyrwyddo llesiant. Mae llesiant meddyliol da yr un mor hanfodol ag iechyd a llesiant corfforol ac mae angen ystyried bod rhyngweithio wyneb yn wyneb, ymwneud â’n cymunedau ac ymdeimlad o werth, pwrpas ac ystyr yr un mor bwysig â bwyta’n iach ac ymarfer corff. 

“Mae llond y lle o arloesi a thrawsnewid i’w weld ledled Cymru ac mae cynhadledd Gwehyddu’n dangos yn glir yr ansawdd a’r creadigrwydd a gyflwynir yn y gwaith pwysig hwn.”

Roedd trafodaethau panel oedd yn cynnwys arbenigwyr ac ymarferwyr o’r celfyddydau, iechyd ac iechyd meddwl yng Nghymru’n galw am ddull creadigol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl. Ystyriwyd hefyd sut y gellid gofalu am lesiant meddwl y gweithlu iechyd a chreadigol yn well a thrafodwyd y ffyrdd y mae ac y gall y celfyddydau gael eu gwreiddio’n well mewn partneriaethau rhanbarthol a lleol. Mewn digwyddiadau a gweithdai ymylol amlygwyd yr hyn a ddysgwyd o amrywiol brosiectau ledled Cymru, gan gynnwys rhai sy’n cefnogi goroeswyr trais rhywiol, cyn-filwyr a phobl y mae camddefnyddio sylweddau wedi effeithio arnynt.

Hefyd dangoswyd cyfweliad arbennig oedd wedi’i recordio ymlaen llaw gyda seren BBC Strictly Come Dancing Amy Dowden. Rhannodd y ddawnswraig o Gymru, sydd ar hyn o bryd yn cael triniaeth am ganser y fron ac sydd wedi siarad yn agored am ei phrofiadau gyda chlefyd Crohn, y buddion corfforol a meddyliol mae wedi’u profi yn ystod rhai o’r adegau mwyaf tywyll yn sgil ei chariad at ddawnsio.

“A bod yn onest, dw i ddim yn siŵr a fyddwn i wedi dod drwy rhai o’r cyfnodau anodd yna gyda fy mhroblemau stumog oni bai am y dawnsio,” dywedodd wrth y cynrychiolwyr. “A hyd yn oed gyda’r diagnosis diweddar o ganser y fron, dw i ddim yn siŵr a fyddwn i mor gadarnhaol ag ydw i nawr oni bai am y dawnsio.

“Mae’n rhoi teimlad o hyder i fi, a chred ac ymdeimlad o berthyn. Weithiau dw i mewn poen ac yn sydyn, am yr amser dw i’n dawnsio ac yn rhyddhau’r adrenalin a’r endorffins, dw i’n anghofio amdano. Yn sicr dyma fy lle hapusaf.”

Ychwanegodd Angela Rogers, cyfarwyddwr WAHWN: “Mae’r adborth ar Gwehyddu, ein cynhadledd celfyddydau ac iechyd meddwl gyntaf, gan ein haelodau, cyllidwyr, llunwyr polisïau a gwleidyddion wedi bod yn anhygoel. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi bod yn ysgogiad allweddol yn llywio gwaith partneriaeth gwirioneddol ar draws sector y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru, gan alluogi arloesi rhyfeddol a dulliau creadigol sy’n mynd i’r afael â heriau iechyd meddwl ac anghydraddoldebau iechyd. Rwy’n falch ac yn llawn cyffro i fod yn rhan o’r mudiad hwn sy’n tyfu."

Bydd prif ddigwyddiadau panel Gwehyddu ar gael i’w gwylio ar wefan WAHWN yn fuan. Cynhaliwyd y gynhadledd mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac fe’i cyllidwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring.



Search