WAHWN News

Rhannwch eich barn: ‘Llwybrau Creadigol‘ – hyfforddiant a datblygu sgiliau artistiaid sy’n gweithio mewn lleoliadau iechyd a llesiant

Mae hwn yn faes sy’n datblygu’n gyflym gyda llawer o gyfleoedd gyrfa i artistiaid o bob disgyblaeth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chymunedau. Ond sut mae artistiaid yn sicrhau’r hyder a’r sgiliau i weithio’n effeithiol ac yn ddiogel yn y sector hwn? 


Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, mae WAWHN yn gweithio gyda’r ymgynghorwyr llawrydd Rosie Dow a Damian Hebron yr hydref hwn i ddysgu mwy am: 
Sgiliau: pa sgiliau sydd angen i artistiaid eu datblygu i fodloni’r galw cynyddol ym maes y celfyddydau, iechyd a llesiant, a sut mae’r rhain yn amrywio o ran lleoliad, y math o brosiect a’r canlyniad/au iechyd? 


Hyfforddiant: sut mae artistiaid ar hyn o bryd yn datblygu’r sgiliau i weithio mewn lleoliadau iechyd a llesiant a beth yw’r rhwystrau? Pa hyfforddiant a llwybrau eraill y gellid eu datblygu? 
Amrywiaeth: beth yw’r rhwystrau wrth ddechrau yn y celfyddydau, iechyd a llesiant i artistiaid o gefndiroedd amrywiol a beth yw’r cyfleoedd? 
Rydym ni am ddefnyddio’r hyn a ddysgwn yma i lunio rhaglenni newydd ar gyfer datblygu sgiliau yn y dyfodol, felly mae’n bwysig bod argymhellion y gwaith cwmpasu hwn yn cael eu llywio gan yr hyn rydych chi'n dweud wrthym ni sydd ei angen. 
Rydym ni felly’n gwahodd artistiaid llawrydd a’r sefydliadau sy’n eu comisiynu i rannu eich barn yn un o’n holiaduron ‘egwyl goffi’ byr (dylai’r rhain gymryd 5-10 munud) erbyn 2 Hydref 2023. 

Holiadur ‘egwyl goffi’ i artistiaid llawrydd sy’n gweithio mewn lleoliadau iechyd a llesiant cymunedol: LINK –  

Holiadur ‘egwyl goffi’ i sefydliadau (GIG, Awdurdod Lleol, Trydydd Sector, sefydliadau Celfyddydau ac ati) sy’n comisiynu artistiaid llawrydd i weithio mewn lleoliadau iechyd a llesiant cymunedol: LINK – 

Gallwch gwblhau’r ddau holiadur wrth gwrs os yw’r ddwy rôl yn berthnasol i chi. 
Byddwn yn defnyddio eich atebion i ysgogi trafodaethau mewn cyfres o gyfarfodydd fforwm mwy dwys ym mis Hydref, cyn ysgrifennu a rhannu adroddiad ar ein canfyddiadau a’r camau nesaf. 

Diolch am gyfrannu! 

Search