WAHWN News

Age Cymru: Elusen yn lansio cwrs llesiant sydd wedi cael ei ysbrydoli gan fyd natur ar gyfer pobl dros 50 oed ym Maesteg

Mae Age Cymru, mewn partneriaeth gyda’r sefydliad celf gymunedol Tanio, wedi trefnu cyfres o sesiynau llesiant ar gyfer pobl dros 50 oed, gan ddefnyddio sgiliau creadigol mewn amgylchedd naturiol.
 
Bydd y sesiynau yn defnyddio ymarferwyr celf arbenigol er mwyn annog pobl hŷn i ddatblygu eu sgiliau creadigol eu hun, gan ddwyn ysbrydoliaeth o fyd natur.
 
Mae’r cwrs, sydd yn cychwyn ar ddydd Gwener 11 Awst tan ddiwedd mis Hydref, yn digwydd ym Mharc Llesiant Maesteg.  Cynhelir y sesiynau bob dydd Gwener rhwng 10am a 12pm, ac mae croeso i bawb fynychu cymaint o sesiynau ag yr hoffent drwy gydol y tymor.
 
Ariennir y sesiynau gan Gronfa Cymunedau Cryf Cyfoeth Naturiol Cymru.  Mae’r sesiynau am ddim a darperir lluniaeth am ddim hefyd.  Mae cefnogaeth ar gael ar gyfer unrhyw un sydd ag anghenion trafnidiaeth neu fynediad, ond mae’r trefnwyr wedi ceisio sicrhau bod y sesiynau yn hawdd i’w cyrraedd.
 
Meddai Lisa Davies, prif weithredwr Tanio, “Rydyn ni wrth ein bodd i weithio mewn partneriaeth ag Age Cymru er mwyn darparu Celf Fforest ar gyfer pobl hŷn yn ardal Maesteg o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae ein rhaglen Ysgolion Celf Fforest wedi dangos sut gall creadigedd yng nghanol byd natur greu buddion enfawr, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddod â phobl at ei gilydd yn ein mannau awyr agored arbennig.”
 
Meddai Kelly Barr, rheolwr rhaglen celf a chreadigedd Age Cymru, “Rydyn ni wrth ein bodd i fedru cynnig Celf Fforest ar gyfer pobl hŷn mewn ardal arall ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod yr haf, ac rydyn ni’n gobeithio bydd y sesiynau yn arddangos y buddion o gyfuno byd natur a’r byd tu allan!”
I gael gwybodaeth ychwanegol am y prosiect, yn enwedig am faterion yn ymwneud â thrafnidiaeth a mynediad, ffoniwch 01656 729246 neu e-bostiwch helo@taniocymru.com.

Search