WAHWN News

Cynhadledd newydd yn edrych ar rym iachau’r celfyddydau ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru

Bydd meddylwyr blaenllaw Cymru yn y celfyddydau, iechyd a pholisi yn ymgasglu yng Nghasnewydd ym mis Hydref i ystyried yr effaith gadarnhaol y gall y celfyddydau ei gael ar iechyd meddwl a llesiant fel rhan o gynhadledd genedlaethol newydd.

Mae Gwehyddu’n ddigwyddiad dwyieithog am ddim, a drefnir gan Rwydwaith Celfyddydau Iechyd a Llesiant Cymru (WAHWN) mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac fe’i cynlluniwyd i adeiladu ar bartneriaethau, cynnydd a llwyddiannau arloesol Cymru yn y celfyddydau ac iechyd dros y blynyddoedd diwethaf. Fe’i cynhelir ar 4 Hydref yn Sefydliad Lysaght yng Nghasnewydd, gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring.

Ymhlith y siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau mae Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Llesiant; Derek Walker, y Comisiynydd Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol; Nina Ruddle, Pennaeth Ymgysylltiad Polisi Cyhoeddus Prifysgol Wrecsam Glyndŵr; a Peter Carr, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Bydd sesiynau trafod yn tynnu sylw at brosiectau iechyd creadigol enghreifftiol ledled Cymru, fel y rhai sy’n cefnogi cyn-filwyr sy’n profi anhwylder straen wedi trawma a gweithdai creadigol Cymraeg i bobl y mae dibyniaeth yn effeithio arnynt.

“Mae WAHWN hapus iawn i fod yn cynnal y gynhadledd genedlaethol gyntaf ar y celfyddydau ac iechyd meddwl mewn partneriaeth,” dywedodd Angela Rogers, Cydlynydd WAHWN. “Edrychwn ymlaen at groesawu meddylwyr blaenllaw ym meysydd y celfyddydau ac iechyd i ystyried, trafod a dathlu dulliau partneriaeth creadigol ac arloesol sy’n helpu i fynd i’r afael â heriau iechyd meddwl yng Nghymru.

“Ceir corff cynyddol o dystiolaeth sy’n dangos yr effaith pwerus y gall y celfyddydau ei gael ar ein hiechyd meddwl a’n llesiant a hyd yn oed ein disgwyliad oes. Felly mae er budd pawb fod y sgwrs genedlaethol hon yn parhau a’n bod yn gweithio gyda’n gilydd i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng iechyd meddwl presennol.”

Mae cynhadledd Gwehyddu’n garreg filltir newydd yn yr ymdrechion i wreiddio’r celfyddydau a chreadigrwydd yn nulliau iechyd a gofal Cymru. Mae Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru, sydd bellach yn ei seithfed flwyddyn, wedi esgor ar fentrau arloesol, gan gynnwys cyflwyno cydlynwyr celfyddydau ac iechyd ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru, a sicrhau cydnabyddiaeth ryngwladol.

Dywedodd Sally Lewis, Rheolwr Rhaglen y Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cyngor Celfyddydau Cymru: “Mae’r celfyddydau’n gynyddol yn cael eu cydnabod yn fyd-eang fel partner pwysig wrth gefnogi iechyd a llesiant pobl - ac mae Cymru wedi bod yn datblygu gwaith sylweddol yn y maes y dylem ni i gyd ymfalchïo ynddo.

“Ond mae mwy o waith i’w wneud. Wrth i Lywodraeth Cymru ddechrau paratoi ei strategaeth iechyd meddwl genedlaethol newydd, mae Gwehyddu’n gyfle gwych i fanteisio ar yr ysbryd o gydweithio a chydweithredu traws-sector sy’n ffynnu ar hyn o bryd yng Nghymru. Yn hanfodol, drwy gael ymarferwyr a phenderfynwyr gyda’i gilydd mewn ystafell, bydd Gwehyddu’n cynnig lle i drafod yr heriau iechyd meddwl a’r blaenoriaethau sy’n wynebu’r GIG yng Nghymru, gan rannu arfer gorau a thrafod datrysiadau creadigol y dyfodol.”

Ychwanegodd Mr Carr,: “Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn falch i fod yn bartner gyda WAHWN ar gynhadledd celfyddydau ac iechyd meddwl 2023. Mae’r Bwrdd Iechyd yn ymrwymo i gefnogi cymhwyso’r celfyddydau er iechyd a llesiant, er budd ein cleifion, staff a’r gymuned ehangach, fel y nodwyd yn ein Strategaeth Celfyddydau mewn Iechyd a gyhoeddwyd yn ddiweddar.”

Mae Gwehyddu’n ddigwyddiad am ddim gyda nifer cyfyngedig o docynnau. I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys archebu tocynnau a diweddariadau i’r rhaglen, ewch i https://wahwn.cymru/gwehyddu

Search