Maniffesto Celfyddydau, Iechyd a Llesiant
Authors(s), Creator(s) and Contributors: WAHWN
Publication Date: 30/10/2025
Categories: Cymraeg, Featured, Whitepapers / Research, Resource Packs / Kits, Other
Introduction
Mae’r celfyddydau’n rym pwerus ar gyfer llesiant unigol a chymdeithasol, meithrin gwydnwch, cyswllt cymdeithasol a gwell iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol. Ceir corff sylweddol a chynyddol o dystiolaeth sy’n dangos gwerth economaidd a chymdeithasol buddsoddiadau hirdymor yn y celfyddydau i gefnogi iechyd meddyliol a chorfforol. Yn ogystal, mae tystiolaeth yn dangos bod cynyddu cyswllt â’r celfyddydau’n gallu helpu i liniaru effeithiau negyddol byw mewn ardaloedd llai cefnog.
Mae’r celfyddydau a diwylliant wedi’u gwreiddio drwy bolisïau, fframweithiau a strategaethau allweddol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant a’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ysgogwr allweddol yng Nghymru i annog cyrff cyhoeddus i wreiddio celfyddydau a diwylliant yn eu nodau llesiant.
Wrth i Gymru agosáu at etholiadau’r Senedd yn 2026, rydym ni’n annog yr holl bleidiau gwleidyddol i ymrwymo i weithredu beiddgar a thrawsnewidiol i wreiddio’r celfyddydau yn y systemau iechyd a gofal cymdeithasol.
Nid moethusrwydd yw’r celfyddydau — maent yn anghenraid er mwyn sicrhau Cymru fwy iach, fwy cysylltiedig. Rydym yn annog yr holl bleidiau gwleidyddol i ymrwymo i’r camau gweithredu hyn a sicrhau bod y celfyddydau a diwylliant yn cael eu hintegreiddio’n llawn mewn strategaethau iechyd a llesiant.
Gyda’n gilydd, gallwn greu Cymru lle mae creadigrwydd yn ffynnu, iechyd yn gwella a chymunedau’n llwyddo.
Download "Maniffesto Celfyddydau, Iechyd a Llesiant"
View "Maniffesto Celfyddydau, Iechyd a Llesiant"
Tags: Polisi, Maniffesto
