Cynllun Cyfiawnder Hinsawdd a’r Celfyddydau
Authors(s), Creator(s) and Contributors: Cyngor Celfyddydau Cymru, Chyfoeth Naturiol Cymru
Publication Date: 14/11/2024
Categories: Whitepapers / Research
Introduction
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo rôl bwysig y celfyddydau i drawsnewid ein cymdeithas a’n heconomi i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Ac rydym yn cydnabod bod newid yn yr hinsawdd yn golygu mwy na’r goblygiadau amgylcheddol – mae’n ymwneud hefyd â chyfiawnder cymdeithasol ac anghydraddoldeb. Rydym yn credu’n gryf bod cydraddoldeb a chyfiawnder yn ganolog i’n cyfraniad ac rydym yn hyderus bod y dull hwn hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad llwyr sector y celfyddydau yng Nghymru.
I’r perwyl hwnnw, rydym wedi datblygu ein Cynllun Cyfiawnder Hinsawdd a’r Celfyddydau, trwy broses gydweithredol fel rhan o’n Rhaglen Natur Greadigol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r cynllun yn dangos sut yr ydym wedi gweithio â phobl ledled Cymru i ddatblygu gweledigaeth, nodau a chredoau cyffredin i ddangos sut y gall y celfyddydau ymgysylltu â chyfiawnder hinsawdd, ac rydym yn rhannu cyfres fanwl o weithredoedd positif a fydd yn ein galluogi i wneud gwahaniaeth pendant gyda’n gilydd.