Celfyddyd a Chrebwyll: adroddiad newydd yn dangos effaith dda creadigrwydd ar les pobl ifanc
Authors(s), Creator(s) and Contributors: Cyngor Celfyddydau Cymru, The Baring Foundation
Publication Date: 27/10/2026
Categories: Cymraeg, Evaluation / Reports
Funder(s): Cyngor Celfyddydau Cymru, The Baring Foundation
Introduction
Mae'r rhaglen yn ariannu prosiectau creadigol yn y 5 Bwrdd Iechyd gan y GIG ledled Cymru. Cymerodd rhyw 300 o blant a phobl ifanc a oedd yn cael cymorth gan Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Glasoed y GIG (CAMHS) ran y llynedd.
Llenwodd y bobl ifanc holiaduron ar ddechrau a diwedd y sesiynau creadigol yn 2025/26. Roeddynt yn olrhain pa mor gysylltiedig, egnïol, parod i roi a dysgu, bod yn ymwybodol (cymryd sylw) roedd y plant cyn ac ar ôl y sesiynau. Mae'r meysydd ar sail tystiolaeth yn dod o'r Five Ways to Wellbeing.
Ymhob un o'r 5 maes (a’r un ychwanegol, 'mwynhad') roedd gwelliant yn sgoriau lles creadigol y bobl ifanc. Disgrifiodd y bobl ifanc hefyd sut roedd y sesiynau creadigol yn dod â hwyl a mwynhad, cyfle i ymlacio, gwneud ffrindiau a chysylltu ag eraill, teimlo'n ddiogel, balch o'u cyflawniadau a chael eraill i wrando arnynt, eu gwerthfawrogi, eu parchu a'u cynnwys.
View "Celfyddyd a Chrebwyll: adroddiad newydd yn dangos effaith dda creadigrwydd ar les pobl ifanc"
Tags: Pobl ifanc
