Bro Lles Dyffryn Nantlle

Authors(s), Creator(s) and Contributors: Yr Orsaf

Publication Date: 10/08/2026

Categories: Case Studies

Partner(s): Siop Griffiths Cyf (Yr Orsaf) CARN BCUHB Amgueddfa Lechi Parc Cenedlaethol Eryri Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru Ysgol Bro Lleu Ysgol Llanllyfni Gwasanaeth Iechyd Gwynedd

Funder(s): Cyngor Celfyddydau Cymru, Yr Orsaf Siop Griffiths Cyf.

Introduction

Bwriad y prosiect ‘Bro Lles’ oedd hybu iechyd meddwl, lles a hyder ym myd natur trwy ddefnyddio’r celfyddydau. Cynhaliwyd cymysgedd o sesiynau magu creadigrwydd, datblygu sgiliau gan blethu dathlu natur a’r gymuned. Cefnogwyd trawstoriad eang o oedran, plant a phobl ifanc gan ddefnyddio 3 deunydd naturiol lleol, gwlân, helyg a llechi, a rhoi siawns i oedolion i fagu hyder mewn sesiynau sgiliau misol. Y 3ydd grŵp oedd pobl 60+, lle bu digwyddiadau pontio’r cenedlaethau, ac ymweliadau i gartref henoed. Yn aml gwelwn drigolion o’r gymuned sy’n dioddef o arwahanrwydd gwledig ac unigedd. Ym mhob grŵp roedd nifer yn dioddef o ddiffyg hyder ers y cyfnod clo, bwriad y sesiynau dros 2025/26 oedd ymateb i hyn gan greu gofodau croesawgar, creadigol a sesiynau wedi ei wreiddio yn nhreftadaeth a’r dirwedd leol.

The Challenge

Yn dilyn sgil effeithiau covid canolbwyntiodd y prosiect ar yr her i iechyd meddwl fel unigedd, gor-bryder, ac ynyswyd cymdeithasol. Yn ôl ffigyrau AgeUk mae 33% o bobl yn dweud eu bod weithiau yn teimlo’n unig. Mae llawer o bobl hyn wedi cyflwyno ein hunain i ni trwy wasanaeth trafnidiaeth, Llond Bol, Be Nawn Ni, eu bod hefo diffyg cyswllt hefo’r gymuned, yn enwedig os ydyn nhw wedi symud i mewn. Cafodd cofid effaith mawr yn arbennig ar blant, pobl ifanc a’r genhedlaeth hyn. Dangoswyd y gall creu celf alluogi pobl i gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu hiechyd a'u lles eu hunain, trwy helpu i gynnal lefelau o annibyniaeth a chwilfrydedd a gwella ansawdd bywyd trwy ddod â mwy o lawenydd. Dros y blynyddoedd diwethaf gwelwn fod gorbryder wedi codi o 23% rhwng 2016-14 i 46% yn 2022 i 2023 ymysg pobl ifanc yng Nghymru. Ceisiodd y prosiect mynd i’r afael a hyn drwy gynnal gweithdai i bobl ifanc, yn ogystal â’r ddau grŵp oed arall, drwy roi gofod iddyn nhw gymdeithasu a dod hefo ffrindiau.

The Approach

Recriwtiodd Bro Lles dwy brif artist lleol i Ddyffryn Nantlle, Nicole Le Marie ac Eirian Muse, esboniwyd o’r cychwyn cyntaf mai ffocws y prosiect oedd ar lesiant a chreadigrwydd yn hytrach na rhoi pwysau ar allbynnau’r gwaith celf. Cydweithwyr hefyd hefo 4 artist arall i arwain rhai o’r sesiynau i oedolion. Bu’r artistiaid yn cynnal a chyflwyno sesiynau creadigol gyda phlant oed 9-11, ieuenctid oed 16+ yn ffocysu ar ddefnyddio gwlân gan ddefnyddio techneg ffeltio gwlyb, ac Eirian yn defnyddio helyg, i greu gwrthrychau wedi ei gwehyddu. Bu artistiaid eraill yn cyflwyno sesiynau i oedolion, a thrigolion 60+ dros y flwyddyn gan fagu hyder a rhoi cyfle i ddysgu sgiliau newydd. Cynhaliwyd 6 sesiwn i blant oed 9-11 ar ol ysgol yn wythnosol hefo Nicole a Eirian yn gweithio hefo Gwlan a Helyg. Cynhaliwyd 12 sesiwn i oedolion dros y flwyddyn yn digwydd unwaith y mis Cynhaliwyd 3 taith cerdded i blant, gyda helfa natur, braslunio a mwynhau’r amgylchedd naturiol. Ymweliadau a cartref henoed lleol. Cynhaliwyd 4 sesiwn pontio cenhedlaethau gyda grwpiau 60+ a plant Cynhaliwyd un sesiwn gwehyddu gwlan gyda CFFI

The Impact

Gan weithio gyda CARN, defnyddiwyd dulliau ansoddol a meintiol i werthuso Bro Lles. Yn ystod y cyfnod defnyddiwyd y canlynol: - Y prif ddull a ddefnyddiwyd ar gyfer casglu adborth plant rhwng 9 ac 11 oed fu’n mynychu sesiynau celf wythnosol oedd gofyn iddyn nhw nodi eu teimladau ar gychwyn a diwedd y sesiwn ar sail taflenni efo lluniau anifeiliaid yn cyfleu emosiynau gwahanol, yn ogstal a ambell i ffordd creadigol arall. - Holiadur SWEMWBS (Short Warwick and Edinburgh Wellbeing Scale) i geisio adnabod lefelau llesiant cyfranogwyr ar gychwyn y prosiect. - Cynhaliwyd gweithdy Mapio’r Effaith Crychdonnol (Ripple Effects Mapping, neu REM) gyda grŵp o oedolion a fu’n mynychu’r gweithdai celf misol. Canfyddiadau: Roedd cyfanswm mynychwyr yn 111 o oedolion a 159 o blant sy’n rhoi cyfanswm o 270 mynychwr. Tua 117 oedd nifer y cyfranogwyr unigol, gyda’r un bobl yn mynychu fwy nag unwaith, gan roi cyfanswm uwch o 270. Rhai dyfyniadau: Oedolyn oedd yn dod i’r sesiynau misol: “Mae’r profiad wedi agor lot o ddrysau, (ers magu hyder), dwi di bwcio fy hun ar retreat celf a ioga mis Mai nesa…fyswn i byth wedi gwneud hyn o’r blaen” Person ifanc o’r gweithdy ffeltio pontio cenhedlaethau “da cael cyfle i neud rwbath newydd. Dydan ni ddim rili yn cael g’neud petha fel ffeltio gwlyb yn y dosbarth” “oedd o’n rili relaxing i neud”. Gwelom hefyd canlyniadau anfwriadol, megis y cyfle i gydweithio gyda Ffermwyr ifanc a gefnogi prosiect creadigol GISDA yn yr ardal: "participants feel connected to local skills and traditions, while guided walks and outdoor sketching sessions encouraged young people to explore the quarry landscape and better understand the heritage of the area. Feedback from participants showed that they enjoyed the chance to creatively connect with their home town and appreciated the balance between creative work and outdoor activity. “ Gall weld fwy o fanylion yr effaith yn ogystal ag astudiaethau achos llawn yn y adroddiad gwerthuso llawn.

Lessons Learned

Trwy gydol y rhaglen mae cyfleoedd wedi bod i rannu a myfyrio ymysg CARN a’r Orsaf. Wrth edrych dros y cyfnod y prosiect, mi achosodd yr oedi mewn dechrau sawl her a oroeswyd; ymunodd y hwylusydd grŵp llywio celfyddydau iechyd a lles Gogledd Cymru a oedd y fuddiol iawn i’r broses. Yn y dyfodol, rhaid cytuno ar ddyddiadau cyfarfodydd o gwmpas y bwrdd wrth lunio’r cais, rhaid hefyd cael ymrwymiad amser a chapiaist gan staff. Dysgom fod creu gofod i gyd greu yn aml heb sgyrsiau dwfn yn ddigon weithiau i ddelio gydag unigrwydd. Roedd y plant wedi cael cyfle i gryfhau perthnasau a plant eraill cyn mynychu’r ysgol uwchradd. Doedd amser o'r flwyddyn ddim yn addas i ieuenctid oherwydd arholiadau. Er hyn gwelwyd budd ym mhob categori oed.

The Legacy

Mae’r prosiect yn cryfhau a chyfrannu at ein profiad o gynnal gweithdai celf, trafodaeth ynglŷn â’r canolfan celfyddydau a sut bydd y gofod yno’n cael eu defnyddio. Mae’r prosiect hefyd yn cryfhau ceisiadau a syniadau sydd wedi’i wneud ers y prosiect.

Website and Social Media Links

facebook.com/yrorsaf instagram.com/yrosaf youtoube/@yrorsaf carncelf.com

Contact Details

Esyllt Davies - esyllt.yrorsaf@gmail.com neu post.yrorsaf@gmail.com

Tags: Celfyddyd, pobl ifanc, trigolion 60+, Unigedd, hyder, natur, Dyffryn Nantlle, creftwaith, tirwedd.

Bro Lles Dyffryn Nantlle
Menu
Search