Blog y Cyfarwyddwr - Mis Hydref 2026
29/10/2026 | Author: Angela Rogers
Mae blog mis Hydref yma – mae wedi bod yn fis mawr i’r sector gyda digon i gnoi cil arno!
Annwyl Aelodau
Mae mis Hydref wedi bod yn fis arwyddocaol i’r celfyddydau, iechyd a llesiant yng Nghymru. Drwy gydol ein rhaglen Cynefin, trafodaethau polisi a chyfarfodydd rhwydwaith, mae’n amlwg fod y dystiolaeth yn bodoli, mae’r ymarfer yno ac mae’r awydd i newid yn bodoli. Yr her nawr yw sut rydyn ni’n gosod y celfyddydau ac iechyd yn gyfrannwr craidd i atal, llesiant a chymunedau iach.
Roedd Cyfarfod Rhwydwaith mis Hydref yn ein gwahodd i feddwl yn wahanol am gynaladwyedd. Anogodd Mark Robinson o Thinking Practice, awdur adroddiad Sefydliad Baring Creatively Minded and Resourceful, ynghyd â Ruth Haugen, Choirs for Good ni i feddwl y tu hwnt i gyllido yn unig ac ystyried yr adnoddau ehangach sy’n galluogi’r celfyddyau ac iechyd i weithio i ffynnu – partneriaethau, sgiliau, gwybodaeth, rhwydweithiau, profiad bywyd a chysylltiadau cymunedol. Er bod amrywio incwm a sicrhau buddsoddiad yn hanfodol, atgoffodd Mark ni mai cadw’n driw i’n diben a’n cenhadaeth yw’r flaenoriaeth bob amser.
Cynefin: Gwrando ar y Dystiolaeth
Bu ffocws llawer o waith y mis ar raglen Cynefin. Os colloch chi unrhyw rai o’r digwyddiadau, mae recordiadau o sesiynau 1 – 4 bellach ar gael.
Gyda thros 600 yn bresennol ar draws y pedwar digwyddiad, rydyn ni wedi dod ag artistiaid, gweithwyr iechyd proffesiynol, llunwyr pollisi, ymchwilwyr, sefydliadau diwylliannol a phobl â phrofiad bywyd at ei gilydd i drafod sut y gallai system celfyddyau ac iechyd gryfach edrych yng Nghymru. Roedd y sesiwn Cynefin olaf: Sut gall y celfyddydau helpu i ehangu mynediad at fuddion iechyd natur? yn tynnu sylw at y buddion iechyd yn sgil cysylltu â natur gyda phrif areithiau gan yr Athro David Sheffield a Megan Cumming, o Brifysgol Abertawe. Clywon ni sut y gall ‘profiad llif’ weithredu fel llwybr cynaliadwy at lesiant, ynghyd ag ymarfer llawr gwlad sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd gan Clwb Creft; Teithiau Canu Côr Un Byd Oasis; Synwyriwm; Lle i Dyfu a Chreu gyda’r artist Ami Marsden ac ymyriadau Tyfu'n Dda Creadigol. Dyw’r cysylltiadau rhwng iechyd, y celfyddydau, hinsawdd a natur ddim yn ddigon gweladwy eto mewn trafodaethau ymgynghori ar hyn o bryd. Mae angen i ni fod yn fwy clir am y rôl hanfodol sydd i’r cyswllt ag amgylchedd natur wrth gefnogi llesiant a gwydnwch.
Dros y pedwar digwyddiad rydyn ni wedi gwrando ar dystiolaeth, dysgu gan ymarfer enghreifftiol ac efallai yn fwy pwysig na dim, wedi creu lle ar gyfer sgyrsiau gonest am y rhwystrau sy’n parhau i atal gwreiddio dulliau celfyddydau ac iechyd mewn systemau prif ffrwd. Y camau nesaf fydd gweithio gyda Hyrwyddwyr Cynefin i lunio argymhellion ar gyfer gweithredu, gan symud y sgwrs y tu hwnt i pam fod y celfyddydau ac iechyd yn bwysig at sut i fynd ati i ymgorffori ymyriadau celfyddydol yn y polisi atal iechyd. Bydd yr argymhellion yn helpu i strwythuro ymateb WAHWN i’r ymgynghoriad Gweledigaeth ar gyfer Diwylliant sydd ar y gweill.
Cynhadledd Tir Cyffredin CHWA
Mae’r themâu a ddaeth i’r amlwg yn Cynefin wedi’u hadleisio mewn sgyrsiau cenedlaethol ledled Cymru a thu hwnt.
Hefyd y mis hwn roedd cynrychiolaeth dda o Gymru yng Nghynhadledd Tir Cyffredin y Gynghrair Diwylliant, Iechyd a Llesiant, gyda Rosie Dow, CCC a Becca Collins a Justine Wheatley o WAHWN yn cyfrannu at y trafodaethau. Thema oedd yn codi’n aml oedd bod llawer o’r heriau y mae Cymru’n eu hwynebu i’w gweld ledled y DU: anghydraddoldebau iechyd, pwysau’r gweithlu, gwydnwch cymunedol a mynediad at ddiwylliant. Gan fyfyrio ar y gynhadledd, roedd crynodeb Rosie o argymhellion yn cynnwys hwn i gyllidwyr a llunwyr polisi: "rhaid i ni symud y tu hwnt i gefnogi prosiectau yn unig ac yn lle hynny fuddsoddi yn y perthnasoedd, y seilwaith a’r arweinyddiaeth sy’n creu newid sy’n para. Nodwyd bod buddsoddi tymor hirach, cyllid aml-flwyddyn a gwell cydweithio ar draws sectorau yn hanfodol os yw iechyd creadigol am gyflawni ei botensial yn llawn."
Roedd gweithdy Becca yn canolbwyntio ar sut y gall rhwydweithiau celfyddydau ac iechyd gysylltu pobl a chreu cyfleoedd i ddylanwadu ar systemau a pholisi yn ehangach. Drwy weithgareddau mapio a myfyrio cyfunol, roedd y cyfranogwyr yn edrych ar sut y gall rhwydweithiau helpu i gysylltu’r dotiau rhwng ymarfer lleol ac uchelgais cenedlaethol. Roedd hyn yn ein hatgoffa mewn ffordd bwerus am y rôl y mae WAHWN a rhwydweithiau eraill yn ei chwarae yn creu cyfleoedd ar gyfer gweithredu cyfunol a rhannu dysgu.
Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru
Yng Nghynhadledd Iechyd y Cyhoedd Cymru y mis hwn, Rhoi Pobl Wrth Wraidd Atal – daeth dros 400 o weithwyr proffesiynol ar draws sectorau i drafod sut y gall Cymru greu’r amodau ar gyfer bywydau iachach a lleihau anghydraddoldebau iechyd drwy bartneriaeth ac ymyrraeth gynnar. Atgyfnerthodd Nerys Evans, y Dirprwy Weinidog Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol ei galwad am “chwyldro atal”. Mae’n arwydd o gydnabyddiaeth gynyddol fod atal yn golygu bod angen i ni weithredu’n gynt, gweithio’n wahanol a buddsoddi yn y pethau sy’n cadw pobl yn iach, yn hytrach nag aros i argyfwng godi.
Y mis hwn hefyd cyhoeddwyd adroddiad gwerthuso diweddaraf Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring Celfyddydau a Chrebwyll, sy’n dangos effaith gadarnhaol creadigrwydd ar lesiant pobl ifanc – rhaglen sy’n galluogi gweithgareddau creadigol gydag artistiaid o fewn GIG CAMHS i gefnogi pobl ifanc a’u teuluoedd a gwella’r gwasanaeth.
Ochr yn ochr â’r sail gynyddol o ymchwil, rydyn ni’n parhau i weld enghreifftiau ymarferol o effaith ledled Cymru. Yn gynharach y mis hwn, ymunodd WAHWN a Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru â chyfarfod Clinig Perfformiad a Gwella Poen Parhaus GIG Cymru i rannu dysgu ar sut y gall dulliau creadigol gan gynnwys Lles gyda WNO, gefnogi pobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd tymor hir.
Un mater a gododd dros ar ôl tro yn rhaglen Cynefin oedd cynaladwyedd y gweithlu creadigol ei hun. Mae datblygiadau diweddar yn yr Alban sy’n edrych ar isafswm incwm i artistiaid wedi arwain at drafodaethau sylweddol. Roedd tâl teg, cynaladwyedd y gweithlu a chydbnabod y cyfraniad y mae artistiaid yn ei wneud i iechyd y cyhoedd a llesiant cymunedol yn themâu cyson drwy holl drafodaethau Cynefin. Os ydyn ni’n rhoi gwerth ar y cyfraniad mae artistiaid yn ei wneud at atal, llesiant a gwydnwch cymunedol, yna mae’n rhaid i ni hefyd ystyried yr amodau sy’n eu galluogi i ffynnu.
Bydd Cyfarfod Rhwydwaith mis Tachwedd ar 12 Tachwedd, a hwylusir gan Laura Drane, yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan y celfyddydau ac iechyd lais cryf yn Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon newydd Cymru. Gyda’n gilydd byddwn yn trafod lle’r ydyn ni nawr, lle’r ydyn ni’n dymuno bod ymhen deng mlynedd a’r camau ymarferol sydd eu hangen i wireddu’r uchelgais hwnnw.
Ymlaen
Angela Rogers
