Blog y Cyfarwyddwr - Mis Gorffenaf 2026
06/08/2026
Gobeithio eich bod yn mwynhau egwyl i orffwyso ac adnewyddu dros yr haf. Mae tîm WAHWN yn edrych ymlaen at fis Awst tawelach, wrth baratoi at fis Medi prysur a chynnal y don nesaf o ddigwyddiadau Cynefin.
Ar 9 Medi byddwn yn cyflwyno’r ail weminar yn rhaglen Cynefin, sydd unwaith eto’n cyd-fynd ag egwyddorion Marmot - Lleoedd a Chymunedau Iachus a Chynaliadwy – wrth i ni edrych ymlaen at groesawu Heledd Fychan, y Gweinidog dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Karen Mak Uwch Gymrawd Ymchwil mewn Epidemioleg/Ystadegau yn UCL ac arddangos arfer enghreifftiol o bob rhan o Gymru. Ar 24 Medi byddwn yn cynnal digwyddiad wyneb yn wyneb yn YMCA, Port Talbot yn canolbwyntio ar atal iechyd gwael. Mae nifer cyfyngedig o leoedd, gyda bron i chwarter y tocynnau eisoes wedi mynd, felly rydyn ni’n argymell archebu lle ar hwn.
Rydyn ni’n ddiolchgar i’r garfan o Hyrwyddwyr Cynefin am roi eu hamser a’u harbenigedd ac am ein cynorthwyo i fyfyrio ar heriau, tystiolaeth ac arfer, a llunio set o argymhellion polisi a gaiff eu mireinio yn dilyn y digwyddiad Cynefin olaf ar 21 Hydref. Mae rhaglen Cynefin yn amserol, yn cyd-fynd â Chynllun 100 Diwrnod Cyntaf Plaid Cymru; a phanel a chyflwyniad ar Ddiwylliant – Datgloi potensial Cymru: strategaeth ddiwylliant newydd i Gymru gyda Heledd Fychan a Dafydd Rhys, CCC yn yr Eisteddfod ar 5 Awst yn Sir Benfro, yn gyfleus ddigon dim ond awr i fyny’r ffordd oddi wrthyf i!
Gweledigaeth ar gyfer diwylliant a chwaraeon yng Nghymru: galw am dystiolaeth | Mae LLYW.CYMRU bellach yn fyw gyda dyddiad cau o 18 Rhagfyr ar gyfer ymatebion. Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar ein sectorau am dystiolaeth i helpu i lunio gweledigaeth genedlaethol a rennir, a nodi camau ymarferol sydd eu hangen.
Rydyn ni hefyd yn croesawu cyfweliad arbennig Heledd Fychan yn ddiweddar gydag Arts Professional Exclusive: New Welsh Culture Secretary on inheriting a 'crisis situation' - Arts Professional lle mae’n cydnabod na ellir sicrhau cynnydd mawr mewn cyllid ar unwaith, ond serch hynny ceir ymrwymiad i lwybr cynyddol o fuddsoddi dros amser, ac mae’n dadlau bod sector y celfyddydau wedi’i danariannu. Rydyn ni’n aros am fanylion ymgynghoriad ar strategaeth diwylliant newydd. Mae datganiad llafar Nerys Evans, y Gweinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, yn egluro ei blaenoriaethau ar gyfer atal, Rhaid i Gymru fynd i'r afael ag achosion salwch, nid dim ond y canlyniadau, wedi gosod y celfyddydau a chwaraeon yn rhan o’r seilwaith atal a thrafod "y rôl ehangach sydd i’r celfyddydau a chwaraeon mewn llwybrau iechyd".
Rydyn ni’n annog aelodau i ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Iechyd a Gofal sy’n dod i ben ar 14 Medi. Mae’r ymgynghoriad yn gwahodd adborth ar flaenoriaethau ac yn cynnig cyfle gwirioneddol i dynnu sylw at y celfyddydau, iechyd a llesiant a’i rôl yn cryfhau gwasanaethau iechyd meddwl, cryfhau partneriaethau rhwng iechyd a’r celfyddydau ac ysgogi gwelliannau mewn iechyd menywod.
Mae’n wych hefyd gweld Cymru’n cael ei chydnabod ar lefel ryngwladol mewn erthygl ddiweddar yn Arts Professional yn cymharu Cymru â Groeg, gan dynnu sylw at y ffordd mae’r ddwy wlad wedi symud yn sylweddol, o ystyried y celfyddydau ac iechyd fel cyfres o gynlluniau a phrosiectau peilot i gydnabod eu rôl fel un hanfodol i bolisi ac atal prif ffrwd. Mae’r erthygl yn amlygu’r seilwaith cryf sydd gan Gymru ac yn disgrifio sut mae ‘presgripsiynu diwylliannol’ Groeg wedi dod yn rhan o’r seilwaith gofal iechyd cenedlaethol, sy’n cynnwys cynlluniau presgripsiynu diwylliannol mewn polisi gofal iechyd statudol, sy’n enghraifft o’r hyn y gallai integreiddio cyflawn fod. Yn ei hanfod, mae Cymru’n cynrychioli’r cyfle a Groeg yn cynrychiol’r model.
Mewn newyddion arall…
Mae 12 mentorai Camu i Mewn yn gwneud cynnydd gwych yn dilyn yr wythnos hyfforddi. Gyda chyllid ychwanegol gan Sefydliad Baring ac Elusen Gwendoline a Margaret Davies, maen nhw wedi cyflawni Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a hyfforddiant ymwybyddiaeth Ceiswyr Lloches gydag EYST – sy’n helpu’r mentoreion i ddeall mwy am y rhwystrau mae’r gymuned leiafrifol hon yn eu hwynebu.
"Mae gwella sgiliau a hyfforddi’n rhan hanfodol o raglen Camu i Mewn / Stepping In. Mae cynnig trosolwg o’r sector yn y gogledd, ynghyd â chyflwyniadau a gweithgareddau gan ein partneriaid a phrosiectau, yn sicrhau gwybodaeth gyfoethog am sector y celfyddydau, iechyd a llesiant. Mae sesiynau hyfforddi megis Diogelu Grwp B, Creu Mannau Niwro-gynhwysol ar gyfer Mynegiant Creadigol, hyfforddiant Ystyriol o Ddementia ac wedi’i Lywio gan Drawma yn meithrin eu banc gwybodaeth ac yn sicrhau set newydd o sgiliau iddyn nhw ar gyfer rolau yn y sector yn y dyfodol." (Rebecca Hardy-Griffith, Rheolwr y Rhaglen)
Mae dau o’r mentoreion eisoes wedi cael eu comisiynu i gyflwyno gwaith prosiect, gyda gweddill y mentoreion yn ymgymryd â lleoliadau gwaith byw dros fisoedd yr haf a’r hydref.
Ymyriadau Cymraeg yng ngogledd Cymru oedd ffocws cyfarfod rhwydwaith mis Gorffennaf, gyda Iola Ynyr yn cyflwyno Consortiwm Celfyddydau'r Gymraeg, a buom yn trafod y rhwystrau a’r cyfleoedd ar gyfer cynyddu’r nifer o ymarferwyr Cymraeg eu hiaith. Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda’r consortiwm dros y flwyddyn nesaf i ddatgloi mwy o botensial.
Gan ddymuno egwyl da i chi dros yr haf, ac edrych ymlaen at eich gweld chi mewn digwyddiad WAHWN yn y dyfodol.
Ymlaen!
Angela
