Blog y Cyfarwyddwr - Mis Mehefin 2026

01/07/2026 | Author: Angela Rogers

Blog y Cyfarwyddwr - Mis Mehefin 2026

Annwyl Aelodau,

 

Gyda thristwch mawr y clywais ein bod wedi colli Clive Parkinson y mis hwn – bydd llawer ohonom ledled y sector yn gweld ei eisiau’n awr – gwir gawr yn y celfyddydau ac iechyd gyda’i ddylanwad yn ffurfio meddwl, ymarfer a pholisi yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol wedi bod yn rhan ganolog o’i feddwl a’i ymarfer, gyda’i waith bob amser yn dal ffocws cryf ar iechyd meddwl a byw’n dda gydol oes yn ogystal â bod yn eiriolwr dros lais y profiad byw a bywyd. Roedd yn gynnes ac yn garedig ac yn un o’r bobl mwyaf doniol i mi ei adnabod. Bydd ei waddol yn dal i fyw ym mhopeth a wnawn.

Yn gynharach y mis hwn cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu blaenoriaethau ar gyfer y celfyddydau a diwylliant.

“Mae diwylliant a chwaraeon yn feysydd o bwys, nid yn opsiynol neu’n braf eu cael.” (Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan)

Roedd y datganiad yn tynnu sylw at rôl sylfaenol y celfyddydau a diwylliant mewn atal, ac adeiladu gwasanaeth iechyd cynaliadwy.

“Mae’r Llywodraeth hon yn credu yng ngrym diwylliant a chwaraeon i drawsnewid bywydau, i gyfrannu i’r weledigaeth o symud tuag at agenda iechyd ataliol er mwyn gosod ein Gwasanaeth Iechyd ar sylfaen fwy cynaliadwy, ac am ein bod yn benderfynol o adeiladu Cymru lle mae creadigrwydd yn ffynnu.”

Aeth yn ei blaen i ddweud ei bod hi’n edrych ymlaen at weithio ar draws portffolios a gyda rhanddeiliaid a phobl Cymru i gyflawni’r strategaeth a’r weledigaeth newydd. Mae WAHWN yn edrych ymlaen at gefnogi’r uchelgais hwn a sicrhau y caiff ei wreiddio mewn polisi ac ymarfer a galluogi cyfleoedd i aelodau allu sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn y broses ymgynghori.

Edrychwn ymlaen at groesawu’r Gweinidog Heledd Fychan i weminar nesaf Cynefin.  Dros y 6 mis nesaf byddwn yn cyd-gyflwyno cyfres o ddigwyddiadau wedi’u hanelu at osod y celfyddydau’n wasanaeth cyhoeddus rheng flaen.  Daeth y digwyddiad cyntaf yn y gyfres ‘Y Dechrau Gorau mewn Bywyd' y mis hwn â thros 120 o gynrychiolwyr ynghyd i ddysgu am yr heriau, clywed y dystiolaeth, rhannu’r gwersi a gwrando ar brofiad bywyd. Roedd y rhestr o gyfraniadau gwych yn cynnwys - ‘Meithrin Tadau' Tu Mewn Allan Cymru; Melodies for Mums, Ymchwil Iechyd Celfyddydau Breathe; Dwylo Bach Making Sense CIC; Parent Infant Foundation a StARTing Well, BIP Hywel Dda.  

Cewch weld y weminar gyfan yma.

Mae gan y garfan o uwch arweinwyr yn y celfyddydau ac iechyd sy’n Hyrwyddwyr Cynefin rôl eiriol hanfodol a gyda’i gilydd byddan nhw’n helpu i lunio argymhellion polisi ymarferol. Gan fyfyrio ar y dystiolaeth a’r ymarfer a rannwyd, dywedodd Philip Daniels, Arweinydd Iechyd y Cyhoedd BIPCTBM - “Mae’n bryd gwasgu’r sbardun i’r llawr.”

Cynhelir y digwyddiadau nesaf, pob un yn canolbwyntio ar egwyddorion Marmot, ar:

  • 9 Medi – cymunedau a lleoedd iach;
  • 24 Medi – digwyddiad wyneb yn wyneb ym Mhort Talbot yn canolbwyntio ar atal afiechyd
  • 21 Hydref – ffocws ar anghydraddoldebau iechyd.

Gobeithio y gallwch chi ymuno â ni. Dolenni archebu i ddilyn yn fuan.

Yr wythnos ddiwethaf cynhaliodd Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol eu Fforwm Diwylliant diweddaraf ym Mhontypridd gyda thros 100 o gynrychiolwyr o’r sectorau cyhoeddus a diwylliannol  yng Nghymru. Ochr yn ochr â dathlu sefydliadau diwylliannol ac artistiaid lleol, croesawodd y fforwm yr anerchiad uniongyrchol cyntaf gan y Gweinidog Heledd Fychan i’r sector diwylliant ers iddi ddechrau ar ei rôl newydd fis diwethaf. Dywedodd y gweithiwr llawrydd preswyl, WFGO Tracy Breathnach “Mynegodd Heledd Fychan ei hangerdd dros y celfyddydau a’i bwriad i weithio gyda ni, yn y sector diwylliant. Dywedodd bod Diwylliant yn fwy nag adlewyrchiad o bwy ydym ni nawr, a bod ganddo’r pŵer i ffurfio pwy fyddwn ni yn y dyfodol. Mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n ei wneud yn wydn ar gyfer y cenedlaethau nesaf. Atgoffodd ni fod diwylliant yn hawl sylfaenol i bawb, ac mae am i Ddiwylliant yng Nghymru fod yn hyderus, yn gynhwysol ac edrych i’r dyfodol. Bydd yn rhannu’r Strategaeth Diwylliant newydd dros yr wythnosau nesaf, ynghyd â chynlluniau a mesurau i’w roi ar waith. Mae hi am weld newid yn y system gyfan sy’n adlewyrchu pŵer a photensial ataliol diwylliant, a chael chreadigrwydd yn rhan o’r bywyd cenedlaethol.” 

Mae myfyrdodau Tracy ar y prif elfennau yn y Fforwm yn cynnwys;

  • Rhaid i ni weithio’n lleol, gan gyflenwi ymyriadau ar lefel y stryd, cymydog i gymydog.
  • Mae angen i ni hyfforddi staff mewn cyrff cyhoeddus i ddeall beth yw diwylliant a’r potensial sydd ganddo ar draws gwasanaethau.
  • Mae diwylliant yn ysgogi’r agendâu llesiant ac atal.

 

Mewn newyddion arall…

Cynhadledd Adrodd Straeon ar gyfer Iechyd

Yn y Gynhadledd Adrodd Straeon ar gyfer Iechyd eleni ym Mhrifysgol De Cymru, roedd yn bleser gennyf gadeirio panel yn trafod rôl naratif mewn iechyd a llesiant drwy lens prosiect Menywod Cronig Llenyddiaeth Cymru. Bu’r panelwyr – Rosie Dow, CCC; Claire Furlong, Llenyddiaeth Cymru; Sarah Goodey, BIPAB a Dr Helen Munro yn trafod y lleisiau nas clywir, adrodd straeon i ddylanwadu ar newid systemau a chyfleoedd yn y dyfodol. Yr artist preswyl oedd Pauline Le Britton a raddiodd o Brifysgol De Cymru’n ddiweddar gydag MA yn y Celfyddydau Iechyd a Llesiant, a bu’n gwahodd cynrychiolwyr i helpu i greu’r gadwyn storïol ‘Storytellers Way’, gan wahodd straeon a myfyrdodau dros y ddau ddiwrnod. Roedd yn ysbrydolaeth clywed Lesley Goodburn o NICE (Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal) yn rhannu sut mae straeon am brofiad byw yn dylanwadu ar benderfyniadau a’r nod yw gwreiddio’r celfyddydau ledled y sefydliad. Dw i’n edrych ymlaen at drafod cydweithio yn y dyfodol gyda thîm NICE.  Yr hyn a ddysgais i yn y digwyddiad oedd:

  • Bod straeon yn cysylltu tystiolaeth â phrofiad byw
  • Bod naratif yn gallu symud grym a phersbectif
  • Bod gwrando yr un mor bwysig â dweud
  • Bod cyd-greu’n meithrin ymddiriedaeth a pherthnasedd

Sefydliad Baring – Meddwl Creadigol a Dyfeisgar

Mae Sefydliad Baring yn parhau i gryfhau’r sgwrs genedlaethol, gan amlygu pwysigrwydd meddwl yn greadigol a bod yn ddyfeisgar wrth drafod tystiolaeth. Wrth i ni gasglu straeon a data ledled y rhwydwaith, ceir cyfle clir i gydweddu ein gwaith â’r sail dystiolaeth ehangach hon yn y DU – gan sicrhau bod yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru yn weladwy, yn gredadwy ac yn ddylanwadol. Gallwch weld yr adnodd newydd yma.

Cyfarfodydd Rhwydweithio WAHWN

Mae’r cyfarfodydd rhwydweithio’n parhau i adlewyrchu ehangder y gwaith a wneir ar draws Cymru. Gan barhau â thema Y Dechrau Gorau mewn Bywyd, roedden ni wrth ein bodd i groesawu Jennifer Abell, Live Music Now i siarad am Brosiect Lullaby yng nghyfarfod mis Mehefin.  Gan ganolbwyntio ar ben arall taith bywyd, bu Dr B Creative (Bethan Ryland) yn rhannu ei gwaith ar heneiddio creadigol ar draws nifer o sefydliadau partner a chartrefi gofal, gan gynnwys discos tawel pwrpasol. Rhannodd Dr Catherine Jenkins a Dr Menna Brown o Brifysgol Abertawe eu Pecyn Cymorth a chynnig hyfforddi Presgripsiynu Cymdeithasol yn Seiliedig ar Natur. Nod y pecyn cymorth yw helpu sefydliadau i ddatblygu a chryfhau eu gallu i werthuso, gan eu cefnogi i ddeall a dangos eu heffaith yn well.

Gobeithio y gallwch chi ymuno â ni yng nghyfarfod mis Gorffennaf, wrth i ni groesawu Iola Ynyr i siarad am Gonsortiwm Cymraeg CCC, ochr yn ochr â Mared Roberts o Llenyddiaeth Cymru ar Fenywod Cronig a chylwed am Troedio Tonnau – ymyriad ar alar yn canolbwyntio ar bobl ifanc, gan Buddug Roberts a Manon Gwynant.

Ymlaen!

Angela

Previous Article

Blog y Cyfarwyddwr - Mis Mehefin 2026
Menu
Search