Blog y Cyfarwyddwr - Mis Mai 2026

26/05/2026 | Author: Angela Rogers

Mae hi’n Wythnos Creadigrwydd a Llesiant (18 – 24 Mai) – sy’n taflu goleuni ar y rôl hanfodol mae diwylliant yn ei chwarae yn cefnogi iechyd a chyswllt cymunedol.

Category: 

Annwyl Aelodau,

Mae hi’n Wythnos Creadigrwydd a Llesiant (18 – 24 Mai) – sy’n taflu goleuni ar y rôl hanfodol mae diwylliant yn ei chwarae yn cefnogi iechyd a chyswllt cymunedol. Eleni, cyrhaeddodd y sgwrs ar y celfyddydau ac iechyd gynulleidfaoedd newydd drwy feddiannu rhifyn arbennig o The Big Issue – gan osod profiad byw, creadigrwydd a chyfiawnder cymdeithasol wrth galon platfform cenedlaethol. Mae’r math hwn o welededd yn bwysig. Mae’n helpu i newid canfyddiadau: o’r celfyddydau fel rhywbeth ychwanegol dewisol, i’r celfyddydau fel seilwaith hanfodol ar gyfer llesiant. Dw i hefyd wrth fy modd gyda’r clawr a gynlluniwyd gan yr artist David Shrigley, noddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Creadigol.

Ers y blog diwethaf, rydyn ni wedi profi newid seismig yn y dirwedd wleidyddol yng Nghymru.  Rydyn ni yn WAHWN yn llongyfarch Rhun ap Iorwerth yn gynnes ar gael ei benodi’n Brif Weinidog ac yn edrych ymlaen at weithio’n adeiladol gyda Plaid Cymru, y Cabinet newydd, ac Aelodau o’r Senedd ar draws pob plaid drwy gydol seithfed tymor y Senedd. 

Cawn ein calonogi’n arbennig gan benodiad Heledd Fychan yn Weinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, a ddywedodd mewn cyfweliad â BBC Politics Wales:  

"Ar hyn o bryd, caiff rhaglenni celfyddydau ac iechyd eu hariannu gan Gyngor y Celfyddydau, ac rydyn ni am wneud yn siŵr eu bod yn cael eu gwreiddio yn y GIG er mwyn cael cydraddoldeb o ran profiad a chyfleoedd ble bynnag rydych chi’n byw yng Nghymru.

"Dyw hyn ddim yn ymwneud â buddsoddi yn unig; bydd yn creu arbedion ac yn helpu i dyfu economi Cymru." 

Rydyn ni’n rhannu’r uchelgais hwn ac yn edrych ymlaen at  ddidwylledd o’r newydd wrth greu polisïau – cydnabod bod cyfraniad hanfodol gan y celfyddydau a diwylliant at iechyd, llesiant ac atal, a gosod y celfyddydau nid fel rhywbeth sy’n braf i’w gael ond fel elfen graidd o Gymru iachach. Rydyn ni hefyd yn croesawu penodi Nerys Evans yn Ddirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, a Delyth Jewell yn Ddirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod. 

Ar adeg o alwadau cynyddol ar iechyd a gofal cymdeithasol, mae’r achos dros atal yn gryfach nag erioed. Fel y noda Darren Hughes o Gonffederasiwn GIG Cymru, ceir consensws cynyddol ynghylch yr hyn sydd angen ei newid – yr her sy’n parhau yw sut. Mae’r celfyddydau’n rhan hanfodol o’r ‘sut’ yna: galluogi ymyrryd cynnar, cryfhau cymunedau, a mynd i’r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd.

Mae’r argyhoeddiad hwn yn sail i raglen Cynefin Cymunedau Creadigol yr AHRC, a gyflwynir gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Swyddfa Cenedlaethau’r Dyfodol – creu lle ar gyfer meddwl newydd, rhannu dysgu a gweithredu ymarferol yn y croestoriad rhwng y celfyddydau, iechyd a pholisi.

Mae’n bleser cael lansio’r sesiwn gyntaf mewn cyfres o drafodaethau cenedlaethol ar 24 Mehefin: 

Sut all y celfyddydau gyfrannu at y dechrau gorau mewn bywyd? 

Mae rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yn golygu mynd i’r afael â phenderfyddion cymdeithasol iechyd yn gynnar. Bydd y sesiwn yn edrych ar sut y gall y celfyddydau a chreadigrwydd gefnogi Egwyddor Marmot bod pob plentyn yn haeddu’r dechrau gorau mewn bywyd – gan feithrin cysylltiad, hyder a datblygiad yn y blynyddoedd cynnar, a ffurfio canlyniadau gydol oes. 

Rydyn ni’n falch i ddod â lleisiau blaenllaw at ei gilydd ar draws sectorau gan gynnwys yr Athro Isabel Oliver, Prif Swyddog Meddygol Cymru; Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru; Dr Kathrin Thomas, Cymrawd Bevan a Rhwydwaith Pen Dwfn Cymru; a Bardd Cenedlaethol Cymru Hanan Issa.

Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen at lansio Cynefin yng Ngŵyl y Gelli ar 28 Mai, yn dilyn sgwrs Dr Daisy Fancourt. Mae hyn yn nodi dechrau cyfres ehangach o bedair gweminar yn edrych ar sut y gallai gwreiddio’r celfyddydau a diwylliant fel gwasanaeth cyhoeddus rheng flaen arwain at newid mawr yn iechyd y boblogaeth yng Nghymru. Rydyn ni’n estyn gwahoddiad i chi ymuno â ni a helpu i ffurfio’r drafodaeth.

Roedd yr ysbryd hwn o gydweithio’n amlwg yn wythnos hyfforddi Camu i Mewn yn ddiweddar, pan groesawon ni 12 o fentoreion newydd ysbrydoledig i rwydwaith WAHWN. Dros yr wythnos ysgogol, bu’r cyfranogwyr yn cyfrannu mewn rhaglen gyfoethog yn trafod ymarfer creadigol niwro-gynhwysol, diogelu, dulliau’n seiliedig ar drawma, gwaith sy’n ystyriol o ddementia, a’r celfyddydau mewn lleoliadau GIG. 

O waith Iola Ynyr gydag Ar y Dibyn, i ymarfer creadigol gyda’r cerddor a’r athro Capoeira Colin Diamond; Outside Lives; Eleni Cymru; yr artist Jude Law; Mared Huws a Dr Nia Jones, Deon Meddygaeth;  ac arloesi ym maes llesiant drwy Stiwdio Lles Mari Gwent, roedd y rhaglen yn arddangos dyfnder yr arbenigedd ledled Cymru.  

Mae sylfaen gynyddol o dystiolaeth yn cefnogi’r gwaith hwn. Mae ymchwil yn parhau i ddangos bod ymgysylltu â’r celfyddydau a diwylliant yn gysylltiedig â heneiddio biolegol arafach, sy’n atgyfnerthu’r hyn y mae llawer yn ein rhwydwaith yn ei wybod eisoes: nid peth moethus yw creadigrwydd ond rhywbeth sy’n sylfaenol i heneiddio iach a llesiant gydol oes.

Wrth edrych ymlaen, mae cydweddiad clir â blaenoriaethau cenedlaethol sy’n datblygu. Mae Swyddfa Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn archwilio cynigion ar gyfer Pwyllgor at y Dyfodol a grŵp trawsbleidiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, tra bo’r safonau cenedlaethol newydd ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yn gam pwysig ymlaen i wreiddio dulliau cyfannol yn y system iechyd. 

Gyda’i gilydd, mae’r datblygiadau hyn yn arwydd o gydnabyddiaeth gynyddol nad gwasanaethau clinigol yn unig sy’n gallu cyflwyno iechyd a llesiant cynaliadwy – yr hyn mae Dr Daisy Fancourt yn ei ddisgrifio’n "foment gwregys diogelwch" i'r celfyddydau ac iechyd. 

Edrychwn ymlaen at barhau â’r daith hon gyda chi

Ymlaen, 
Angela 

Previous Article

Blog y Cyfarwyddwr - Mis Mai 2026
Menu
Search