Blog y Cyfarwyddwr - Mis Mawrth 2026
26/03/2026 | Author: Angela Rogers
Bu Mawrth yn fis o eiriolaeth, hyfforddi a chydweithio i dîm WAHWN.
Annwyl aelodau
Gobeithio eich bod wedi cael cyfle i groesawu’r heulwen dros yr wythnos ddiwethaf. Tonig yn wir!
Bu Mawrth yn fis o eiriolaeth, hyfforddi a chydweithio i dîm WAHWN. Mae bod allan mewn digwyddiadau’n brofiad egnïol, gan gynnwys Diwrnod Astudio Cydraddoldeb Iechyd Pen Dwfn Cymru, Art of the Possible Comisiwn Bevan, Creatively Minded & Ethnically Diverse Revisited gyda Sefydliad Baring a’r Digwyddiad Arddangos Presgripsiynu Cymdeithasol Cenedlaethol. Mae sgyrsiau yn y digwyddiadau hyn yn parhau i amlygu pa mor hanfodol yw’r celfyddydau ac iechyd fel rhan o agenda atal ehangach Cymru, a pha mor fregus yw llawer o’r sefydliadau llawr gwlad sy’n gwneud y gwaith.
“…i lawer o bobl, nid rhywbeth ychwanegol dewisol yw’r sefydliadau bach hyn. Dyma’r unig le y gallan nhw fynd iddo” (Eleri Jones, Eleni)
Ar drothwy etholiad y Senedd mae’n hanfodol ein bod yn eiriol dros ein gwaith ac i helpu gyda hyn bydd WAHWN yn rhannu templed ebost yr wythnos nesaf y gallwch ei ddefnyddio i gysylltu ag ymgeiswyr yn yr etholiad. Rydym ni’n aros i’r pleidiau gwleidyddol i gyd gyhoeddi eu rhestrau ymgeiswyr.
DPP cyflwyniad i’r celfyddydau, iechyd a llesiant
Drwy gomisiwn gan CBS Conwy, bu WAHWN yn cyflenwi cwrs gyda’r nos dros bum wythnos yn cyflwyno ymarferwyr yng Nghonwy i’r celfyddydau, iechyd a llesiant. Gyda phynciau’n amrywio o egwyddorion ansawdd iechyd creadigol, arferion meddwl creadigol, sgiliau hwyluso ac awgrymiadau ar gyfer ymgeisio am gyfleoedd, rydym ni wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn gan y rhai a dderbyniodd yr hyfforddiant.
"Roedd y sesiynau i gyd yn addysgol iawn gyda gwybodaeth glir, ddefnyddiol yn cael ei chyflwyno gan bobl sydd â gwir angerdd a gwybodaeth drylwyr" (hyfforddai)
"Diolch am gwrs rhyfeddol o addysgol. Roedd y cyflwynwyr i gyd yn ddiddorol iawn ac yn cyflwyno mewn modd hygyrch ac amrywiol oedd yn cynnal diddordeb" (hyfforddai)
Cysylltwch os hoffech drafod hyfforddiant pwrpasol i’ch awdurdod lleol neu sefydliad.
Camu i Mewn
Braf oedd gweld amrywiaeth mor gyfoethog ac eang o geisiadau ar gyfer Camu i Mewn eleni. Edrychwn ymlaen at gyhoeddi’r garfan newydd dros yr wythnosau nesaf. Yn y cyfamser mae’r alwad am werthuswr Cymraeg ei iaith bellach yn fyw. Dwi wrth fy modd ein bod wedi sicrhau cymorth ychwanegol gan Sefydliad Baring fydd yn gadael i ni ehangu nifer yr ymarferwyr a phartneriaid cyflenwi - Canolfan Gerdd William Mathias a Theatr Clwyd.
Fel rhan o’r cydweithio parhaus gyda Sefydliad Baring, bu ein Swyddog Rhaglenni, Becca, yn cynrychioli WAHWN yn achlysur lansio Creatively Minded & Ethnically Diverse Revisited yn Llundain yr wythnos ddiwethaf. Roedd y digwyddiad yn cynnig myfyrdod amserol ar ein cyd-ymrwymiadau i gefnogi sector mwy amrywiol a chynrychioliadol.
Atal, Cydraddoldeb a Phrofiad Byw
Dros yr wythnosau diwethaf dwi wedi cael llawer i feddwl amdano yn sgil tri digwyddiad gwahanol iawn, gyda phob un yn dychwelyd i’r un themâu – atal, cydraddoldeb a phŵer profiad byw.
Yn yr Digwyddiad Arddangos Presgripsiynu Cymdeithasol, roedd lansio’r Fframwaith Galluoedd a Gwerthoedd Craidd yn teimlo fel cam sylweddol ymlaen. Roedd yn galonogol gweld pa mor gryf roedd y fframwaith yn pwysleisio ymarfer person-ganolog, cysylltiad cymunedol ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol.
Wrth wrando ar yr Athro Kelechi Nnoaham yng nghyfarfod Comisiwn Bevan The Art of the Possible, cawsom ein herio gyda’r cwestiwn “nid a yw atal yn gweithio, ond pam ydyn ni wedi methu ag adeiladu system sy’n ymgorffori’r gwirionedd hwn”. Roedd yn bryfoclyd a hefyd yn wahoddiad. Fe atgoffodd fi er bod y celfyddydau ac iechyd yn aml yn cael ei ystyried yn rhywbeth ar yr ymylon, fod ein gwaith mewn gwirionedd yn ganolog i’r weledigaeth atal. Fe wyddom fod creadigrwydd yn meithrin cysylltiad, hyder a gwydnwch – yr union amgylchiadau y mae system ataliol yn dibynnu arnyn nhw.
Roedd Diwrnod Astudio Cydraddoldeb Iechyd Pen Dwfn Cymru yn galonogol, gyda thros 100 o feddygon teulu a meddygon teulu dan hyfforddiant sydd wedi ymrwymo i wreiddio cydraddoldeb yn eu hymarfer bob dydd. Yr uchafbwyntiau i mi oedd yr Athro Michael Marmot ar y Lleoedd Marmot Newydd yng Nghymru (ffocws cyfarfod rhwydwaith mis Mawrth) a gweithdy rhyngweithiol Made by Mortals, STUCK. Roedd gwylio clinigwyr yn ymgysylltu â’r profiadau byw y tu ôl i’r ystadegau – yn gwrando ac yn myfyrio, yn bwerus iawn. Roedd yn ein hatgoffa nad nod haniaethol yw cydraddoldeb; mae’n ymwneud â deall y gwirioneddau y mae pobl yn eu hwynebu, a chynllunio gwasanaethau gyda nhw, nid iddyn nhw. Ceir cydnabyddiaeth gynyddol ar draws y system nad oes modd cyflawni cydraddoldeb ac atal heb gael diwylliant, creadigrwydd a chymuned yn rhan o’r ateb. Mae gan WAHWN ran bwysig i’w chwarae yn cadw’r sgyrsiau hyn yn gysylltiedig, yn bwyllog ac yn uchelgeisiol.
Newyddion arall…
- WAHWN yn cydweithio ar ddigwyddiad ‘Cymryd Rhan yn Wythnos Ffoaduriaid’ 14 Ebrill
- Gwobrau Elusennau Cymru yn agor am enwebiadau ar 15 Ebrill – yn dathlu gwaith elusennau, cwmniau dielw a grwpiau cymunedol
- Gofod 3, 17 Mehefin – dod â’r sector gwirfoddol ynghyd ar gyfer rhwydweithio, siaradwyr, dosbarthiadau meistr, trafodaethau panel a gweithdai.
- Mae WAHWN, mewn partneriaeth gyda WAHA (Cynghrair Celfyddydau Dyniaethau Cymru); ICC a CCC yn datblygu prosiect ymchwil yn edrych ar bwy sydd â mynediad at y celfyddydau a’r dyniaethau ar gyfer iechyd a llesiant. Diolch i bawb a gymerodd ran yn y drafodaeth yn GWEHYDDU oedd yn canolbwyntio ar ymchwil a’r arolwg dilynol. Rhagor o newyddion i ddilyn …
- Bydd cyfarfod rhwydwaith mis Ebrill yn dathlu deiliaid bwrsariaeth ‘Mynd i Weld’ WAHWN .
- Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer cwrs MA Celfyddydau Iechyd a Llesiant Prifysgol De Cymru.
Ymlaen!
Angela
