Blog y Cyfarwyddwr - Mis Chwefror 2026
25/02/2026 | Author: Angela Rogers
Wrth i ni baratoi ar gyfer blwyddyn brysur, dyma grynodeb o weithgaredd diweddar a chyfleoedd sydd ar y gweill.
Annwyl Aelodau,
Bu mis Chwefror yn fis o gysylltu ac ysbrydoliaeth, gyda 89 yn cofrestru ar gyfer cyfarfod rhwydwaith mis Chwefror; y cwrs DPP gydag ymarferwyr creadigol Conwy; cyfarfod olaf y Grŵp Trawsbleidiol ar y Celfyddydau ac Iechyd yn y tymor hwn o’r Senedd; diwrnod cwrdd i ffwrdd i Ymddiriedolwyr WAHWN a chynllunio digwyddiadau Cynefin a gyllidir gan AHRC. Wrth i ni baratoi ar gyfer blwyddyn brysur, dyma grynodeb o weithgaredd diweddar a chyfleoedd sydd ar y gweill.
Denodd cyfarfod rhwydwaith mis Chwefror y nifer mwyaf o bobl erioed i glywed pedwar cyflwyniad gwych ar anghydraddoldebau iechyd yn rhychwantu ymchwil ac ymarfer gan gynnwys Heads Up: Art for Men; Creative Roots’; Dr Daisy Fancourt yn cyflwyno ei llyfr newydd ‘Art Cure’ gan ddisgrifio’r foment bresennol yn y celfyddydau ac iechyd fel “seatbelt moment”, a gweld tebygrwydd rhwng y gydnabyddiaeth bresennol i fuddion iechyd y celfyddydau a symudiadau iechyd cyhoeddus blaenorol – megis rhoi’r gorau i ysmygu a bwyta’n iach – lle llwyddodd tystiolaeth wyddonol yn y pen draw i ysgogi newid eang mewn ymddygiad a pholisi. Siaradodd Dr Kathrin Thomas, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus, am Pen Dwfn Cymru – rhwydwaith o feddygon teulu sy’n gweithio mewn ardaloedd hynod ddifreintiedig, gan rannu’r pwysau a’r heriau mae cleifion a meddygon teulu’n eu hwynebu.
“Llongyfarchiadau ar gyfarfod rhwydwaith gwych heddiw! Cymaint o bobl, a siaradwyr ardderchog – digon o ddeunydd meddwl”. (cynrychiolydd)
Mae’n amlwg fod gennym ni gorff cyfoethog o ymarfer yng Nghymru sydd ag effaith gadarnhaol glir, ond mae cyrraedd mwy o bobl a fyddai’n elwa yn dal i fod yn her. Bydd cyfarfod rhwydwaith mis Mawrth, sy’n cyd-fynd â Diwrnod Cenedlaethol Presgripsiynu Cymdeithasol yn gyfle i edrych ar hyn, a dysgu gan ein rhaglen bartneriaeth ‘Cynefin’ a ffyrdd y gallwch ymgysyllu. Mae’r rhaglen hon yn bwysig i WAHWN ac yn cynnig cyfle unigryw i gyd-gynllunio argymhellion ymarferol, dichonadwy sy’n pwysleisio ein blaenoriaethau cyffredin ynghylch atal, llesiant a phartneriaethau diwylliant/iechyd.
Diweddariad ar Raglen Camu i Mewn
Mae’r alwad am fentoreion Camu i Mewn bellach yn fyw, felly helpwch ni i ledaenu’r newyddion. Mae Camu i Mewn yn targedu ymarferwyr Cymraeg eu hiaith yng ngogledd Cymru, ynghyd â’r rheini sydd â phrofiad byw B/byddar/anabl/niwroamrywiol; mwyafrif byd-eang, anawsterau iechyd meddwl, sy’n awyddus i gamu i mewn i’r celfyddydau ac iechyd. Byddan nhw’n cael eu hyfforddi a’u mentora, yn derbyn bwrsariaeth a chymorth cofleidiol. Drwy’r rhaglen rydyn ni’n cefnogi gweithlu o ymarferwyr celfyddydau ac iechyd mwy cynrychioliadol sy’n adlewyrchu’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.
Uchafbwyntiau Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd WAHWN
Y mis hwn, roedd diwrnod cwrdd i ffwrdd tîm Ymddiriedolwyr WAHWN yng Nghanolfan Gynadledda Cut Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Amwythig yn gyfle i ailgysylltu, myfyrio a meddwl yn strategol am y 3 – 5 mlynedd nesaf, a sut y gallwn ni barhau i gefnogi aelodau’n glir ac yn bwrpasol. Roedd y themâu allweddol a ddaeth i’r amlwg yn cynnwys cryfhau ein llais eiriolaeth a pharhau i fuddsoddi mewn adnoddau i aelodau a chyfleoedd datblygu. Diolch o galon i’r Ymddiriedolwyr am roi diwrnod cyfan ac am eu cefnogaeth, eu creadigrwydd a’u brwdfrydedd.
Myfyrdodau ar DPP CBS Conwy
Rydyn ni’n dod i ddiwedd cwrs DPP nosweithiol dros 5 wythnos cyflwyniad i’r celfyddydau ac iechyd i ymarferwyr yng Nghonwy, a gyllidir gan CBS Conwy. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys rhannu hael rhwng cymheiriaid, dealltwriaeth gynyddol ymhlith y cyfranogwyr ar sut i fynegi’r hyn yw ymarfer da drwy ddefnyddio egwyddorion ansawdd y Fframwaith Ansawdd Iechyd Creadigol a sesiynau rhyngweithiol dan arweiniad Teri Howson-Griffiths, Arweinydd Anghydraddoldebau Iechyd gyda BIPBC sydd wedi rhannu blaenoriaethau a strategaethau iechyd rhanbarthol, y broses gaffael a sut y gall ymarferwyr fanteisio ar gyfleoedd.
Mae’n amlwg bod galw am hyfforddiant sicrwydd ansawdd ac mae WAHWN yn bwriadu datblygu rhagor o gyfleoedd yn 2026 a thu hwnt.
Sesiwn Holi Materion Iechyd
Roedd yn galonogol gweld trafodaeth mor frwd yn Sesiwn Holi Materion Iechyd Comisiwn Bevan, a gadeiriwyd gan Will Hayward ar 12 Chwefror. Roedd cynrychiolwyr o Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Werdd a Llafur i gyd yn cymryd rhan, ond nid oedd y Ceidwadwyr na Reform UK yn bresennol.
Ar draws y panel, roedd cydnabyddiaeth glir o bwysigrwydd atal, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a dulliau dan arweiniad y gymuned – y cyfan yn cyd-fynd yn gryf â maniffesto WAHWN, yn ogystal â blaenoriaethau a osodwyd gan Gonffederasiwn GIG Cymru a Chomisiwn Bevan. Fodd bynnag, er bod atal yn cael ei grybwyll yn aml, doedd dim un o’r pleidiau’n manylu ar sut y bydden nhw’n rhoi hyn ar waith. Mae WAHWN nawr yn datblygu set o adnoddau eiriolaeth i helpu aelodau i ymgysylltu ag ymgeiswyr etholiad lleol ar y materion hyn. Bydd rhagor yn dilyn ar hyn yn fuan.
Fforwm Diwylliant
Yr wythnos hon bydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru’n cadeirio Fforwm Diwylliant cyntaf 2026 – cynulliad ar-lein â’r nod o ddwyn y sector diwylliant a phawb sydd â diddordeb mewn datblygu llesiant diwylliannol yng Nghymru ynghyd. Bydd Dr Tracy Breathnach yn arwain trafodaeth banel yn canolbwyntio ar weithwyr llawrydd.
Cyfleoedd
Mae nifer o gyfleoedd newydd y mis hwn, gan gynnwys Cydlynydd Sesiynau i Gorws Forget-Me-Not; Arweinydd Cyflenwi Anghydraddoldebau Iechyd BIPBC (cyfnod mamolaeth). Cofiwch gadw golwg reolaidd ar yr adran cyfleoedd am gynnwys newydd sy’n cael ei ddiweddaru bob wythnos.
Mae mis Chwefror wedi rhoi digon i ni adeiladu arno – ac mae mis Mawrth yn addo mwy fyth o gyfleoedd i gydweithio, dylanwadu a dysgu oddi wrth ein gilydd
Ymlaen
