Blog y Cyfarwyddwr - Mis Ionawr 2026
29/01/2026 | Author: Angela Rogers
Blwyddyn newydd dda i bawb! Gobeithio i chi gael cyfle i orffwyso ac ymlacio dros gyfnod yr ŵyl.
Blwyddyn newydd dda i bawb! Gobeithio i chi gael cyfle i orffwyso ac ymlacio dros gyfnod yr ŵyl.
Bydd 2026 yn flwyddyn allweddol i’r celfyddydau, iechyd a llesiant yng Nghymru. Mae etholiad ar y gorwel, mae sgyrsiau polisi’n newid, ac mae’r sector yn ymdrin â heriau dwys. Ar yr un pryd, mae yna fomentwm, creadigrwydd ac arweinyddiaeth wirioneddol yn dod i’r amlwg ledled y rhwydwaith. Dyma grynodeb o’r hyn sy’n llywio fy meddwl y mis hwn.
Newyddion y Sector
Y Celfyddydau’n Sicrhau £588m o fuddion iechyd i Gymru
Y newyddion mawr y mis hwn yw lansio darn pwysig o ymchwil sy’n Asesu Effaith Economaidd y Celfyddydau ar Iechyd a Gwasanaethau Gofal Iechyd yng Nghymru.
Comisiynwyd yr adroddiad gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac mae’n tynnu sylw at werth economaidd ymgysylltu â’r celfyddydau yng Nghymru. Dan arweiniad economegwyr iechyd ym Mhrifysgol Bangor, dyma’r astudiaeth gyntaf ar draws Cymru gyfan o effaith y celfyddydau ar iechyd, llesiant a’r galw ar y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol sy’n datgelu amcangyfrif o £588m y flwyddyn mewn buddion iechyd a chynhyrchiant ar draws Cymru. Mae hefyd yn canfod bod buddsoddiad CCC yn ei sefydliadau cyllid aml flwyddyn (gan gynnwys WAHWN) yn cyflwyno £11.08 mewn buddion iechyd, llesiant a chynhyrchiant am bob £1 a gaiff ei fuddsoddi. Mae’r adroddiad, gan y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau, yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn 2024 gan Frontier Economics ac UCL yn y maes, drwy gymhwyso modelau cadarn Frontier i ddata am boblogaeth Cymru a chyfranogi yn y celfyddydau. Gallwch ddarllen yr adroddiad: mae crynodeb yma a’r adroddiad llawn yma.
Dywedodd Prif Weithredwr CCC Dafydd Rhys:
"Mae’r celfyddydau’n cyflwyno gwir fuddion pendant i bobl a chymunedau ac nawr mae gennym ni dystiolaeth annibynnol, gadarn i brofi hynny."
Lansiwyd yr adroddiad yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau mewn dosbarth Dawnsio at Iechyd gydag Amy Dowden o Strictly a’r hwylusydd Dawnsio at Iechyd Emma Jenkins.

Comisiwn Bevan: Health Matters Question Time
Dwi wrth fy modd i fod wedi cael un o’r llefydd prin ar banel trawsbleidiol Comisiwn Bevan Materion Iechyd: Eich Cwestiynau ddydd Iau 12 Chwefror, a gadeirir gan Will Hayward. Mae hwn yn rhan o gyfle cenedlaethol i bobl yng Nghymru rannu eu blaenoriaethau gyda llefarwyr y pleidiau gwleidyddol dros iechyd a gofal cyn etholiadau’r Senedd yn 2026. Mewn datganiad yr wythnos hon mae’r Farwnes Ilora Finlay, Cadeirydd Comisiwn Bevan, yn ein hatgoffa:
“Mae hwn yn foment allweddol i Gymru – cyfle i symud o atebion tymor byr i ddatrysiadau tymor hir sydd wir yn helpu i wella bywydau pobl”.
Fforwm Diwylliant Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Bil Diwylliant arfaethedig Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn dechrau ar y cam ymgysylltu drwy fis Chwefror a Mawrth. Dyma ffenest hanfodol i gymuned y celfyddydau ac iechyd ddylanwadu ar sut y caiff diwylliant ei ddefnyddio i ysgogi llesiant ac atal. Gallwch gofrestru ar gyfer y Fforwm Diwylliant cyntaf yn 2026 a gynhelir ar 25 Chwefror - cyfle i ddod â’r sector diwylliant a phobl sydd â diddordeb mewn cyflawni llesiant diwylliannol yng Nghymru at ei gilydd.
Cyflwr y Sector – Arolwg y DU ac Iwerddon
Mae canfyddiadau cyntaf arolwg Cyflwr y Sector yn cyflwyno darlun llwm - mae tirwedd wleidyddol a chyllido dlawd a bregus yn bygwth cynaladwyedd y sector ar draws y DU ac Iwerddon. Mae gweld effaith ymatebion ynghylch gelyniaeth gynyddol, mudiadau asgell dde eithafol a hiliaeth ar gymunedau a chyfranogwyr yn peri gofid.
Rydyn ni’n gweithio gyda’n partneriaid i ddeall y canfyddiadau a’r goblygiadau a byddwn yn rhannu dadansoddiad mwy manwl o’r arolwg a sut y gallwn ni ymateb dros y misoedd nesaf.
Sefydliad Baring– OBEs a Men Missing Out
Rydyn ni’n parhau i werthfawrogi ein partneriaeth gyda Sefydliad Baring, ac yn estyn llongyfarchiadau gwresog i David Cutler, y Cyfarwyddwr a David Sampson, y Dirprwy Gyfarwyddwr a gafodd eu cydnabod yn y Rhestr Anrhydeddau eleni am eu gwasanaeth i elusen a’u gwasanaeth i gydraddoldeb LHDT+ yn y DU a thramor.
Rhag ofn nad ydych chi wedi’i weld, mae adnodd diweddaraf Sefydliad Baring - Missing Out: Creative Ageing and Men - yn trafod pam fod nifer cymharol isel o ddynion hŷn yn manteisio ar gyfleoedd creadigol yn hwyrach yn eu bywyd. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at 10 prosiect ledled y DU, gan gynnwys Re-Live yng Nghymru, ond mae hefyd yn alwad i weithredu i sicrhau mwy o ymyriadau wedi’u targedu a’u hanelu at ddynion.
Efallai yr hoffech chi hefyd ymuno â’r cyfarfod rhwydwaith Heneiddio Creadigol ar 5 Chwefror, i gysylltu ag ymarferwyr heneiddio creadigol o bob rhan o Gymru.
Newyddion WAHWN
Camu i Mewn – Penodi Rheolwr Rhaglen
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Rebecca Hardy-Griffith wedi’i phenodi’n Rheolwr Rhaglen llawrydd ar gyfer Camu i Mewn, ein rhaglen amrywiaeth yn y gweithlu a gyllidir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Edrychwn ymlaen at weithio gyda hi i recriwtio a chefnogi carfan newydd o ymarferwyr heb gynrychiolaeth ddigonol ledled gogledd Cymru drwy hyfforddiant, dysgu ar sail profiad, cymorth cymheiriaid a gofal cofleidiol. Rhagor o newyddion i ddilyn. Dywed Rebecca:
“Dwi’n falch i fod yn gweithio yn y sector hwn eto, a chael gweld yr effaith ymarferol mae’r prosiectau hyn yn ei gael ar fywydau pobl, gan atgyfnerthu gwerth y celfyddydau a diwylliant fel cyfrannwr hanfodol i iechyd a llesiant. Dwi’n arbennig o awyddus i gydweithio unwaith eto gyda’r holl bartneriaid, a gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu’r sector i artistiaid / ymarferwyr creadigol Cymraeg eu hiaith, a’r rheini sydd â nodweddion gwarchodedig.”
Cynefin – Rhwydwaith Polisi CoLab AHRC
Mae WAHWN yn falch iawn i gyhoeddi ein bod ni’n bartner mewn menter bwysig newydd a gefnogir gan Wobrau Rhwydwaith Polisi Co-Lab 2026 Creative Communities AHRC. Gan weithio mewn partneriaeth gyda chydweithwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Swyddfa Cenedlaethau’r Dyfodol, byddwn yn canolbwyntio ar waith ymchwil a datblygu ar “Sut gallai gosod y celfyddydau a diwylliant yn wasanaeth cyhoeddus rheng flaen yng Nghymru arwain at newid sylweddol mewn iechyd cyhoeddus a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru?”.
Drwy’r gwaith, byddwn yn creu cyfleoedd i ddatgloi potensial llawn y celfyddydau a diwylliant ar gyfer iechyd a llesiant yng Nghymru gyda a thrwy’r sector iechyd a gofal, gan greu argymhellion polisi y gellid eu rhoi ar waith i alluogi gwireddu potensial llawn y sector yng Nghymru. Mwy i ddilyn.
Blog Gwadd WAHWN – CGGC
Yn dilyn cyfarfod diweddar i drafod cyfleoedd ar gyfer cydweithio gyda Johanna Davies, Pennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol CGGC, roedd yn bleser gen i ysgrifennu blog gwadd i CGGC y mis hwn. Mae potensial enfawr ar gyfer rhannu dysgu a phartneriaeth rhwng aelodau WAHWN a CGGC, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i ffyrdd i wreiddio creadigrwydd mewn systemau iechyd a gofal.
DPP WAHWN i Ymarferwyr yn Ardal Conwy
Mae CBS Conwy wedi comisiynu WAHWN i gefnogi ymarferwyr llawrydd yng Nghonwy drwy raglen beilot o sesiynau datblygu proffesiynol a gyllidir gan Gyngor Bwrdeistref Sir Conwy. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o amgylcheddau gofal iechyd, dulliau ac agweddau ymarferol a chyd-destun polisi’r celfyddydau, iechyd a llesiant yng Nghymru.
Mae cynyddu mynediad at gyfleoedd hyfforddiant ac ymgynghori yn flaenoriaeth allweddol i WAHWN, ac rydyn ni’n croesawu trafodaethau gydag awdurdodau lleol a sefydliadau sydd â diddordeb mewn datblygu a chyflwyno sesiynau yn y dyfodol.
Darllen Ysbrydoledig ar gyfer 2026
- “2000 Years of Prevention is Better Than Cure” – Public Healthy
- “Art Could Save Your Life! Five creative ways to make 2026 happier, healthier and more hopeful” – The Guardian
- Start the Week: The arts and health - BBC Sounds
- Astudiaeth Achos y Chinese Autism Society
- Astudiaeth Achos Sparky Samba
- Astudiaeth Achos The Body Hotel Self-Care Suite
Mae’r holl adnoddau hyn yn atgyfnerthu’r hyn mae llawer ohonon ni’n ei wybod – bod creadigrwydd yn datgloi cysylltiad, yn cynnal llesiant ac yn creu amgylchiadau ar gyfer Cymru fwy iach.
Gobeithio y gallwch chi ymuno â ni yng nghyfarfod rhwydwaith mis Chwefror ar 19 Chwefror, lle byddwn ni’n cael cwmni Dr Kathrin Thomas, PEN DWFN CYMRU - grŵp o feddygfeydd teulu o bob rhan o Gymru sy’n gweithio mewn ardaloedd difreintiedig ac sy’n ymrwymo i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd – a Gwella – i drafod prosiect ‘Heads Up’ gyda dynion sy’n dioddef effeithiau colli eu gwaith yng Ngwaith Dur Tata Port Talbot, mewn partneriaeth ag Adferiad.
Er gwaethaf y pwysau sy’n wynebu’r sector, mae’r mis hwn wedi fy atgoffa o’r creadigrwydd, yr ymrwymiad a’r arloesi eithriadol ledled Cymru. Gydag etholiadau o’n blaen, ymchwil newydd wedi’i gyhoeddi a sgyrsiau cenedlaethol yn cynyddu o gylch diwylliant, atal a llesiant, mae 2026 yn cynnig cyfle go iawn i ddylanwadu ar newid.
Ymlaen!
