Director's Blog - November 2025 | Blog y Cyfarwyddwr - Mis Tachwedd 2025
27/11/2025 | Author: Angela Rogers
It’s been a year of connection and advocacy - laying strong foundations for an even louder voice in 2026.
Dear WAHWN Member,
As 2025 draws to a close, I’ve been reflecting on the conversations and collaborations that have shaped our arts, health and wellbeing community this year. It’s been a year of connection and advocacy - laying strong foundations for an even louder voice in 2026.
I’m delighted to share that our Stepping In application to ACW Arts Health & Wellbeing Lottery fund has been successful. In partnership with Fran Wen, Pontio, Theatr Cymru, BCUHB and Denbighshire Leisure Ltd, the programme will enable us to nurture a new cohort of creative health practitioners in North Wales championing diversity, lived experience and Welsh first language speaking practitioners.
Highlights from 2025 include:
- Significant growth in WAHWN membership – 16% increase
- Four new WAHWN Trustees
- 423 engagements in WAHWN online meetings
- 320 attendees at our national Weave conference
- Publication of the WAHWN Manifesto
- 14 Go and See bursaries awarded
- Cynnig Cymraeg/Welsh Offer accreditation achieved
- How Ya Doing? evaluation published
- Joint UK & Ireland State of the Sector survey
- WAHWN creative prompt for the final January Challenge
Alongside these achievements, we seized key advocacy opportunities - contributing to the Culture Bill Green Paper consultation, building connections at Public Health Wales and Welsh NHS Confederation conferences, joining a Plaid Cymru conference fringe event panel, hosting an open space discussion at the WE (Cymru) Festival of Ideas, and contributing to three Cross Party Group on Arts and Health meetings.
I’m especially pleased to have connected with the Deep End Network Cymru, a group of GP surgeries in Wales’ most deprived areas. They’ve commissioned Thania Acaron, The Body Hotel to lead a wellbeing movement session at their December roundtable. This partnership reflects our shared commitment to tackling health inequalities and supporting GP wellbeing. It also aligns with WAHWN Trustee Dr Catherine Jenkins’ recent paper for RCGP’s InnovAiT journal, co-authored with Kathryn Lambert and Dr Will Mackintosh, which highlights how arts and health can strengthen person-centred care, address complexity, and foster community - particularly in deprived areas.
Building on our open space discussion at WE Cymru, I’ll be a guest on the 4theRegion podcast later this month. We’re also exploring collaboration with WCVA’s Health and Care Project, which aims to better connect the voluntary sector with health and care systems. I’ll kick this off with a guest blog for their January newsletter. WCVA’s recently published Manifesto calls for a Voluntary Sector Partnership (Wales) Act - a bold step to unlock fairer funding, embed collaboration, and empower the sector.
Looking ahead to 2026
With Senedd elections on the horizon, it’s vital we keep building momentum. At our November network meeting, Sarah Morse from Senedd Research shared practical ways to engage with the Senedd and reinforced the power of lived experience stories to influence hearts and minds. She encouraged us all to write to our Senedd Members and align priorities with Committee debates. Also at this meeting, Professor Emily Underwood-Lee, Chair of WAHA, collated our collective research priorities following the WEAVE consultation. Please take a moment to rank these priorities.
The proposed Culture Bill was in the spotlight during the Senedd’s evidence session with the Future Generations Commissioner on 6 November. WAHWN backs the Commissioner’s call for legislation embedding cultural responsibilities across public bodies - mirroring our own Manifesto.
We look forward to welcoming Sandy Clubb from the Wellbeing of Future Generations Office at our December network meeting to share insights from the Culture Bill consultation, and introducing Rosie Dow, the new Head of Arts, Health & Wellbeing at Arts Council Wales. I hope you can join us.
Resources and Opportunities
Check out our latest resources:
- How You Dey? - Sub Sahara Advisory Panel case study on young people and mental health in Black communities
- Musical Hospitals evaluation
- Latest research from the National Academy for Social Prescribing webinar.
Plus, opportunities including a wellbeing facilitator for Bradford’s Creative Health programme and a songwriter for ParkinSings. WAHWN continues to proudly support Hapus, Public Health Wales’ programme promoting mental wellbeing. PHW is reviewing Hapus and seeking public input via focus groups. Participants (18+) will receive a £30 voucher.
2025 has shown what’s possible when we work together. From influencing policy to supporting artists and improving access, our sector is driving change. But there’s more to do. As we step into 2026, let’s keep the momentum - championing arts and health as a cornerstone of wellbeing in Wales.
Here’s to a new year of collaboration, creativity, and impact.
Wishing all our members a Merry Christmas and a happy, healthy, creative New Year!
Onwards and upwards!
Angela
-
Annwyl Aelod WAHWN,
Wrth i 2025 dynnu tua’i therfyn, dwi wedi bod yn myfyrio ar y sgyrsiau a’r cydweithio sydd wedi ffurfio ein cymuned celfyddydau, iechyd a llesiant eleni. Bu’n flwyddyn o gysylltu ac eiriolaeth – gosod sylfaeni cryf er mwyn cael llais hyd yn oed yn uwch yn 2026.
Dwi wrth fy modd i rannu bod ein cais Camu i Mewn i gronfa Loteri Celfyddydau, Iechyd a Llesiant CCC wedi llwyddo. Mewn partneriaeth gyda Fran Wen, Pontio, Theatr Cymru, BIPBC a Denbighshire Leisure Ltd, bydd y rhaglen yn ein galluogi i feithrin carfan newydd o ymarferwyr iechyd creadigol yn y Gogledd i hyrwyddo amrywiaeth, profiad byw ac ymarferwyr Cymraeg iaith gyntaf.
Ymhlith uchafbwyntiau 2025 mae:
Twf sylweddol yn aelodaeth WAHWN – 16% o gynnydd
Pedwar Ymddiriedolwr newydd i WAHWN
423 cyswllt yng nghyfarfodydd ar-lein WAHWN
320 yn bresennol yng ngynhadledd genedlaethol Gwehyddu
Dyfarnu 14 bwrsariaeth Mynd i Weld
Cyflawni achrediad Cynnig Cymraeg
Cyhoeddi gwerthusiad Sut Mae'n Mynd?
Arolwg Cyflwr y Sector ar y cyd rhwng y DU ac Iwerddon
Awgrym creadigol gan WAHWN ar gyfer yr Her Mis Ionawr olaf
Yn ogystal â’r cyflawniadau hyn, achubwyd ar gyfleoedd allweddol i eiriol – cyfrannu at ymgynghoriad Papur Gwyrdd y Bil Diwylliant, meithrin cysylltiadau yng nghynadleddau Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru, ymuno â phanel mewn digwyddiad ymylol yng nghynhadledd Plaid Cymru, cynnal trafodaeth gofod agored yng Ngŵyl Syniadau WE (Cymru), a chyfrannu at dri chyfarfod o’r Grŵp Trawsbleidiol ar y Celfyddydau ac Iechyd.
Dwi’n arbennig o falch i fod wedi cysylltu â Rhwydwaith Pen Dwfn Cymru, grŵp o feddygfeydd teulu yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae nhw wedi comisiynu Thania Acaron, The Body Hotel i arwain sesiwn symud llesiant yn eu cyfarfod bwrdd crwn ym mis Rhagfyr. Mae’r bartneriaeth hon yn adlewyrchu ein cyd-ymrwymiad i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd a chefnogi llesiant meddygon teulu. Mae hefyd yn cyd-fynd â phapur diweddar Ymddiriedolwr WAHWN Dr Catherine Jenkins ar gyfer cyfnodolyn InnovAiT RCGP a gyd-awdurwyd gyda Kathryn Lambert a Dr Will Mackintosh, sy’n amlygu sut y gall y celfyddydau ac iechyd gryfhau gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ymdrin â chymhlethdod a meithrin cymuned, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig.
Gan adeiladu ar y drafodaeth gofod agored yn WE Cymru, byddaf i’n westai ar bodlediad 4theRegion yn ddiweddarach y mis hwn. Rydyn ni hefyd yn edrych ar gydweithio gyda Phrosiect Iechyd a Gofal WCVA, â’r nod o gysylltu’r sector gwirfoddol yn well â systemau iechyd a gofal. Byddaf i’n dechrau hwn gyda blog gwadd yn eu cylchlythyr ym mis Ionawr. Mae Maniffesto WCVA a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn galw am Ddeddf Partneriaeth Sector Gwirfoddol (Cymru) – cam beiddgar i ryddhau cyllid tecach, ymwreiddio cydweithio, a grymuso’r sector.
Edrych ymlaen at 2026
Gydag etholiadau’r Senedd ar y gorwel, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i adeiladu momentwm. Yng nghyfarfod rhwydwaith mis Tachwedd, rhannodd Sarah Morse o Ymchwil y Senedd ffyrdd ymarferol o ymgysylltu â’r Senedd gan atgyfnerthu grym straeon profiad byw i ddylanwadu ar galonnau a meddyliau. Anogodd ni i gyd i ysgrifennu at ein Aelodau o’r Senedd a chydweddu blaenoriaethau gyda thrafodaethau Pwyllgor. Hefyd yn y cyfarfod hwn, casglodd yr Athro Emily Underwood-Lee, Cadeirydd WAHA, ein blaenoriaethau ymchwil cyfunol yn dilyn ymgynghoriad GWEHYDDU. Rhowch funud neu ddau i osod y blaenoriaethau hyn yn eu trefn.
Cafodd y Bil Diwylliant arfaethedig sylw yn ystod sesiwn dystiolaeth y Senedd gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar 6 Tachwedd. Mae WAHWN yn cefnogi galwad y Comisiynydd am ddeddfwriaeth yn ymwreiddio cyfrifoldebau diwylliannol ar draws cyrff cyhoeddus – gan adlewyrchu ein Maniffesto ninnau.
Edrychwn ymlaen at groesawu Sandy Clubb o Swyddfa Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yng nghyfarfod rhwydwaith mis Rhagfyr i rannu’r hyn a ddysgwyd o ymgynghoriad y Bil Diwylliant, a chyflwyno Rosie Dow, Pennaeth newydd y Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cyngor Celfyddydau Cymru. Gobeithio y gallwch chi ymuno â ni.
Adnoddau a Chyfleoedd
Dyma’r adnoddau diweddaraf:
- How You Dey? - Astudiaeth Achos Panel Ymgynghorol Is-Sahara ar bobl ifanc ac iechyd meddwl mewn cymunedau Du
- Gwerthusiad Ysbytai Cerddorol
- Ymchwil diweddaraf o weminar yr Academi Presgripsiynu Cymdeithasol Genedlaethol.
Hefyd, cyfleoedd gan gynnwys hwylusydd llesiant ar gyfer rhaglen Iechyd Creadigol Bradford ac awdur caneuon ar gyfer Parkinsings. Mae WAHWN yn falch i barhau i gefnogi Hapus, rhaglen Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n hyrwyddo llesiant meddyliol. Mae ICC yn adolygu Hapus ac yn ceisio mewnbwn gan y cyhoedd drwy grwpiau ffocws. Bydd cyfranogwyr (18+) yn derbyn taleb o £30.
Mae 2025 wedi dangos yr hyn sy’n bosibl pan fyddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd. O ddylanwadu ar bolisi i gefnogi artistiaid a gwella mynediad, mae’r sector yn ysgogi newid. Ond mae mwy ar ôl i’w wneud. Wrth i ni gamu i 2026, gadewch i ni gadw’r momentwm – hyrwyddo’r celfyddydau ac iechyd fel conglfaen llesiant yng Nghymru
Edrychwn ymlaen at flwyddyn newydd o gydweithio, creadigrwydd ac effaith Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd hapus, iach a chreadigol i’r holl aelodau!
Ymlaen!
Angela
