Director's Blog - March 2025 | Blog y Cyfarwyddwr - Mis Mawrth 2025

24/03/2025

 "I'm thrilled to be joining WAHWN at this exciting time in the organisation's growth as a real force for positive change in Wales" - Tom Ware

Dear Members,

 

I hope you’ve managed to get out and enjoy some of the gorgeous sunny weather we’ve had recently.

 

I've enjoyed getting out and about this month connecting with colleagues, including the Hywel Dda UHB Arts Boost Lab stakeholders' event at the Living Well Centre where artists, health board researchers and SCAHMS teams explored the future potential of this creative approach to supporting young peoples’ mental health. In the beautiful setting of the National Botanic Gardens of Wales, the Most Significant Change (MSC) knowledge exchange and networking event organised by Nick Andrews, Swansea University brought over 50 arts, health and third sector professionals to reflect on how MSC is being used to gather stories of change and transformation, learn from those narratives, and explore its wider potential. Inspired by the setting, gardening metaphors were abundant throughout the day, through inspirational examples of gathering and flourishing from People Speak Up’s Creative Home Delivery Service, sowing seeds and growing through ABUHB’s Neuro-Stute Recovery College and Together For Change advocating for the gathering and harvesting of multi-agency approaches and the need for an MSC community of interest and more ‘story gatherer’ training.

Last month we announced our 3 new Trustees, and I’m delighted to share now that Tom Ware will also join our Board of Trustees in April. With over 30 years of working in film and TV in the UK, Tom is now a creative consultant, Executive Producer and Honorary Fellow at the University of South Wales. 

 "I'm thrilled to be joining WAHWN at this exciting time in the organisation's growth as a real force for positive change in Wales"

It’s also been a month of learning, taking advantage of some fantastic free fundraising training from Richard Newton Consulting supported by Welsh Government Event Wales Sector Support Fund as well as Arts & Business Cymru Sponsorship Success. Do check out the highly recommended Facebook Fundraising Chat group, where funding experts generously share knowledge and expertise.

We are incredibly grateful to Arts Council Wales Arts Health & Wellbeing Lottery funding for Weave 2025, and confirmation that Sarah Murphy, MS Minister for Mental Health & Wellbeing will be joining us as a keynote speaker. On 8th and 9th September we look forward to bringing up to 150 delegates to Wrexham University to connect, inspire and influence. Tickets will go on sale from mid April.

Team WAHWN has also been successful in securing International Opportunities Funding from Wales Arts International for ‘Neighbours/Cwmdogion’ - a collaboration with Realta and attendance at their Check Up Check In conference in Ireland,  where we look forward to building new connections.  The funding also supports a small number of bursary places for creative ageing focused Wales-based practitioners to collaborate with practitioners in Ireland. Throughout May Age Cymru’s Gwanwyn festival celebrates creativity with and for older people in Wales. To find out more about how to get involved join the mailing list by emailing gwanwyn@agecymru.org.uk. Gwanwyn continues to challenge stereotypes of ageing and older people and throughout May it highlights activities, events, artists and groups that represent the diversity of experience of older people throughout Wales. You can register your interest here.

It was great to hear about research and practice from across Wales at our March network meeting on National Social Prescribing Day, including Fran Wen’s brand new creative referral programme -  Wellbeing Studio - supporting young people with anxiety, and loneliness,  and an update on Hywel Dda’s creative prescribing programme. Kathryn Lambert and Rhian Rees, Public Health Consultant, also presented their creative prescribing initiative at the recent National Centre for Creative Health's Creativity and Social Prescribing webinar, alongside Dr Simon Opher, Chair of the All Party Parliamentary Group on Arts and Health who talked about ‘cure to prevention’ and ‘hospital to community’ using an artist in residence programme at his GP surgery where painters, poets, dancers and potters based at the surgery are helping to reduce GP appointments.

We look forward to welcoming Sally Thelwell from Velindre NHS Trust and Thania Acaron from The Body Hotel to our April network meeting where we will focus on arts and cancer care. We hope you can join us, for what will be our Programme Manager, Tracy Breathnach’s last network meeting. 

In other news, we welcome Derek Walker, Wellbeing Future Generations Commissioner’s call for a Culture Bill to help prevent the unavoidable postcode Lottery access to culture and the arts. The proposed Bill would aim to make culture a statutory requirement for public bodies, ensuring that cultural wellbeing is given the priority and resources it deserves.   This would help address inequalities and ensure that everyone in Wales can participate in and benefit from cultural activities, regardless of where they are based. 17th March 2025 marked the 10th anniversary of the Wellbeing of Future Generations Act. The commissioner is organising a Future Generations Action Summit on April 29, to work with public bodies and others to create more action around the Well-being of Future Generations Act. It is fantastic to see an “understanding of the importance of arts in the role of health is growing, from Arts Council of Wales and NHS Confederation’s partnership, upskilling of NHS staff in arts within a health setting, to more social prescribing” highlighted in their press release this week.

And finally, for any of our members involved in creative nature work we invite you complete the Welsh Government Nature Workforce in Wales survey to help Nature Service Wales better understand who is contributing to nature recovery. If you contribute in any way to helping restore nature, directly or indirectly, responding to the survey can help shape this vital agenda – every response counts!   

 

Onwards and Upwards

Angela

 

-

 

Annwyl Aelodau,

 

Gobeithio eich bod wedi gallu mynd allan i fwynhau’r tywydd heulog hyfryd rydyn ni wedi’i gael yn ddiweddar.

 

Dwi wedi mwynhau teithio o fan i fan y mis hwn yn cysylltu gyda chydweithwyr, gan gynnwys digwyddiad i randdeiliaid Lab Hwb Celfyddydol BIP Hywel Dda yn y Ganolfan Byw'n Dda lle bu artistiaid, ymchwilwyr y bwrdd iechyd a thimau SCAHMS yn trafod potensial y dull creadigol hwn o gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc yn y dyfodol. Yn amgylchedd hyfryd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, daeth y digwyddiad cyfnewid gwybodaeth a rhwydweithio Newid Mwyaf Sylweddol (NMS) a drefnwyd gan Nick Andrews o Brifysgol Abertawe â thros 50 o weithwyr proffesiynol yn y celfyddydau, iechyd a’r trydydd sector at ei gilydd i fyfyrio ar sut mae NMS yn cael ei ddefnyddio i gasglu straeon o newid a thrawsnewid, dysgu o’r naratifau hynny ac ystyried ei botensial ehangach. Gyda’r lleoliad yn ysbrydoliaeth, cafwyd defnydd helaeth o drosiadau garddio drwy’r dydd, drwy enghreifftiau ysbrydoledig o gasglu a blodeuo gan Wasanaeth Creadigol yn y Cartref People Speak Up, hau hadau a thyfu drwy BIPAB Coleg Adfer Neuro-StuteGyda'n Gilydd dros Newid yn galw am gasglu a chynaeafu dulliau aml-asiantaethol a’r angen am gymuned diddordeb NMS a mwy o hyfforddiant i ‘gasglwyr straeon’.

Y mis diwethaf cyhoeddwyd enwau ein tri Ymddiriedolwr newydd a dwi wrth fy modd yn rhannu nawr y bydd Tom Ware hefyd yn ymuno â’r Bwrdd Ymddiriedolwyr ym mis Ebrill. Gyda thros 30 mlynedd o weithio mewn ffilm a theledu yn y DU, mae Tom bellach yn ymgynghorydd creadigol, Cynhyrchydd Gweithredol a Chymrawd Er Anrhydedd Prifysgol De Cymru.

"Dwi wrth fy modd i fod yn ymuno â WAHWN yn y cyfnod cyffrous hwn yn nhwf y sefydliad fel grym go iawn ar gyfer newid cadarnhaol yng Nghymru"

Mae hefyd wedi bod yn fis o ddysgu, gan fanteisio ar hyfforddiant codi arian gwych am ddim gan Richard Newton Consulting gyda chefnogaeth Cronfa Cymorth Sector Digwyddiadau Cymru Llywodraeth Cymru yn ogystal â Llwyddiant Nawdd Celfyddydau a Busnes Cymru. Ewch i gael golwg ar y platfform Fundraising Chat ar Facebook sy’n cael ei ganmol yn helaeth, lle mae arbenigwyr cyllid yn rhannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd yn hael.

Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar i dderbyn cyllid Loteri Celfyddydau Iechyd a Lles Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer Gwehyddu, ynghyd â chadarnhad y bydd Sarah Murphy AS, y Gweinidog dros Iechyd Meddwl a Llesiant yn ymuno â ni’n brif siaradwr. Ar 8 a 9 Medi edrychwn ymlaen at ddod â hyd at 150 o gynrychiolwyr i Brifysgol Wrecsam i gysylltu, ysbrydoli a dylanwadu. Bydd y tocynnau ar werth ganol mis Ebrill.

Mae Tîm WAHWN hefyd wedi llwyddo i sicrhau Cyllid Cyfleoedd Rhyngwladol gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ar gyfer ‘Cymdogion’ mewn cydweithrediad â Realta a mynd i’w cynhadledd Check Up Check In yn Iwerddon, lle’r ydyn ni’n edrych ymlaen at feithrin cysylltiadau newydd. Mae’r cyllid hefyd yn cefnogi nifer o fwrsariaethau i ymarferwyr heneiddio creadigol o Gymru allu cydweithio gydag ymarferwyr yn Iwerddon. Drwy gydol mis Mai bydd gŵyl Gwanwyn Age Cymru yn dathlu creadigrwydd gyda, ac ar ran pobl hŷn yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan ymunwch â’r rhestr bostio drwy ebostio gwanwyn@agecymru.org.uk . Mae gŵyl y Gwanwyn yn parhau i herio ystrydebau ynghylch heneiddio a phobl hŷn a thrwy gydol mis Mai bydd yn tynnu sylw at weithgareddau, artistiaid a grwpiau sy’n cynrychioli amrywiaeth profiadau pobl hŷn ledled Cymru. Gallwch gofrestru eich diddordeb yma.

Roedd yn wych cael clywed am ymchwil ac ymarfer ledled Cymru yng nghyfarfod rhwydwaith mis Mawrth ar Ddiwrnod Cenedlaethol Presgripsiynu Cymdeithasol, gan gynnwys rhaglen atgyfeirio creadigol newydd sbon Fran Wen -  Stiwdio Lles – sy’n cefnogi pobl ifanc â gorbryder ac unigrwydd, a diweddariad ar raglen presgripsiynu creadigol Hywel Dda.  Bu Kathryn Lambert a Rhian Rees, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, hefyd yn cyflwyno eu menter presgripsiynu creadigol mewn gweminar diweddar gan NCCH ar Greadigrwydd a Phresgripsiynu Cymdeithasol ochr yn ochr â Dr Simon Opher, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar y Celfyddydau ac Iechyd a fu’n siarad am ‘o iachau i atal’ ac ‘o’r ysbyty i’r gymuned’ gan ddefnyddio rhaglen artist preswyl yn ei feddygfa lle mae peintwyr, dawnswyr, beirdd a chrochenwyr yn y feddygfa’n helpu i leihau’r nifer o apwyntiadau meddygon teulu.

Edrychwn ymlaen at groesawu Sally Thelwell o Ymddiriedolaeth GIG Felindre a Thania Acaron i gyfarfod rhwydwaith mis Ebrill lle byddwn yn canolbwyntio ar y celfyddydau a gofal canser. Gobeithio y byddwch yn gallu ymuno â ni, yn enwedig gan mai dyma fydd cyfarfod rhwydwaith olaf ein Rheolwr Rhaglenni, Tracy Breathnach. 

Mewn newyddion arall, rydyn ni’n croesawu galwad Derek Walker, Comisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, am Ddeddf Diwylliant i helpu i atal y loteri cod post anochel o ran mynediad at ddiwylliant a’r celfyddydau. Nod y Ddeddf arfaethedig fyddai gwneud diwylliant yn ofyniad statudol i gyrff cyhoeddus, gan sicrhau bod llesiant diwylliannol yn cael blaenoriaeth ynghyd â’r adnoddau mae’n eu haeddu. Byddai hyn yn helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac yn sicrhau bod pawb yng Nghymru’n gallu cymryd rhan a chael budd o weithgareddau diwylliannol, ble bynnag maen nhw’n byw. Roedd 17 Mawrth 2025 yn ddengmlwyddiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r Comisiynydd yn trefnu Uwchgynhadledd Gweithredu Cenedlaethau’r Dyfodol ar 29 Ebrill, i weithio gyda chyrff cyhoeddus ac eraill i greu mwy o weithredu o gylch Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  Mae’n wych gweld “dealltwriaeth o bwysigrwydd y celfyddydau yn rôl iechyd yn tyfu, o bartneriaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Chonffederasiwn y GIG, uwchsgilio staff y GIG yn y celfyddydau o fewn lleoliad iechyd, i fwy o bresgripsiynu cymdeithasol” yn cael sylw yn eu datganiad i’r wasg yr wythnos hon.

Ac yn olaf, i unrhyw rai o’n haelodau sy’n ymwneud â gwaith natur creadigol rydyn ni’n eich gwahodd i gwblhau Arolwg Llywodraeth Cymru o’r Gweithlu Natur yng Nghymru i helpu Gwasanaeth Natur Cymru i ddeall yn well pwy sy’n cyfrannu at adferiad natur. Os ydych chi’n cyfrannu mewn unrhyw ffordd at helpu i adfer natur, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, gallai ymateb i’r arolwg helpu i lunio’r agenda hanfodol hwn – mae pob ymateb yn cyfrif!

 

Ymlaen!

Angela

Previous Article

Director's Blog - March 2025 | Blog y Cyfarwyddwr - Mis Mawrth 2025
Menu
Search