Director's Blog - November 2024 | Blog y Cyfarwyddwr - Mis Tachwedd 2024
21/11/2024
Welcome to another round-up from the sector following another busy month for team WAHWN.
Dear members
Welcome to another round-up from the sector following another busy month for team WAHWN. We’ve been hosting national and international networking events, representing the sector at the Welsh NHS Confederation conference and the Wellbeing Economy Festival of Ideas, which has opened a whole host of potential new partnerships and collaborations for WAHWN and our members.
The last couple of years have been transformational for WAHWN - securing multi-year funding from ACW; gaining charity status in August; on track to securing our Cynnig Cymraeg/Welsh Offer recognition and in touching distance of reaching 1,000 members – an increase of over 100% in the last 3 years.
As we grow and scale our support for the sector, we are now looking for new Trustee Directors to join us on our journey – individuals who bring enthusiasm, imagination and commitment to a role which will help us widen the range of skills, knowledge and perspectives within our board. Our current workforce and leadership does not reflect the diversity of lived experiences of the communities we serve, so we are encouraging applications from people whose heritage, identity or voice are not commonly represented in the arts, health and culture sectors. The deadline for applying is 15th January 2025.
This month we were delighted to be involved in the inaugural Wellbeing Economy Festival of Ideas event at Swansea Arena, bringing together over 600 businesses, public bodies, arts and third sector organisations to discuss Wales’ progress in developing the wellbeing economy, now listed as one of the five pillars in the Future Generations Commissioners’ Cymru CAN strategy. A wellbeing economy sees us shifting from an economy that focuses exclusively on growth and GDP, to an economy that works for everyone, in which wellbeing is at the centre. We were inspired to hear Kate Raworth’s model of the ‘Doughnut Economy’ which emphasises how we must work to ensure we look after the most vulnerable people in our communities, whilst remaining within ecological limits.
Also, this month, we attended the sold-out Welsh NHS Confederation ‘Ambition for a Healthier Nation’ conference at Cardiff City Stadium, where, from our joint exhibition stand with ACW, we highlighted the impact the arts have on health and wellbeing. Keynote speaker, Sabrina Hatton-Cohen, Chief Fire Officer, author and neuroscientist, shared her inspirational take on the value of being different, highlighting how embracing what sets you apart can become your greatest strength. She reframed challenges as opportunities and demonstrated how some of life’s most difficult moments can lead to extraordinary growth and success. It was great to hear from Jeremy Miles, the new Cabinet Secretary for Health and Social Care. The key message we took from the conference was the urgent need to ringfence funding for prevention and we hope that when the Welsh Government announce budgets on 10th December, this will be reflected. We know that the arts have a key role to play in the prevention arena, and over the past two decades, there has been a major increase in research into the effects of the arts on health and wellbeing, alongside developments in practice and policy activities in different countries across the WHO European Region and further afield. Results from over 3,000 studies identified a major role for the arts in the prevention of ill health, promotion of health, and management and treatment of illness across the lifespan. We see a growing recognition of the value of non-clinical interventions in supporting people to live longer healthier and happier lives, so we need to focus on prevention and to tackle the growing challenge of health inequalities. Our challenge is now to ensure that this evidence influences policy and practice.
UCL’s new study Pioneering Insights Into Social Prescribing Pathways provides analysis of social prescribing across diverse referral pathways in the UK. Lead author, Dr Daisy Fancourt, explains how “this study takes a broad view of all types of referral pathways, including primary care, social care, education, charities and self-referrals.” Dr Feifei Bu, co-author of the study highlights that: “Addressing healthcare inequality is crucial and requires innovative approaches, with social prescribing standing out as vital tool that when effectively implemented...can bridge gaps in traditional healthcare systems and reach those who are often left behind.”
Over the coming year WAHWN will work in partnership with Hywel Dda UHB on their HARP (Hywel Dda Arts Referral Programme) enabling the health board to co-create a sustainable, measurable and integrated arts referral pathway in preparation for scaling up to a widespread and equitable service. The aim is to improve health and wellbeing of patients and to reduce the frequency of regular GP attenders in the region who are presenting with pain, anxiety and depression. The work will build on their pilot, which was highlighted by the health board recently - Arts and Health Creative Prescribing delivers promising results!
With the launch of Mind Cymru’s The Big Mental Health Report 2024 this month, we look forward to welcoming Simon Jones, Head of Policy and Campaigns to our January network meeting. The report highlights the scale and severity of mental health need and how lack of funding and resources, financial insecurity, racism, discrimination and stigma all play a part.
We were delighted to welcome Dan Lock, Director of Wales’ new National Nature Service, along with Arts Council Wales, Blaenau Gwent Arts Development and Outside Lives to our November network meeting. We look forward to working with Dan and his team to grow the network of public bodies, organisations and practitioners who are contributing to improving our natural environment and our relationship to nature. Our event aligned well with the launch of the Arts Council’s Plan for Climate Justice and the Arts setting out their goals, shared beliefs and values. We’ll be joined by Dan Allen, Development Officer, Arts Council Wales at our December network meeting who will talk about the Arts Health and Wellbeing lottery funding, including a Q&A session. Now in its 10th round, the fund re-opened on 20th November and closes at 5pm on 22nd January 2025.
Reaching out to be Global – a 5 Nations event this month, connected over 70 artists working in the Creative Ageing sector in Wales, England, Finland, Northern Ireland and Ireland. Hosted by our Programme Manager, Tracy Breathnach, we heard from 5 artists working in the Creative Ageing sector from each country, along with 2 breakout sessions for participants to connect and network. The event closed with a presentation from our colleague Raisa Karttunen, Kaapeli, Finland about her vision for an International Centre for Creative Ageing. A big thanks go out to our partners who co-produced this event: Age Cymru. CADA, Kaapeli, Arts Care and Age & Opportunity. And of course, to the artists who attended, one of whom said: “Thank you so much, it was very interesting and joyful, so informative and great to hear different experiences.” This event builds on the legacy from the work the Baring Foundation did previously across Europe to develop the Creative Ageing sector. They have a call out for submissions for their new Creative Ageing Directory.
In December, Tracy and I will be guest lecturers at the MA Arts Health & Wellbeing, University South Wales to introduce WAHWN, share an overview of research, practice and new discourses in the sector to support the students as they plan for their own arts and health projects.
And finally, we’re excited to share a ‘save the date’ for WEAVE w/c 8th September 2025 - our second arts, health and wellbeing conference in partnership with Wrexham Glyndwr University, Arts Council Wales and Betsi Cadwaladr UHB. More information to follow in the coming weeks and months. We invite anyone interested in sponsoring the event to please get in touch info@wahwn.cymru.
Onwards and upwards!
Angela
-
Annwyl aelodau
Croeso i grynodeb arall gan y sector yn dilyn mis prysur arall i dîm WAHWN. Rydyn ni wedi bod yn cynnal digwyddiadau rhwydweithio cenedlaethol a rhyngwladol, cynrychioli’r sector yng nghynhadledd Ffederasiwn GIG Cymru a Gŵyl Syniadau’r Economi Llesiant sydd wedi agor llu o bartneriaethau a chyfleoedd cydweithio newydd posibl newydd i WAHWN a’i aelodau.
Bu’r blynyddoedd diwethaf yn drawsnewidiol i WAHWN – sicrhau cyllid aml-flwyddyn gan CCC; sicrhau statws elusennol ym mis Awst; ar y trywydd iawn i gael cydnabyddiaeth Cynnig Cymraeg/Welsh Offer ac o fewn dim i gyrraedd 1,000 o aelodau - cynnydd o dros 100% yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.
Wrth i ni dyfu a chynyddu ein cefnogaeth i’r sector, rydyn ni nawr yn edrych am Gyfarwyddwyr Ymddiriedolaeth newydd i ymuno â ni ar ein taith – unigolion sy’n dod â brwdfrydedd, dychymyg ac ymrwymiad i rôl fydd yn ein helpu i ehangu’r amrywiaeth o sgiliau, gwybodaeth a safbwyntiau o fewn y bwrdd. Ar hyn o bryd dyw ein gweithlu a’n harweinwyr ddim yn adlewyrchu amrywiaeth profiadau byw’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu, felly rydyn ni’n annog ceisiadau gan bobl nad yw eu treftadaeth, hunaniaeth neu lais yn cael cynrychiolaeth yn sector y celfyddydau, iechyd a llesiant fel arfer. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 15 Ionawr 2025.
Roedden ni wrth ein bodd y mis yma i fod yn rhan o’r Ŵyl Syniadau'r Economi Llesiant gyntaf yn Arena Abertawe, gan ddod â thros 600 o fusnesau, cyrff cyhoeddus, sefydliadau celfyddydol a’r trydydd sector ynghyd i drafod cynnydd Cymru wrth ddatblygu’r economi llesiant, a restrir bellach yn un o bum piler yn strategaeth Cymru CAN Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd economi llesiant yn golygu ein bod yn symud o economi sy’n canolbwyntio’n llwyr ar dwf a chynnydd domestig gros i fod yn economi sy’n gweithio i bawb, gyda llesiant yn ganolog. Fe’n hysbrydolwyd i glywed model Kate Raworth, yr ‘Economi Toesen’ sy’n pwysleisio sut mae’n rhaid i ni weithio i sicrhau ein bod yn gofalu am y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau, gan aros o fewn cyfyngiadau ecolegol.
Hefyd yn ystod y mis, aethom i Gynhadledd Conffederasiwn GIG Cymru ‘Uchelgais ar gyfer Cenedl Iachach’ yn Stadiwm Dinas Caerdydd, lle, o’r stondin arddangos roedden ni’n ei rhannu gyda CCC, buom yn tynnu sylw at effaith y celfyddydau ar iechyd a llesiant. Rhannodd y prif siaradwr, Sabrina Hatton-Cohen, Prif Swyddog Tân, awdur a niwrowyddonydd, ei syniadau ysbrydoledig ar werth bod yn wahanol, gan bwysleisio sut mae cofleidio’r hyn sy’n eich gosod ar wahân yn gallu datblygu i fod yn brif gryfder i chi. Ail-fframiodd heriau’n gyfleoedd gan ddangos sut y gall rhai o adegau anoddaf bywyd arwain at dwf rhyfeddol a llwyddiant. Roedd yn wych clywed gan Jeremy Miles, Gweinidog newydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Y neges allweddol o’r gynhadledd oedd yr angen brys i neilltuo cyllid ar gyfer atal a gobeithio pan fydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi cyllidebau ar 10 Rhagfyr y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu. Fe wyddom fod gan y celfyddydau rôl allweddol i’w chwarae yn yr arena atal, a thros y ddau ddegawd diwethaf cafwyd cynnydd mawr mewn ymchwil i effeithiau’r celfyddydau ar iechyd a llesiant, ochr yn ochr â datblygiadau mewn ymarfer a gweithgareddau polisi mewn gwledydd gwahanol ledled Rhanbarth Ewrop y WHO ac ymhellach. Nododd canlyniadau dros 3,000 o astudiaethau rôl bwysig i’r celfyddydau wrth atal afiechyd, hyrwyddo iechyd a rheoli a thrin salwch gydol oes. Rydyn ni’n gweld cydnabyddiaeth gynyddol o werth ymyriadau anghlinigol i gynorthwyo pobl i fyw bywydau hirach a hapusach, felly mae angen i ni ganolbwyntio ar atal a mynd i’r afael â her gynyddol anghydraddoldebau iechyd. Ein her nawr yw sicrhau bod y dystiolaeth hon yn dylanwadu ar bolisi ac ymarfer.
Mae astudiaeth newydd UCL Pioneering Insights Into Social Prescribing Pathways yn cynnwys dadansoddiad o bresgripsiynu cymdeithasol ar draws llwybrau atgyfeirio amrywiol yn y DU. Mae’r awdur arweiniol, Dr Daisy Fancourt, yn esbonio sut mae’r astudiaeth yn cymryd golwg eang ar bob math o lwybr atgyfeirio, gan gynnwys gofal sylfaenol, gofal cymdeithasol, addysg, elusennau a hunan-atgyfeirio. Pwysleisia cydawdur yr astudiaeth, Dr Feifei Bu, fod mynd i’r afael ag anghydraddoldeb o ran gofal iechyd yn hanfodol a bod angen dulliau arloesol, gyda phresgripsiynu cymdeithasol yn offeryn hanfodol amlwg sydd, o’i ddefnyddio’n effeithiol, yn gallu pontio bylchau mewn systemau gofal iechyd traddodiadol a chyrraedd y rheini sydd yn aml yn cael eu gadael ar ôl.
Dros y flwyddyn nesaf bydd WAHWN yn gweithio mewn partneriaeth gyda BIP Hywel Dda ar HARP (Rhaglen Atgyfeirio Celfyddydau Hywel Dda) i alluogi’r bwrdd iechyd i gyd-greu llwybr atgyfeirio celfyddydau cynaliadwy, mesuradwy a chyfannol i baratoi ar gyfer ehangu i fod yn wasanaeth eang a chyfiawn. Y nod yw gwella iechyd a llesiant cleifion a lleihau nifer yr ymweliadau rheolaidd â meddygon teulu yn yr ardal sy’n ymwneud â phoen, gorbryder ac iselder. Bydd y gwaith yn adeiladu ar y cynllun peilot, a amlygwyd gan y bwrdd iechyd yn ddiweddar - Presgripsiynu Cymdeithasol Celfyddydau ac Iechyd yn sicrhau canlyniadau addawol!
Gyda lansio Adroddiad Iechyd Meddwl Mawr 2024 Mind Cymru y mis hwn, rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu Simon Jones, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd i gyfarfod rhwydwaith mis Ionawr. Mae’r adroddiad yn pwysleisio graddfa a difrifoldeb anghenion iechyd meddwl a sut mae diffyg cyllid ac adnoddau, ansicrwydd ariannol, hiliaeth, gwahaniaethu a stigma i gyd yn chwarae rhan.
Roedden ni wrth ein bodd i groesawu Dan Lock, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Natur Cenedlaethol newydd Cymru ynghyd â Chyngor Celfyddydau Cymru, Datblygu'r Celfyddydau Blaenau Gwent ac Outside Lives i gyfarfod rhwydwaith mis Tachwedd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Dan a’r tîm i gynyddu’r rhwydwaith o gyrff cyhoeddus, sefydliadau ac ymarferwyr sy’n cyfrannu at wella’r amgylchedd naturiol a’n perthynas a natur. Roedd y digwyddiad yn cyd-fynd â lansio Cynllun Cyfiawnder Hinsawdd ar y Celfyddydau Cyngor y Celfyddydau sy’n egluro eu targedau, eu credoau a’u gwerthoedd cyffredin. Bydd Dan Allen, Swyddog Datblygu Cyngor y Celfyddydau yn ymuno â ni yng nghyfarfod rhwydwaith mis Rhagfyr i siarad am gyllid Celfyddydau, Iechyd a Lles y Loteri, gan gynnwys sesiwn holi ac ateb. Ail-agorodd y gronfa, sydd bellach yn ei degfed cylch, ar 20 Tachwedd a bydd yn cau am 5pm ar 22 Ionawr 2025.
Roedd Estyn Allan i fod yn Fyd-eang – digwyddiad a gynhaliwyd y mis hwn gyda phum Cenedl, yn cysylltu dros 70 o artistiaid yn gweithio yn y sector Heneiddio Creadigol yng Nghymru, Lloegr, y Ffindir, Gogledd Iwerddon ac Iwerddon. Yr arweinydd oedd ein Rheolwr Rhaglenni Tracy Breathnach, a chlywyd gan bum artist yn gweithio yn y sector Heneiddio Creadigol o bob gwlad, ynghyd â dwy sesiwn drafod mewn grwpiau i gyfranogwyr gysylltu a rhwydweithio. Gorffennodd y digwyddiad gyda chfylwyniad gan ein cydweithiwr Raisa Karttunen, Kaapeli, y Ffindir, am ei gweledigaeth ar gyfer Canolfan Heneiddio Creadigol Ryngwladol. Diolch yn fawr i’n partneriaid a gyd-gynhyrchodd y digwyddiad: Age Cymru. CADA, Kaapeli, Arts Care ac Age & Opportunity. Ac wrth gwrs i’r artistiaid eu hunain. Dywedodd un o’u plith: “Diolch yn fawr, roedd mor ddiddorol a hwyliog, mor addysgiadol a gwych cael clywed profiadau gwahanol.” Mae’r digwyddiad yn adeiladu ar waddol o waith blaenorol Sefydliad Baring ledled Ewrop i ddatblygu’r sector Heneiddio Creadigol. Maen nhw'n galw am gyflwyniadau i'w Cyfeiriadur Heneiddio Creadigol newydd
Ym mis Rhagfyr, bydd Tracy a fi’n ddarlithwyr gwadd ar raglen MA Celfyddydau Iechyd a Llesiant Prifysgol De Cymru. Byddwn yn cyflwyno WAHWN, gan rannu trosolwg o ymchwil, ymarfer a thrafodaethau newydd yn y sector i gynorthwyo’r myfyrwyr wrth iddyn nhw gynllunio eu prosiectau celfyddydau ac iechyd eu hunain.
Ac yn olaf rydyn ni’n llawn cyffro i rannu ‘dyddiad i’w nodi’ ar gyfer GWEHYDDU yn yr wythnos yn dechrau 8 Medi 2025 - yr ail gynhadledd celfyddydau, iechyd a llesiant mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Wrecsam Glyndŵr, Cyngor Celfyddydau Cymru a BIP Betsi Cadwaladr. Bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Gwahoddwn unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu info@wahwn.cymru.
Ymlaen!
Angela