Director's Blog - October 2024 | Blog y Cyfarwyddwr - Mis Hydref 2024

18/10/2024 | Author: Angela Rogers

September has flown by with another busy month of network meetings, learning groups and key advocacy opportunities!

September has flown by with another busy month of network meetings, learning groups and key advocacy opportunities, including our first Cross Party Group on Arts and Health hosted by the new Chair, Heledd Fychan, MS, who is committed to helping us to gain political traction and visibility. Encouraging us all to proactively highlight our work, especially in the run up to the Senedd elections in May 2026, she urged us to invite our Senedd members to any upcoming events, shows or projects to raise awareness of our work within their constituency. In addition, we have created a template letter that you can adapt. Find a Senedd member for your area here.

Pic: Angela, ACW and Arts & Health Coordinators at the Senedd.

It was wonderful to spend time with our trustees for our visioning day at Hafan yr Afon, Newtown discussing priorities and opportunities for the coming year.  With our rapidly expanding membership now hurtling towards the 1000 mark, a whopping 100% increase in 3 years, we focused on how best to use our resources to support members over the coming year. Perhaps you can help us reach our 1000th member target? Please encourage any project partners or colleagues to sign up and receive the benefits WAHWN offers as the national sector support organisation for our sector. Our website is the ‘go to’ repository for colleagues in the sector to find creative practitioners, health partners, nature partners, resources, opportunities and news.

Pic: WAHWN Board on their away day

Following a meeting with the Welsh Language Commissioner’s Office, we are delighted that our Welsh Language Development Plan is progressing well, and we are well on our way to gaining our Cynnig Cymraeg/Welsh Officer recognition. We were encouraged by our Officer’s comments, congratulating our progress, despite being a small team. We are committed to continually reviewing and building our Welsh offer. This month we held a network meeting for Welsh Language Practitioners so that we could hear more about the barriers and resources needed to support them.

Our Go and See micro-grant fund is now closed for this year. We have funded 11 artists and will share updates of their activities on our social media platforms in the coming months. With a growing evidence base around the impact of creativity in nature, we are pleased to see funders announcing new streams including the National Heritage Lottery Nature Towns and Cities fund in 2025 who will be encouraging applications from Wales. Through the fund they aim to enable 100 UK towns and cities across the UK become better places to live and work, by putting nature and green space at the heart of their priorities and investment. We are also pleased to welcome Dan Lock, Director of National Nature Service to talk about this new service at our November Network Meeting. This new service has been a collaboration between organisations committed to building a sustainable skilled and eco-literate workforce aimed at creating a foundation for entrepreneurship and business innovation, a green economy for the future, and improving the health and wellbeing of our nation.

We are now taking bookings for our FINAL events in the How Ya Doing? programmes! We have been offering support and training for artists and organisations around wellbeing for 3 years in the wake of the pandemic, and this programme will end by February 2025. So, if you have been planning to take one of our courses, make sure you book your place soon! Full details here.

As our Stepping In programme draws to a close, we are now reflecting on what a future iteration of this programme might look like, and we are committed to finding resource to build on this successful pilot. We look forward to sharing our Stepping In film and case studies created with film maker Simon Huntley later in November.

We were delighted to have David Cutler, Director of the Baring Foundation join our recent Learning Group, who shared a call out for Wales based creative ageing organisations for a new directory to be published in early 2025. To register, please complete form here . If you work in creative ageing you may want to join us at our next quarterly meeting on 17th December at 10am.

CHWA (Culture Health & Wellbeing Alliance) 2025 Awards are now open for submissions. The awards are for anyone working in creative health and social justice, including freelancers, staff and organisations, and aim to celebrate some of the most exciting and innovative work happening in the sector across the UK. Submissions close at 5pm on 29th November.

And congratulations to the Arts team at Hywel Dda UHB for winning the Innovation Category for their Dance on Prescription Poster at the RCGP Annual Conference and Exhibition in Liverpool earlier this month.

As always, if you have any resources, news or opportunities you want to share, please upload to the website.

Onwards and Upwards!

Angela

 

-

 

Diflannodd mis Medi ar wib yn dilyn cyfnod prysur arall o gyfarfodydd rhwydwaith, grwpiau dysgu a chyfleoedd eiriolaeth allweddol gan gynnwys y Grŵp Trawsbleidiol cyntaf ar y Celfyddydau ac Iechyd a gynhaliwyd gyda’r Cadeirydd newydd, Heledd Fychan, AS, sy’n ymroi i’n helpu i sicrhau dylanwad gwleidyddol a gwelededd. Gydag anogaeth i ni i gyd dynnu sylw at ein gwaith, yn enwedig wrth agosau at etholiad y Senedd ym mis Mai 2026, galwodd arnom ni i wahodd ein haelodau o’r Senedd i unrhyw ddigwyddiadau, sioeau neu brosiectau arfaethedig i godi ymwybyddiaeth o’n gwaith yn yr etholaethau. Yn ogystal rydyn ni wedi creu llythyr templed y gallwch chi ei addasu. Gallwch ddod o hyd i aelodau Senedd eich ardal chi yma.      

Roedd yn wych cael treulio amser gyda’r ymddiriedolwyr ar ein diwrnod creu gweledigaeth yn Hafan yr Afon, y Drenewydd, yn trafod blaenoriaethau a chyfleoedd dros y flwyddyn nesaf. Gyda’n haelodaeth yn ehangu’n gyflym ac yn agosau at 1000, sy’n gynnydd enfawr o 100% mewn tair blynedd, edrychon ni ar beth fyddai’r ffordd orau i ddefnyddio adnoddau i gefnogi aelodau dros y flwyddyn nesaf. Efallai y gallech chi ein helpu i gyrraedd y targed o 1000 aelod? Anogwch unrhyw bartneriaid prosiect neu gydweithwyr i gofrestru a derbyn y buddion mae WAHWN yn eu cynnig fel corff cymorth cenedlaethol i’r sector. Y wefan yw’r lle cyntaf mae cydweithwyr yn edrych i ddod o hyd i ymarferwyr creadigol, partneriaid iechyd, partneriaid natur, adnoddau, cyfleoedd a newyddion.

Yn dilyn cyfarfod gyda Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, rydyn ni wrth ein bodd fod ein Cynllun Datblygu’r Gymraeg yn gwneud cynnydd da ac ar y trywydd iawn i sicrhau cydnabyddiaeth Cynnig Cymraeg.  Cawsom ein calonogi gan sylwadau’r Swyddog, a’n llongyfarchodd ni ar ein cynnydd er ein bod yn dîm bach. Rydyn ni’n ymrwymo i adolygu a chynyddu ein cynnig Cymraeg yn barhaus. Y mis hwn cynhaliwyd cyfarfod rhwydwaith i ymarferwyr Cymraeg eu hiaith er mwyn gallu clywed mwy am y rhwystrau a’r adnoddau sydd eu hangen i’w cefnogi.

Mae cronfa micro-grantiau Mynd i Weld bellach wedi cau am eleni. Cyllidwyd 11 artist a byddwn yn rhannu’r diweddaraf am eu gweithgareddau ar y cyfryngau cymdeithasol dros y misoedd nesaf. Gyda thystiolaeth gynyddol am effaith creadigrwydd mewn natur, rydyn ni’n falch fod ein cyllidwyr wedi cyhoeddi ffrydiau newydd gan gynnwys Dinasoedd a Threfi Natur Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn 2025, a fydd yn annog ceisiadau o Gymru. Drwy’r gronfa y nod yw galluogi 100 o drefi a dinasoedd ar draws y DU i ddod yn well lleoedd i fyw a gweithio, drwy osod natur a mannau gwyrdd wrth galon eu blaenoriaethau a’u buddsoddi. Rydyn ni hefyd yn falch i groesawu Dan Lock, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Natur Cymru i siarad am y gwasanaeth newydd hwn yng nghyfarfod rhwydwaith mis Tachwedd. Mae’r gwasanaeth newydd yn deillio o gydweithio rhwng sefydliadau sy’n ymroi i feithrin gweithlu cynaliadwy, eco-lythrennog â sgiliau uchel i greu sail ar gyfer entrepreneuriaeth ac arloesi mewn busnes, economi werdd i’r dyfodol a gwella iechyd a llesiant y genedl.

Rydyn ni bellach yn derbyn archebion ar gyfer digwyddiadau OLAF rhaglenni Sut Mae’n Mynd? Rydyn ni wedi bod yn cynnig cefnogaeth a hyfforddiant i artistiaid a sefydliadau ar lesiant ers tair blynedd yn sgil y pandemig, a bydd y rhaglen yn dod i ben ddiwedd Chwefror 2025. Felly os ydych chi wedi meddwl mynd ar un o’r cyrsiau, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw lle yn fuan! Manylion llawn yma.

Wrth i raglen Camu i Mewn dynnu tua’r terfyn, rydyn ni nawr yn myfyrio ar sut allai iteriad o’r rhaglen edrych yn y dyfodol ac yn ymrwymo i ddod o hyd i adnoddau i adeiladu ar y peilot llwyddiannus. Edrychwn ymlaen at rannu ffilm ac astudiaethau achos Camu i Mewn a grëwyd gyda’r gwneuthurwr ffilmiau Simon Huntley yn ddiweddarach ym mis Tachwedd.

Roedden ni wrth ein bodd fod David Cutler, Cyfarwyddwr Sefydliad Baring wedi ymuno â’n Grŵp Dysgu yn ddiweddar, er mwyn rhannu galwad i sefydliadau heneidido creadigol yng Nghymru greu cyfeiriadur newydd a gyhoeddir ddechrau 2025. I gofrestru cwblhewch y ffurflen hon. Os ydych chi’n gweithio ym maes heneiddio creadigol gallech ddymuno ymuno â ni yn y cyfarfod chwarterol nesaf ar 17 Rhagfyr am 10am.

Mae Gwobrau CHWA (y Cynghrair Iechyd a Llesiant) 2025 bellach ar agor. Mae’r gwobrau hyn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio ym maes iechyd creadigol a chyfiawnder cymdeithasol, gan gynnwys gweithwyr llawrydd, staff a sefydliadau, a’r nod yw dathlu peth o’r gwaith mwyaf cyffrous ac arloesol yn y sector ledled y DU. Mae manylion llawn a chyfarwyddyd ar gael. Bydd y cyflwyniadau’n cau am 5pm ar 29 Tachwedd.

Llongyfarchiadau hefyd i’r tim Celfyddydau yn BIP Hywel dda am ennill Categori Arloesi am eu Poster Dawns ar Bresgripsiwn yng Nghynhadledd Flynyddol ac Arddangosfa'r RCGP yn Lerpwl yn gynharach y mis hwn.

Yn ôl yr arfer, os oes gennych chi unrhyw adnoddau, newyddion neu gyfleoedd yr hoffech chi eu rhannu, uwchlwythwch nhw i’r wefan.

Ymlaen!

Angela

Previous Article

Next Article

Director's Blog - October 2024 | Blog y Cyfarwyddwr - Mis Hydref 2024
Menu
Search