A Sense of Belonging by Tracy Breathnach, WAHWN Programme Manager
23/07/2024 | Author: Tracy Breathnach
When I host our Wales Arts Health and Wellbeing Network events there, I experience a really grounded sense of connection and collaboration … a unique balance of realness, openness, humour and imagination.
A Sense of Belonging by Tracy Breathnach, WAHWN Programme Manager
I love working in Swansea. I have worked and travelled a lot around Wales, and Swansea always feels like home… perhaps it’s because it’s on the coast and I grew up by the sea, or perhaps the old Cork-Swansea ferry has connected the 2 places in some invisible way that makes me feel like I’m closer to my home in Cork.
When I host our Wales Arts Health and Wellbeing Network events there, I experience a really grounded sense of connection and collaboration … a unique balance of realness, openness, humour and imagination. People are confident in speaking out and getting involved: over 50 people signed up to attend our networking event, our average is 25.
The attendees came from the widest range of organisations we have had at any Marketplace event this year: Swansea Bay University Health Board; Swansea University; Swansea Council; Swansea Council for Voluntary Service; Business Wales; Elysium gallery; Mess up the Mess; Gig Buddies; Coed Lleol - Small Woods Association; Gwella Arts & Health; Race Council Cymru; Swansea Carers Centre; Amgueddfa Cymru; and of course a range of freelance artists and even 2 of our new Stepping In mentees!
When I worked at Swansea University a few years ago, running community heritage projects at the Centre for Heritage and Research Training, our work was closely linked to the university’s ambition for Civic Mission. Civic Mission describes how universities look outwards to their local communities and ask ‘how can we best serve you?’ I was so happy to be part of this endeavour – to meet and work with local people to explore their own sense of place, to open the doors and invite people in to access the resources we had at the university. If universities are not a part of and connected to the people and places where they are, then something is missing.
Working in Arts and Health gives me the same fervour for service … it’s a hybrid, collaborative sector that puts people and wellbeing at the heart of everything we do. It attracts professionals who are passionate about making connections and improvements in our communities using creativity and the arts. Our Creative Health Marketplaces are about improving these things on a local level, so the impacts of people meeting and connecting are tangible: follow up meetings are scheduled; creative dates are put in diaries; invitations to creative classes and events are shared; resources and support are offered.
There is no agenda from us, other than to create a physical space, with a loose structure for all of this to happen.
And it happens!
And I feel so much joy in being part of it.
-
Ymdeimlad o Berthyn gan Tracy Breathnach, Rheolwr Rhaglenni WAHWN
Dwi wrth fy modd yn gweithio yn Abertawe. Dwi wedi gweithio a theithio llawer o gwmpas Cymru, ac mae Abertawe bob amser yn teimlo fel bod adref… efallai oherwydd ei fod ar yr arfordir, a chefais fy magu ger y môr, neu efallai am fod yr hen fferi Corc-Abertawe wedi cysylltu’r ddau le mewn ffordd anweladwy sy’n gwneud i mi deimlo’n agosach at fy nghartref yng Nghorc.
Pan fyddaf i’n cynnal digwyddiadau Rhwydwaith Celfyddydau Iechyd a Llesiant Cymru yno, dwi’n profi ymdeimlad cadarn o gysylltiad a chydweithio… cydbwysedd unigryw o wirionedd, gonestrwydd, hiwmor a dychymyg. Mae pobl yn hyderus wrth godi llais a chymryd rhan: cofrestrodd dros 50 o bobl i ddod i’r digwyddiad rhwydweithio, ein cyfartaledd yw 25.
Daeth pobl atom o’r amrywiaeth mwyaf eang o sefydliadau i ni eu gweld mewn unrhyw ddigwyddiad Marchnad eleni: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; Prifysgol Abertawe; Cyngor Abertawe; Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe; Busnes Cymru, Oriel Elysium, Mess up the Mess; Gig Buddies; Coed Lleol; Gwella Celfyddydau mewn Iechyd; Cyngor Hil Cymru; Canolfan Gofalwyr Abertawe; Amgueddfa Cymru; ac wrth gwrs amrywiol artistiaid llawrydd a hyd yn oed ddau o fenteion newydd Camu i Mewn!
Pan fûm i’n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe rai blynyddoedd yn ôl, yn rhedeg prosiectau treftadaeth gymunedol yn y Ganolfan Treftadaeth a Hyfforddiant Ymchwil, roedd cysylltiad agos rhwng ein gwaith ag uchelgais y Brifysgol ar gyfer Cenhadaeth Ddinesig. Mae Cenhadaeth Ddinesig yn disgrifio sut mae prifysgolion yn edrych allan at eu cymunedau lleol a gofyn ‘sut allwn ni eich gwasanaethu orau?’ Roeddwn i mor hapus i fod yn rhan o’r ymdrech hwn - cwrdd a gweithio gyda phobl leol i ystyried eu hymdeimlad eu hunain o le, ac agor y drysau a gwahodd pobl i mewn i fanteisio ar ein hadnoddau yn y brifysgol. Os nad yw prifysgolion yn rhan ac yn gysylltiedig â’r bobl a’r lleoedd o’u cwmpas, mae rhywbeth ar goll.
Mae gweithio ym maes y Celfyddydau ac Iechyd yn rhoi’r un brwdfrydedd i mi dros wasanaeth… mae’n sector hybrid, cydweithredol sy’n gosod pobl a llesiant wrth galon popeth a wnawn. Mae’n denu gweithwyr proffesiynol sy’n angerddol dros wneud cysylltiadau a sicrhau gwelliannau yn ein cymunedau gan ddefnyddio creadigrwydd a’r celfyddydau. Mae’r Marchnadoedd Iechyd Creadigol yn ymwneud â gwella’r pethau hyn ar lefel leol, felly mae’r effaith a gaiff pobl yn sgil cyfarfod a chysylltu yn ddiriaethol: caiff cyfarfodydd dilynol eu trefnu; caiff dyddiadau creadigol eu gosod mewn dyddiaduron; rhennir gwahoddiadau i ddosbarthiadau a digwyddiadau creadigol; cynigir adnoddau a chefnogaeth.
Does dim agenda gennym ni ar wahân i greu lle ffisegol, gyda strwythur llac i hyn i gyd ddigwydd.
Ac mae’n digwydd!
Ac mae’n llawenydd i mi gael bod yn rhan ohono.