Director's Blog - June 2024 | Blog y Cyfarwyddwr - Mis Mehefin 2024

20/06/2024 | Author: Angela Rogers

Welcome to our June newsletter, as always populated by the incredible work our WAHWN members are delivering and championing across Wales.

In the run up to the general election, many of us will be laser focused on the prominence each of the political parties are placing on the arts.  Although not advocating for any party, WAHWN will always champion our sector’s work.  We welcome the Campaign for the Arts recent round up of what each the parties’ pledge for the arts, with one key party pledging that the arts will no longer be the preserve of a privileged few.  This sentiment is mirrored in a recent Guardian article on arts funding in a time of austerity, where it references Professor Justin O’Connor’s new book Culture Is Not an Industry arguing that culture should be placed “alongside health, education, social welfare and basic infrastructure”, as something to which the public is entitled as a human right and that needs to be funded. At a recent forum on the draft budget for 25-26, WAHWN urged Welsh Government to reframe its consultation by placing arts and culture alongside and at the heart of policy, and not in competition with other public services.     

 

We are grateful to everyone who contributed their feedback to the Welsh Government draft Mental Health Strategy and our sector response has now been submitted. Our next priority is ensuring the impact of arts on health and wellbeing is acknowledged across the 2024-2030 Culture Strategy, with the draft Priorities now out for consultation. The deadline for responding is 4th September.  WAHWN would encourage all members to respond to the 3 priorities -  (1) Culture brings us together; (2) A nation of culture and (3) Culture is resilient and sustainable. We will share a WAHWN response in the coming weeks.     

 

For team WAHWN it’s been a very busy month with online and in person networking events, including the Denbighshire and Gwynedd Market Places where collectively over 60 arts, health and third sector colleagues have connected, explored referral pathways and new partnership working. Our final Market Place of 2024 will be held at Urban HQ, Swansea. People leave with new connections, ideas, opportunities and clearer referral pathways:

You leave feeling like there’s new projects on the horizon, there’s new opportunities, so we can all work to better the wellbeing of the people in south Wales.” (participant feedback)

We are delighted to have worked with the brilliant film maker, Simon Huntley, to create a short film and we are grateful to our funder National Lottery Community Fund for supporting these events. We hope to deliver a Market Places near you in 2025.

 

We hope you can join us for our July network meeting, when we’ll be joined by our strategic partner Alun Llwyd, Chief Executive of PYST and we’ll hear more about the Public Health Wales Hapus national conversation about mental wellbeing and ways you can get involved following their online launch on 8th July. Promoting mental wellbeing is a high priority with a new 10 year Mental Health and Wellbeing Strategy for Wales including a specific focus on protecting and improving mental wellbeing. Hapus is facilitated by Public Health Wales and aims to initiate and sustain a national conversation that encourages individuals and communities to prioritise their mental wellbeing and to engage with activities that protect and promote mental wellbeing.

 

Tracy and I recently enjoyed an afternoon with the 3 facilitators on our How Ya Doing? Reflective Practice courses: Cai Tomos, Jain Boon and Alison O’Connor. As we come to the end of Year 1 of this project, funded by the Baring Foundation, we reflected together on what’s happened this year and where we would like to develop the work next year and beyond. Highlights from the feedback include:  

This is the best training I’ve ever done! I feel so confident in my new skills that I can’t wait to get started.” (participant on 2-day Facilitator Training)

Processing in the Welsh language is crucial for me so I can’t thank you enough for this vital programme. It touches me at a deep subconscious level and elevates so much burden that inevitably comes with working with vulnerable groups.” (participant of Welsh Reflective Practice sessions)

The Year 2 programme includes Reflective Practice for artists (online); 2-day Reflective Practice Facilitator Training course (online) and a 1-day Strategies for Wellbeing course for arts organisations (online), Creative Reflective Practice 6 week course and Welsh-language Creative Reflective Practice 1-2-1's.

 

By the time this newsletter reaches your inbox, our four Stepping In Mentees – Radha Patel, Pete Mosey, Georgina Paterson and Lyndsey Fouracre Reynolds will have learnt, shared and connected during their week long training residential. The mentees now look forward to an experiential learning phase where they will shadow an artist on a live project in a health or community setting, alongside wrap around support in the form of mentoring, supervision and wellbeing support.  We look forward to learning alongside them about the potential and scalability of Stepping In so that we can scope further opportunities for other practitioners in Wales. 

 

Massive congratulations to Hywel Dda UHB Arts and Health Team on winning the Culture & Language Award for  ‘A Dose of Art’  at the inaugural Welsh Sustainability Awards. In 2023, ‘A Dose of Art’ was created, conveying a message of hope, freedom, community, light, and life that the mass vaccination programme brought to people across Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire. Winning the Culture and Language Wales Award, the artwork by Nathan Wyburn portrays two smiling NHS staff crafted from thousands of COVID-19 vaccination vial plastic lids collected during the health board’s mass vaccination programme.

 

There are some great opportunities this month, including a call out for a Arts and Health Project Officer for Swansea Bay University Health Board to help develop a new and ambitious Arts Strategy and a Project Coordinator for the Change Minds Carmarthenshire project. Denbighshire Leisure Ltd have issued a call out for nominations for the Arts and Wellbeing Category, Active Communities Award in November, as well as offering an artist commission to create trophies for the winners, aimed at locally based practitioners. If you’re a Gwynedd based practitioner, check out the £2000 seed funding for new and innovative ways of working. Deadline is today, 25th June.

 

Finally, with an ever-growing number of WAHWN members, we have recently added several new member categories – Professional Services; Supervisors/Therapists and Wellbeing Facilitators. As always, we welcome your feedback and suggestions. We have also added a new function to the site which enables members to update their profiles now.  

 

Onwards and Upwards!

Angela  

 

-

 

Wrth edrych ymlaen at yr etholiad cyffredinol, bydd llawer ohonom yn canolbwyntio’n fanwl ar y flaenoriaeth mae pob un o’r pleidiau gwleidyddol yn ei rhoi i’r celfyddydau. Er nad yw WAHWN yn ffafrio’r un blaid, bydd bob amser yn hyrwyddo gwaith ein sector. Rydyn ni’n croesawu crynodeb diweddar Campaign for the Arts o’r hyn mae pob un o’r pleidiau’n ei addunedu ar gyfer y celfyddydau, gydag un blaid allweddol yn addunedu na fydd y celfyddydau bellach yn rhywbeth i’r lleiafrif breintiedig yn unig. Caiff hyn ei adlewyrchu hefyd mewn erthygl ddiweddar yn y Guardian  ar gyllido’r celfyddydau mewn cyfnod o lymder, gan gyfeirio at gyfrol newydd yr Athro Justin O’Connor Culture Is Not an Industry sy’n dadlau y dylid gosod diwylliant “ochr yn ochr ag iechyd, addysg, lles cymdeithasol a seilwaith sylfaenol” fel rhywbeth y dylai’r cyhoedd ei gael fel hawl ddynol, ac sydd angen ei gyllido.  Mewn fforwm diweddar ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 25-26, anogodd WAHWN Llywodraeth Cymru i ailfframio’r ymgynghoriad drwy osod y celfyddydau a diwylliant ochr yn ochr ac wrth galon polisi, yn hytrach na gorfod cystadlu â gwasanaethau cyhoeddus eraill.

 

Diolch i bawb a gyfrannodd adborth i Strategaeth Iechyd Meddwl ddrafft Llywodraeth Cymru ac mae ein hymateb fel sector bellach wedi’i gyflwyno. Y flaenoriaeth nesaf yw sicrhau bod effaith y celfyddydau ar iechyd a llesiant yn cael ei gydnabod drwy Strategaeth Diwylliant 2024-2030 yn gyfan, gyda’r ymgynghoriad ar y blaenoriaethau drafft bellach ar waith. Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 4 Medi.  Mae WAHWN yn annog yr holl aelodau i ymateb i’r tair blaenoriaeth -  (1) Daw diwylliant â ni at ein gilydd; (2) Cenedl o ddiwyllant a (3) Mae diwylliant yn wydn ac yn gynaliadwy. Byddwn yn rhannu ymateb WAHWN dros yr wythnosau nesaf.     

 

Bu’n fis prysur iawn i dîm WAHWN gyda digwyddiadau rhwydweithio ar-lein ac wyneb yn wyneb, gan gynnwys Marchnadoedd sir Ddinbych a Gwynedd lle daeth dros 60 o gydweithwyr yn y celfyddydau, iechyd a’r trydydd sector at ei gilydd i gyd-gysylltu ac archwilio llwybrau atgyferio a dulliau newydd o weithio mewn partneriaeth. Cynhelir marchnad olaf 2024 yn Urban HQ, Abertawe. Mae pobl yn gadael gyda chysylltiadau, syniadau, cyfleoedd newydd a llwybrau atgyfeirio cliriach:

Rydych chi’n gadael yn teimlo bod prosiectau newydd ar y gorwel; cyfleoedd newydd er mwyn i ni i gyd allu gweithio i wella llesiant pobl de Cymru.” (adborth cyfranogwr)

Rydym ni wrth ein bodd i fod wedi gweithio gyda’r gwneuthurwr ffilm disglair, Simon Huntley, i greu ffilm fer ac yn ddiolchgar i’n cyllidwyr, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, am gefnogi’r digwyddiadau hyn. Gobeithio y gallwn drefnu Marchnad yn agos atoch chi yn 2025.

 

Gobeithio y gallwch chi ymuno â ni yng nghyfarfod rhwydwaith mis Gorffennaf, pan fydd ein partner strategol Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST yn ymuno â ni a byddwn ni’n clywed mwy am sgwrs genedlaethol Hapus Iechyd Cyhoeddus Cymru am lesiant meddwl a ffyrdd y gallwch gymryd rhan yn dilyn eu lansiad ar-lein ar 8 Gorffennaf. Mae hyrwyddo llesiant meddwl yn flaenoriaeth uchel gyda Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant 10 mlynedd newydd i Gymru yn cynnwys ffocws penodol ar ddiogelu a gwella llesiant meddwl. Caiff Hapus ei hwyluso gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r nod yw dechrau a chynnal sgwrs genedlaethol sy’n annog unigolion a chymunedau i flaenoriaethu eu llesiant meddwl ac ymgysylltu â digwyddiadau sy’n diogelu ac yn hyrwyddo llesiant meddwl.

 

Yn ddiweddar cafodd Tracy a fi gyfle i dreulio prynhawn gyda’r 3 hwylusydd ar gyrsiau Ymarfer Myfyriol Sut Mae’n Mynd?: Cai Tomos, Jain Boon ac Alison O’Connor. Wrth i ni ddod i ddiwedd blwyddyn gyntaf y prosiect, a gyllidir gan Sefydliad Baring, buom yn myfyrio gyda’n gilydd ar yr hyn sydd wedi digwydd eleni ac i ba gyfeiriad yr hoffem ni ddatblygu’r gwaith y flwyddyn nesaf a thu hwnt. Dyma rai uchafbwyntiau o’r adborth:  

Dyma’r hyfforddiant gorau i mi ei wneud erioed! Dwi’n teimlo mor hyderus gyda fy sgiliau newydd fel alla i ddim aros i ddechrau arni.” (cyfranogwr Hyfforddiant deuddydd i Hwyluswyr)

Mae prosesu yn y Gymraeg yn hanfodol i fi felly alla i ddim diolch digon i chi am y rhaglen hanfodol hon. Mae’n cyffwrdd â mi ar lefel isymwybodol dwfn ac yn codi cymaint o’r baich sy’n anochel wrth weithio gyda grwpiau bregus.” (cyfranogwr yn y Sesiynau Ymarfer Myfyriol Cymraeg)

Mae rhaglen Blwyddyn 2yn cynnwys Ymarfer Myfyriol i artistiaid (ar-lein);cwrs hyfforddi deuddydd i Hwyluswyr Ymarfer Myfyriol (ar-lein), chwrs undydd i sefydliadau celfyddydol ar Strategaethau Llesiant (ar-lein), Cefnogaeth Ymarfer Creadigol cwrs 6 wythnos and Cefnogaeth Ymarfer Creadigol 1-2-1's.

 

Erbyn i’r cylchlythyr hwn gyrraedd eich mewnflwch, bydd y pedwar mentai Camu i Mewn – Radha Patel, Pete Mosey, Georgina Patterson a Lyndsey Fouracre Reynolds wedi dysgu, rhannu a chyd-gysylltu yn ystod eu wythnos breswyl o hyfforddiant. Mae’r menteion nawr yn edrych ymlaen at gyfnod o ddysgu drwy brofiad drwy gysgodi artist ar brosiect byw mewn lleoliad iechyd neu gymunedol, ynghyd â chymorth cofleidiol ar ffurf mentora, goruchwylio a chymorth llesiant. Edrychwn ymlaen at ddysgu ochr yn ochr â nhw am botensial a dichonoldeb Camu i Mewn i dyfu er mwyn i ni allu cwmpasu cyfleoedd eraill i ymarferwyr yng Nghymru. 

 

Llongyfarchiadau enfawr i dim Celfyddydau ac Iechyd BIP Hywel Dda ar ennill Gwobr Diwylliant ac Iaith am ‘Dos o Gelf’ yng Ngwobrau Cynaladwyedd cyntaf Cymru. Yn 2023, crewyd ‘Dos o Gelf’ i gyfleu neges o obaith, rhyddid, cymuned, goleuni a bywyd a ddaeth yn sgil y rhaglen frechu dorfol i bobl Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae’r darn celf gan Nathan Wyburn, a enillodd Wobr Diwylliant ac Iaith Cymru, yn darlunio dau aelod o staff y GIG yn gwenu, ac fe’i crëwyd o filoedd o gloriau ffiolau plastig brechlynnau COVID-19 a gasglwyd yn ystod rhaglen frechu dorfol y bwrdd iechyd.

 

Ceir llawer o gyfleoedd gwych y mis hwn gan gynnwys galwad am Swyddog Prosiect Celfyddydau ac Iechyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i helpu i ddatblygu Strategaeth Celfyddydau newydd uchelgeisiol a Chydlynydd Prosiect i brosiect Change Minds Sir Gaerfyrddin. Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf wedi galw am enwebiadau yn y categori Celfyddydau ac Iechyd, Gwobr Cymunedau Gweithredol ym mis Tachwedd, yn ogystal â chynnig comisiwn artist i greu gwobrau i’r enillwyr, sydd wedi’i anelu at ymarferwyr lleol. Os ydych chi’n ymarfeydd yng Ngwynedd edrychwch am y £2000 o gyllid sbarduno ar gyfer ffyrdd newydd ac arloesol o weithio. Y dyddiad cau yw heddiw, 25 Mehefin.

 

Yn olaf, gyda nifer aelodau WAHWN yn cynyddu, yn ddiweddar rydym ni wedi ychwanegu nifer o gategorïau aelodaeth newydd - Gwasanaethau Proffesiynol, Goruchwylwyr/Therapyddion a Hwyluswyr Llesiant. Yn ôl yr arfer, rydym ni’n croesawu eich adborth a’ch awgrymiadau. Rydym ni hefyd wedi ychwanegu nodwedd newydd ar y safle sy’n galluogi aelodau i ddiweddaru eu proffiliau.  

 

Ymlaen!

Angela  

Previous Article

Next Article

Director's Blog - June 2024 | Blog y Cyfarwyddwr - Mis Mehefin 2024
Menu
Search