Director's Blog - February 2024 | Blog y Cyfarwyddwr - Chwefror 2024

29/02/2024 | Author: Angela Rogers

WAHWN Director Angela announces a new project, reflecting on February's Network Meeting around Race and Inequality in her blog. - Cyfarwyddwr WAHWN Angela yn cyhoeddi prosiect newydd, gan fyfyrio ar Gyfarfod Rhwydwaith mis Chwefror ar Hil ac Anghydraddoldeb yn ei blog

I’m writing this following an inspirational February Network meeting which focused on Race and Mental Health Inequalities. This is an area of work we plan to develop further in the coming months and years as we work with our colleagues in health to address the inequalities and inequity in our communities.  

One step we are taking is looking to diversify the workforce in Arts and Health in Wales. We are delighted to share a call out for a freelance Programme Manager to lead our new Stepping In programme between April and October. Stepping In is our new Arts Council Wales Arts Health & Wellbeing Lottery funded pilot aimed at diversifying the creative health workforce. We look forward to working with our partners – Cardiff Metropolitan University; Hywel Dda UHB; Swansea Bay UHB; Caerphilly Arts and PeopleSpeakUp  supporting a small cohort of mentee practitioners through training, mentoring and live placements. The deadline for applications is 12 noon on 20th March.

This week, two long-awaited Welsh Government draft strategies have been published – the Draft mental health and wellbeing strategy and Draft suicide and self-harm prevention strategy outlining a series of vision statements and priorities for the next ten years. In her accompanying statement, Lynne Neagle, Deputy Minister for Mental Health & Wellbeing highlights how Welsh Government aim to change how we think about mental health, empower people to improve their mental health and remove the barriers and stigma around getting help.  In his response, Darren Hughes, Director of Welsh NHS Confederation highlights: 

It’s positive to see the minister’s focus on thinking more broadly and creatively about how we can all support people’s mental health and wellbeing, championing a whole-government, whole-sector, person-centred approach. We know how effective non-medical interventions can be and how important things like exercise, access to the natural environment, housing and the arts can be in improving and maintaining mental health and wellbeing.” 

WAHWN welcomes the acknowledgement of non-medical creative interventions to support mental health and wellbeing, and will share our full response to the Strategy in due course.  There are resources available to support anyone wanting to have group discussions about the strategies. The engagement packs will provide information for you to talk with others to support you to develop your own responses to the consultations. There are adult and young person resources available. You can contact the Mental Health and Vulnerable Groups Mailbox to request engagement packs for the strategies. If you work with children and young people and you would like an engagement pack or support to run a session on the new strategies, you need to contact mhstrategy@copronet.wales

The consultation period lasts until 11th June and it’s vital that we all respond to ensure our voices are heard.  Emily Van de Venter, Lead Consultant for Mental Health, Public Health Wales, will join our April Network meeting, highlighting key sections to consider when responding.

In her presentation at What Next Cymru this week, Delyth Jewell, MS and Chair of the Welsh Government Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee revealed that the equally long-awaited Culture Strategy has been delayed, and not due to be published until the end of the year. She urged us all to ‘hold feet to the fire’ by writing to Welsh Government and the Culture Committee to amplify how vital the arts are  for our health, our wellbeing in Wales, as well as culturally and economically. Email: SeneddCulture@senedd.wales. WAHWN will continue to advocate for our sector to influence policy at every opportunity.

We represented the network at a recent international visit from a Hong Kong delegation, organised by British Council. Tracy Breathnach, our Programme Manager, working with Sally Lewis, Arts Council Wales, organised a rich programme of speakers and visits for the delegates during their short stay in Wales. New relationships were formed and hopefully we will develop these further in the coming months and years. A special thanks to Wales Millenium Centre for supporting the visit. 

On the funding front, last week the Baring Foundation announced a new open round of funding for arts organisations who would like to develop new participatory arts opportunities for men with mental health problems. Grants of between £20-£50k are available for projects which provide new creative opportunities for men who are not already taking part, and target those men who are least likely otherwise to take part. Alongside this their newest resource ‘Creatively Minded Men’  is a compilation of research, data and case studies in the field of men's participation in creative health.

We hope that you’re able to join us at one of our upcoming in-person Creative Health Marketplaces as we travel across Wales to Carmarthen, Newport, Denbighshire and Gwynedd. These events, generously supported by the National Lottery Community Fund encourage networking between arts, health and third sector professionals and continue to increase cross sector referral pathways and partnership working.

We look forward to seeing you soon.

Onwards and upwards!  

 

-

 

Rwy’n ysgrifennu hwn yn dilyn cyfarfod Rhwydwaith ysbrydoledig ym mis Chwefror oedd yn canolbwyntio ar Anghydraddoldebau Hil ac Iechyd Meddwl. Mae hwn yn faes rydyn ni’n bwriadu ei ddatblygu dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf wrth i ni weithio gyda’n cydweithwyr iechyd i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn ein cymunedau.

Un cam fydd edrych ar amrywio’r gweithlu Celfyddydau ac Iechyd yng Nghymru. Rydyn ni wrth ein bodd i rannu galwad am Reolwr Rhaglen llawrydd i arwain rhaglen newydd Camu i Mewn rhwng mis Ebrill a mis Hydref. Camu i Mewn yw ein cynllun peilot newydd a gyllidir gan Loteri Celfyddydau ac Iechyd Cyngor Celfyddydau Cymru â’r nod o amrywio’r gweithlu iechyd creadigol. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’n partneriaid – Prifysgol Metropolitan Caerdydd; BIP Hywel Dda; BIP Bae Abertawe; Celfyddydau Caerffili a PeopleSpeakUp i gefnogi carfan fach o ymarferwyr-fenteion drwy hyfforddiant, mentora a lleoliadau gwaith byw. Dyddiad cau ymgeisio yw hanner dydd ar 20 Mawrth.

Yr wythnos hon, cyhoeddwyd dwy strategaeth ddrafft hirddisgwyliedig gan Lywodraeth Cymru - Strategaeth ddrafft iechyd meddwl a llesiant a Strategaeth ddrafft atal hunanladdiad a hunan-niweidio sy’n amllinellu cyfres o ddatganiadau gweledigaeth a blaenoriaethau ar gyfer y ddeng mlynedd nesaf. Yn ei datganiad atodol, mae Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn amlygu sut y bydd Llywodraeth Cymru’n ceisio newid y ffordd rydyn ni’n meddwl am iechyd meddwl, grymuso pobl i wella eu hiechyd meddwl a chwalu rhwystrau a stigma ynghylch cael cymorth. Yn ei ymateb, noda Darren Hughes, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru:

“Cadarnhaol yw gweld ffocws y gweinidog ar feddwl yn fwy eang a chreadigol am sut y gallwn ni i gyd gefnogi iechyd meddwl a llesiant pobl, gan hyrwyddo ymagwedd llywodraeth gyfan, sector cyfan, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Fe wyddom pa mor effeithiol y gall ymyriadau anfeddygol fod a pha mor bwysig y gall pethau fel ymarfer corff, mynediad i’r amgylchedd naturiol, tai a’r celfyddydau fod wrth wella a chynnal iechyd meddwl a llesiant.” 

Mae WAHWN yn croesawu cydnabyddiaeth i ymyriadau creadigol anfeddygol i gefnogi iechyd meddwl a llesiant, a byddwn yn cyhoeddi ein hymateb llawn i’r Strategaeth maes o law. Mae adnoddau ar gael i gefnogi unrhyw un sy’n dymuno cael trafodaeth grŵp am y strategaethau. Bydd y pecynnau ymgysylltu’n darparu gwybodaeth i chi gael siarad gydag eraill i’ch cefnogi i ddatblygu eich ymatebion eich hunain i’r ymgynghoriadau. Mae adnoddau ar gael i bobl ifanc ac oedolion. Gallwch gysylltu â’r Blwch Post Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed i holi am becynnau ymgysylltu ar gyfer y strategaethau. Os ydych chi’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac am gael pecyn ymgysylltu neu gymorth i drefnu sesiwn ar y strategaethau newydd cysylltwch â mhstrategy@copronet.wales.

Bydd y cyfnod ymgynghori’n para tan 11 Mehefin ac mae’n hanfodol ein bod i gyd yn ymateb i sicrhau y caiff ein lleisiau eu clywed. Bydd Emily Van de Venter, Ymgynghorydd Arweiniol dros Iechyd Meddwl, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ymuno â chyfarfod Rhwydwaith mis Ebrill, i dynnu sylw at adrannau allweddol i’w hystyried wrth ymateb.

Yn ei chyflwyniad yn Beth Nesaf Cymru yr wythnos hon, datgelodd Delyth Jewell, AS a Chadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru fod y Strategaeth Diwylliant sydd hefyd yn hirddisgwyliedig wedi’i hoedi, ac na chaiff ei chyhoeddi tan ddiwedd y flwyddyn. Anogodd bawb i ‘ddal traed wrth y tân’ drwy ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a’r Pwyllgor Diwylliant i bwysleisio pa mor hanfodol yw’r celfyddydau i’n hiechyd, ein llesiant yng Nghymru, yn ogystal ag yn ddiwylliannol ac yn economaidd. Ebost: SeneddCulture@senedd.wales. Bydd WAHWN yn parhau i eiriol dros ein sector i ddylanwadu ar bolisi ar bob cyfle.

Buom yn cynrychioli’r rhwydwaith mewn ymweliad rhyngwladol diweddar gan gynrychiolwyr o Hong Kong a drefnwyd gan y Cyngor Prydeinig. Trefnodd Tracy Breathnach, ein Rheolwr Rhaglenni, yn gweithio gyda Sally Lewis, Cyngor Celfyddydau Cymru, raglen gyfoethog o siaradwyr ac ymweliadau i’r cynrychiolwyr yn ystod eu harhosiad byr yng Nghymru. Ffurfiwyd cysylltiadau newydd a gobeithio byddwn yn gallu datblygu’r rhain yn y misoedd a’r blynyddoedd nesaf. Diolch yn arbennig i Ganolfan y Milieniwm am gefnogi’r cyfarfod.

O ran cyllid, yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd Sefydliad Baring gylch agored newydd o gyllid i sefydliadau celfyddydau a hoffai ddatblygu cyfleoedd celfyddydau cyfranogol newydd i ddynion sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae grantiau rhwng £20-£50k ar gael i brosiectau sy’n darparu cyfleoedd creadigol newydd i ddynion nad ydynt eisoes yn cymryd rhan, a thargedu’r dynion hynny sy’n lleiaf tebygol fel arall o gymryd rhan. Ochr yn ochr â hyn mae eu hadnodd newydd ‘Creatively Minded Men’ yn gasgliad o ymchwil, data ac astudiaethau achos ym maes cyfranogiad dynion mewn iechyd creadigol.

Gobeithio y gwnewch chi ymuno â ni yn un o’n Marchnadoedd Iechyd Creadigol wyneb yn wyneb wrth i ni deithio ledled Cymru i Gaerfyrddin, Casnewydd, Sir Ddinbych a Gwynedd. Mae’r digwyddiadau hyn, a gefnogir yn hael gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn annog rhwydweithio rhwng y celfyddydau, iechyd a gweithwyr proffesiynol trydydd sector ac yn parhau i gynyddu llwybrau atgyfeirio traws-sector a gwaith partneriaeth.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi’n fuan.

Ymlaen!

Previous Article

Next Article

Director's Blog - February 2024 | Blog y Cyfarwyddwr - Chwefror 2024
Menu
Search