Grŵp Llywio WAHWN
Mae Grŵp Llywio WAHWN yn cynnwys aelodau o’r Rhwydwaith sy’n cynrychioli ystod eang o wybodaeth ac arbenigedd ym maes y celfyddydau ac iechyd. Mae’r Grŵp yn cyfarfod bob chwarter i gefnogi’r Rhwydwaith yn wirfoddol ac mae’n ymrwymedig i godi proffil ymarfer y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru, drwy eiriolaeth, cynghori ar gyfeiriad strategol a’r rhaglen gan helpu i ddatblygu capasiti a gwytnwch y Rhwydwaith.

Claire Cressey
Mae Claire wedi gweithio yn sectorau’r celfyddydau ac elusen ers dros ugain mlynedd gan arbenigo mewn dod â chyfleoedd cerddoriaeth fyw rhagorol i gynulleidfaoedd cymunedol a grwpiau o bob oed sydd wedi’u heithrio’n gymdeithasol.

Justine Wheatley
Justine Wheatley yw Prif Weithredwr Peak, sy’n sefydliad celfyddydol yn y Mynyddoedd Du sy’n gweithio’n greadigol gydag artistiaid proffesiynol a chymunedau, gan ymateb i’r amgylchedd gwledig.

Prue Thimbleby
Artist helyg a hwylusydd straeon digidol yw Prue Thimbleby. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad cyflwyno a rheoli prosiectau Celfyddydol cyfranogol.

Siân Fitzgerald
Siân Fitzgerald yw Swyddog Datblygu Celf Gymunedol Cyngor Sir Ddinbych ac mae’n aelod o Bwyllgor Llywio’r Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Gogledd Cymru.

Wendy Keay-Bright
Athro Technoleg a Chynhwysiad a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Gymhwysol mewn Celf a Dylunio Cynhwysol (CARIAD) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yw Wendy Keay-Bright.

Susan Liggett
Susan Liggett yw Deon Cyswllt Ymchwil y Gyfadran Celfyddydau Gwyddoniaeth a Thechnoleg ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Dr Gill Windle
Gwyddonydd cymdeithasol yw Gill gyda chefndir mewn seicoleg gan weithio ar draws ffiniau disgyblaethol. Mae ei hymchwil yn cyfuno’r celfyddydau, gwyddoniaeth ac ymgysylltu cyhoeddus i ymchwilio i iechyd, llesiant, creadigrwydd a gwytnwch mewn bywyd hwyrach.

Liam Evans-Ford
Ar hyn o bryd mae Liam yn aelod o Bwyllgor Llywio’r Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Gogledd Cymru ac mae’n ymddiriedolwr Cwmni Theatr Tutti Frutti a Creu Cymru.

Carol Hiles
Mae gan Carol Hiles BA ac MA mewn Celfyddyd Gain a phrofiad sylweddol o weithio fel artist ym maes y celfyddydau ac iechyd. Bu’n Artist Preswyl i Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd GIG Gwent am un ar ddeg o flynyddoedd, ac yn dilyn hynny cafodd gyfnod preswyl yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.

Sarah Goodey
Rheolwr Datblygu’r Celfyddydau, GARTH (Gwent Arts in Health)

Alex Bowen
Rwyf i wedi ymwneud â’r Celfyddydau Cymunedol a’r Celfyddydau ar gyfer Iechyd/Llesiant ers dros 25 mlynedd, gan weithio yn Swydd Efrog ac yna symud i Gymru ar ôl streic y glowyr i helpu cymunedau lleol i roi ystyr newydd i’w bywydau gan ddefnyddio ffilm a’r celfyddydau i fynegi sut roedden nhw’n teimlo a chofnodi’r newidiadau yn eu cymunedau a’u bywydau.

Heather Parnell
Artist gweledol a chyhoeddus sydd wedi gweithio ym maes y Celfyddydau ac Iechyd ers 1990. Artist Preswyl Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

Chris Ryan
CHRIS RYAN yw Cyfarwyddwr Arts Care Gofal Celf (ACGC) ers deunaw mlynedd. Sefydlwyd ACGC yn 1987 ac mae’n cyflenwi amrywiaeth o raglenni celfyddydol, iechyd a llesiant ar draws gorllewin Cymru’n bennaf.

Dr Frances Williams
Ymgeisydd PhD ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion (yn astudio’r Celfyddydau mewn Iechyd fel mudiad cymdeithasol yng nghyd-destun datganoli).

Andrea Davies
Cydlynydd y Celfyddydau mewn Iechyd a Llesiant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dr Catrin Hedd Jones
Seicolegydd Siartredig sydd wedi gweithio yn y Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ers 2012. Mae Catrin yn ddarlithydd dwyieithog yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor ac yn angerddol dros ymchwilio a gwrando ar brofiad bywyd pobl sy’n byw gyda dementia.

Emily Underwood-Lee
